Ewch i’r prif gynnwys

Diwrnodau i ddeiliaid cynigion

Mae diwrnodau i ddeiliaid cynigion yn eich helpu i wneud yn siŵr eich bod yn dewis y lle cywir i astudio.

Mae ymweld â'r Ysgol Cemeg yn eich galluogi i gwrdd ag aelodau o'n staff academaidd, cael golwg ar ein cyfleusterau a phrofi awyrgylch yr Ysgol. Yn ddiweddar rydym wedi bod yn cynnal y digwyddiadau hyn yn rhithwyr.

Mae'r diwrnod fel arfer yn cynnwys:

  • cyflwyniadau rhagarweiniol
  • darlithoedd rhagflas
  • sgwrs un i un ag aelod o staff academaidd
  • teithiau dan arweiniad myfyrwyr o’n cyfleusterau addysgu
  • mynd ar daith dywys o gwmpas y Brifysgol
  • cyfleoedd i rieni gwrdd â staff
  • cinio yn ein caffeteria gyda staff a myfyrwyr

Bydd ymgeiswyr yn cael eu gwahodd drwy ebost i ddiwrnod i ddeiliaid cynigion yn yr Ysgol ar ôl derbyn eu cynnig.

Mae yna hefyd ddiwrnodau agored yn y Brifysgol sy'n dangos i chi beth sydd gan Brifysgol Caerdydd a Dinas Caerdydd i'w gynnig i fyfyrwyr yn ehangach.

I gael rhagor o wybodaeth am ein diwrnodau i ddeiliaid cynigion yr Ysgol, cysylltwch â'n tîm derbyn myfyrwyr.

Edrychwch ar Gemeg Caerdydd ar YouTube

Gallwch wylio ein profiad rhithwir ar unrhyw adeg i gael teimlad o fywyd yn Ysgol Cemeg Caerdydd trwy'r fideos ar ein sianel YouTube, gan gynnwys popeth o ddarlithoedd enghreifftiol i fywgraffiadau myfyrwyr a theithiau rhithwir.

Diwrnod agored rhithwir yr Ysgol Cemeg

Rydym yma i’ch helpu

Rydyn ni'n gwybod pa mor bwysig yw hi i chi gael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch i ddewis y brifysgol iawn i chi, ac rydyn ni am roi cymaint o gyfleoedd â phosib i chi ofyn cwestiynau i ni am astudio yma. Mae croeso i chi gysylltu â ni gan ddefnyddio'r manylion isod ar unrhyw adeg, a byddwn yn hapus i gysylltu ‘nôl â chi.

Rydym hefyd yn cynnig sgyrsiau un i un ag aelod o staff - os hoffech drefnu un o'r rhain, defnyddiwch y manylion cyswllt isod.

Yr Ysgol Cemeg