sbarc|spark
Bydd yr adeilad, a ddyluniwyd gan benseiri arobryn Hawkins\Brown, yn gweithio gyda busnesau a'r gymdeithas i greu, treialu a meithrin mentrau newydd.
Bydd gan y Ganolfan Arloesedd gysylltiadau rhyngwladol, a bydd yn fan bywiog lle bydd entrepreneuriaid, arweinwyr busnes, cynghorwyr proffesiynol, academyddion a myfyrwyr yn gallu cydweithio.
Bydd yr adeilad yn amgylchedd deniadol ac ysgogol i annog meddwl yn greadigol y tu hwnt i'r cyffredin ac archwilio posibiliadau newydd.
Bydd yn cynnwys unedau masnachol a lle mewn labordai ar gyfer cwmnïau deillio a busnesau newydd. Bydd ei adnoddau hefyd yn cynnwys Ardal Ail-greu a chanolfan ddelweddu fydd yn eich helpu i gydweithio ag eraill i wireddu eich syniadau.
Elfen allweddol o sbarc yw'r gofod cymdeithasol, a'r gofod a rennir, i greu amgylchedd sy'n hybu creadigrwydd ac arloesedd, a chydweithio.
Porth at arloesedd
Bydd adeilad sbarc yn cael ei adeiladu ar safle Heol Maendy fel rhan o’r Campws Arloesedd. Bydd yn gartref i ddau gyfleuster, y ddau yn gweithio gyda busnes a’r gymdeithas ehangach i wneud syniadau da yn realiti.
Mae’r dyluniad yn cynnwys caffis ac ardaloedd creadigol, mannau cyhoeddus agored a meysydd parcio.
Rhagor o wybodaeth am weithio gyda ni
Yn fyr
- Gwaith yn dechrau: 2018
- Gwaith wedi'i gwblhau: I'w gadarnhau
- Cost: £50m
Mehefin 2018 - Prifysgol Caerdydd yn arwyddo cytundeb Campws Arloesol
Awst 2018 - Gwaith yn cychwyn ar Gampws Arloesedd Caerdydd

Mae risg ac ansicrwydd yn rhan annatod o arloesedd. Mae'r Ganolfan Arloesedd yn lliniaru'r ddwy elfen drwy hyrwyddo ethos arloesedd cynhwysol a chydweithredol.
Oes gennych chi ddiddordeb mewn symud eich busnes? Csylltwch: