Ein safle yn y tablau
Cyhoeddir tablau cynghrair cenedlaethol a rhyngwladol yn flynyddol i helpu darpar fyfyrwyr i wneud dewisiadau gwybodus am wahanol sefydliadau.
Enw | Safle | Blwyddyn | Lleoliad |
---|---|---|---|
The Times a Sunday Times University Guide | 25 | 2023 | Cenedlaethol |
The Complete University Guide | 26 | 2023 | Cenedlaethol |
Guardian University Guide | 35 | 2023 | Cenedlaethol |
Rhestr QS o Brifysgolion Gorau'r Byd | 166 | 2023 | Rhyngwladol |
Rhestr Academaidd o Brifysgolion y Byd | 151-200 | 2022 | Rhyngwladol |
Rhestr Times Higher Education o Brifysgolion Gorau'r Byd | 187 | 2023 | Rhyngwladol |
The Times a The Sunday Times University Guide
Mae Prifysgol Caerdydd yn safle 25 yn Good University Guide 2023 The Times & The Sunday Times, sy’n golygu mai Caerdydd sydd â’r sgôr uchaf ymhlith prifysgolion Cymru.
Mae The Times a The Sunday Times University Guides yn mesur boddhad myfyrwyr, ansawdd ymchwil, rhagolygon graddedigion, cymwysterau mynediad, canlyniadau graddau a gyflawnir, cymarebau staff/myfyrwyr, gwariant ar wasanaethau a chyfleusterau a'r niferoedd sy'n gadael eu cyrsiau cyn eu cwblhau.
The Complete University Guide
Mae'r Brifysgol yn safle 26 yn The Complete University Guide 2023, ac ar frig y tabl cynghrair yng Nghymru.
Mae The Complete University Guide wedi cyhoeddi tablau cynghrair am brifysgolion a materion perthnasol ar-lein ers 2007. Mae'r tablau cynghrair fesul pwnc yn mesur pedair elfen: Boddhad Myfyrwyr, Safon Ymchwil, Safonau Mynediad a Rhagolygon Graddedigion.
Guardian University Guide
Mae'r Brifysgol yn safle 35 yn The Guardian University Guide ar gyfer 2023, yn sgorio'n dda am
- fodlon ar y cwrs
- fodlon â'r addysgu
Mae'r fethodoleg ar gyfer The Guardian University Guide yn canolbwyntio ar dablau cynghrair ar lefel pynciau. Mesurir naw elfen ystadegol wrth asesu ein perfformiad o ran sut yr addysgir pob pwnc.
Rhestr QS o Brifysgolion Gorau'r Byd
Ni yw'r Brifysgol orau yng Nghymru, yn safle 166 yn y byd, ac rydym yn parhau i fod ymhlith prifysgolion gorau'r DU. Rhestr QS o Brifysgolion Gorau'r Byd yw'r canllaw diffiniol i brifysgolion gorau'r byd.
Mae dros 3,000 o brifysgolion yn cael eu gwerthuso yn Rhestr QS o Brifysgolion Gorau'r Byd.
Tabl Cynghrair o Brifysgolion y Byd
Mae Prifysgol Caerdydd rhwng safleoedd 151 a 200 yn nhabl Rhestr Academaidd o Brifysgolion y Byd, tabl cynghrair dylanwadol o sefydliadau byd-eang.
Mae'r tabl yn rhestru 500 prifysgol orau'r byd, ac yn cael ei gydnabod fel meincnod o berfformiad rhyngwladol prifysgolion.
Rhestr Times Higher Education o Brifysgolion Gorau'r Byd
Mae Prifysgol Caerdydd yn safle rhif 187 ar Restr Times Higher Education o Brifysgolion Gorau'r Byd 2023.
Mae’r rhestr yn cynnwys dros 1,250 o brifysgolion, ac mae’n asesu prifysgolion ymchwil-ddwys ar draws eu holl genadaethau allweddol: addysgu, ymchwil, trosglwyddo gwybodaeth a gweledigaeth ryngwladol.
Rhestrau Effaith y Times Higher Education
Roedd Prifysgol Caerdydd yn y 101fed-200fed safle yn ei chyflwyniad cyntaf i Restrau Effaith y Times Higher Education.
Y Rhestrau Effaith yw'r unig dablau perfformiad byd-eang sy'n asesu prifysgolion yn unol â Nodau Datblygu Cynaliadwy (NDCau) y Cenhedloedd Unedig. Maen nhw’n archwilio'r effaith y gall prifysgol ei chael, yn benodol drwy edrych ar themâu tlodi, anghydraddoldeb, newid yn yr hinsawdd, diraddio'r amgylchedd, heddwch a chyfiawnder.
Mae'r Rhestrau Effaith yn enghreifftio’r gwaith sy'n cael ei wneud gan brifysgolion mewn cymunedau ac mae'n gyfle i daflu goleuni ar weithgareddau sefydliadol ac ymdrechion na fydd rhestrau eraill yn ymdrin â nhw.
Nodau Datblygu Cynaliadwy | Safle |
---|---|
Nod Datblygu Cynaliadwy 13 Gweithredu Hinsawdd | 4ydd yn y DU |
Nod Datblygu Cynaliadwy 3 Iechyd a Lles Da | 5ed yn y DU |
Nod Datblygu Cynaliadwy 14 Byw o Dan Ddŵr | 9fed yn y DU |
Nod Datblygu Cynaliadwy 12 Defnyddio a Chynhyrchu’n Gyfrifol | 12fed yn y DU |
Nod Datblygu Cynaliadwy 15 Bywyd ar Dir | 16eg yn y DU |