Ewch i’r prif gynnwys

Canolfan Bywyd y Myfyrwyr

Mae'r Ganolfan Bywyd y Myfyrwyr ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, 08:00 - 20:00

Fideo Canolfan Bywyd y Myfyrwyr

Mae Canolfan Bywyd y Myfyrwyr yn adeilad myfyrwyr eiconig yng nghanol y Brifysgol.

Mae Canolfan Bywyd y Myfyrwyr yn rhan o brosiect dan arweiniad gwasanaethau mewn partneriaeth gydag Undeb y Myfyrwyr ac yn rhan o’r gwaith uwchraddio mwyaf ar y campws ers cenhedlaeth. Mae'n ffrwyth partneriaeth lwyddiannus a dynamig y mae’r Brifysgol yn falch o’i mwynhau gyda’i chorff o fyfyrwyr.

Bydd yr adeilad newydd yn gartref i dimau Bywyd Myfyrwyr y Brifysgol a bydd yn cynnig gwasanaethau megis cymorth i astudio, iechyd a lles, paratoi ar gyfer y dyfodol, rheoli arian a byw yng Nghaerdydd. Bydd hefyd yn cynyddu'r cysylltiadau ag Undeb y Myfyrwyr ac yn gwella'r gwasanaethau a ddarperir yno eisoes.

Yn fyr

  • Gwaith yn dechrau: Yn gynnar 2018
  • Gwaith wedi’i gwblhau: Hydref 2021
  • Mae disgwyl i’r gwaith amgylchfyd cyhoeddus gael ei gwblhau: Ionawr 2022
  • Pensaer: Feilden Clegg Bradley Studios
  • Contractwr cyn adeiladu: BAM Construction

Mae Canolfan Bywyd y Myfyrwyr yn rhan o'n hymrwymiad i gynnig profiad rhagorol i fyfyrwyr a fydd yn trawsnewid y ffordd rydym yn darparu gwasanaethau cefnogi myfyrwyr. Bydd gwella ein gwasanaethau yn sicrhau bod ein myfyrwyr yn teimlo’r gefnogaeth i lwyddo drwy gydol eu taith myfyriwr, o ymgeisydd  â diddordeb i gynfyfyriwr balch Prifysgol Caerdydd.

Fel rhan o’r trawsnewidiad, rydym yn datblygu gwasanaethau ar-lein 24 awr ac yn ymestyn ein horiau agor i sicrhau gwell hygyrchedd i’n myfyrwyr gan gynnwys rhai ym Mharc y Mynydd Bychan, ein dysgwyr o bell ac ar gyfer rhai sydd ar leoliad neu’n astudio dramor.

Bydd yr adeilad newydd yn gartref i dimau Bywyd Myfyrwyr y Brifysgol a bydd yn cynnig gwasanaethau megis cymorth i astudio, iechyd a lles, paratoi ar gyfer y dyfodol, rheoli arian a byw yng Nghaerdydd. Bydd hefyd yn cynyddu'r cysylltiadau ag Undeb y Myfyrwyr ac yn gwella'r gwasanaethau a ddarperir yno eisoes.

Diweddariadau

DyddiadGweithgareddau a gynllunir

Hydref 2021

Bydd Canolfan Bywyd y Myfyrwyr yn agor ar gyfer addysgu ddydd Llun 4 Hydref 2021.

Bydd gwasanaethau Bywyd Myfyrwyr yn parhau i fod ar gael ar-lein tan ddydd Llun 11 Hydref 2021.

Medi 2021

Bydd gwaith celf tri myfyriwr israddedig yn cael eu troi’n osodiadau finyl ar raddfa fawr pan fydd Canolfan Bywyd y Myfyrwyr yn agor.

Cyflwynodd y myfyrwyr eu dyluniadau fel rhan o gystadleuaeth a lansiwyd ym mis Mawrth 2021 i ddod o hyd i gelfwaith gwreiddiol i’w osod yn yr adeilad nodedig newydd ym Mhlas y Parc a fydd yn agor ar 4 Hydref 2021.

Cynlluniodd yr enillwyr, myfyrwyr blwyddyn olaf Shreshth Goel, Lizzie Eves ac Isaac Slater, eu ceisiadau ar gyfer mannau penodol yn yr adeilad.

Rhagor o wybodaeth am y rhesymeg y tu ôl i'w gwaith celf a chael cipolwg ar eu dyluniadau.

Ionawr 2021

O fis Ionawr ymlaen bydd nifer y lleoedd parcio ym maes parcio'r Prif Adeilad yn lleihau dros dro i gynnwys caban lles ar gyfer staff adeiladu sy'n gweithio yng Nghanolfan Bywyd y Myfyrwyr.

Bydd llai o leoedd parcio ym maes parcio'r Prif Adeilad o fis Ionawr wrth i 24 o leoedd (o gyfanswm o 120 o leoedd) gael eu defnyddio ar gyfer caban lles sy'n caniatáu gweithwyr adeiladu ychwanegol ar safle Canolfan Bywyd y Myfyrwyr, wrth lynu at ganllawiau coronafeirws y llywodraeth (COVD-19). Bydd hyn yn sicrhau bod y pandemig yn cael yr effaith leiaf bosibl ar ddyddiad cwblhau'r adeilad, sydd i fod yr haf hwn.

Bydd Maes Parcio'r Prif Adeilad ar gau er mwyn i'r cabanau hyn gael eu cludo o ddydd Llun 4 Ionawr i ddydd Llun 11 Ionawr.

Ar hyn o bryd mae lle ym maes parcio Rhodfa Colum, sy'n daith gerdded fer rhwng pump a deg munud o'r Prif Adeilad.

Mae meysydd parcio Parc Cathays ar gael dros dro i holl staff Parc Cathays sy'n gweithio ar y campws ar sail y cyntaf i'r felin heb unrhyw gost.

Hydref 2020

Mae fideo newydd sy’n nodi’n rhithwir bod strwythur Canolfan Bywyd Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd wedi’i gwblhau, yn dangos pa mor bell mae’r gwaith adeiladu ar yr adeilad hwn, fydd yn trawsnewid canolfan ddinesig Caerdydd, wedi dod.

Gwyliwch y fideo

Hydref 2020

Bydd Plas y Parc yng Nghaerdydd ar gau i draffig y ddwy ffordd rhwgn 06:00 ar ddydd Sul 17 Hydref tan 20:00 ar ddydd Sul 18 Hydref.

Mae'r heol, sy'n mynd heibio Prif Adeilad Prifysgol Caerdydd, yn cael ei chau er mwyn caniatáu i graen tŵr gael ei dynnu oddi ar safle adeiladu'r Ganolfan Bywyd y Myfyrwyr.

Bydd Plas y Parc ar gau rhwng Costa Coffee, gyferbyn â'r Prif Adeilad, a Meithrinfa Prifysgol Caerdydd i'r de.

Bydd Lôn Cathays, ger Costa Coffee, hefyd ar gau yn ystod y dydd (07:00 tan 19:00 ar ddydd Sadwrn a Sul) ond ar agor ar ôl 19:00 pob nos.

Bydd y palmant ar ochr Prif Adeilad y Brifysgol yn parhau i fod ar agor i gerddwyr yn ystod y cyfnod hwn.

Medi 2020

Mae Prifysgol Caerdydd wedi gosod lifft parhaol ym mynedfa Plas y Parc Undeb y Myfyrwyr. Rydym yn aros i'r lifft gael profion diogelwch llawn cyn y gellir ei ddefnyddio. Yn y cyfamser, dylai ymwelwyr sydd angen defnyddio'r lifft fynd i fynedfa Ffordd Senghennydd am gyfnod amhenodol.

Os oes angen cymorth ar unrhyw fyfyriwr i fynd o Blas y Parc i Ffordd Senghennydd (a fel arall) gallwch wneud cais am dacsi drwy gysylltu ag Undeb y Myfyrwyr (@cardiffstudents - Ffôn: 029 2078 1400). Gall unrhyw un sydd â phryderon ynghylch mynd i mewn i’r adeilad yn ystod y cyfnod hwn gysylltu â ni hefyd.

Mai 2020

Bydd Plas y Parc yng Nghaerdydd ar gau i draffig y ddwy ffordd rhwgn 06:00 ar ddydd Sul 30 Mai tan 18:00 ar ddydd Sul 31 Mai.

Mae'r heol, sy'n mynd heibio Prif Adeilad Prifysgol Caerdydd, yn cael ei chau er mwyn caniatáu i graen tŵr gael ei dynnu oddi ar safle adeiladu'r Ganolfan Bywyd y Myfyrwyr.

Bydd Plas y Parc ar gau rhwng Costa Coffee, gyferbyn â'r Prif Adeilad, a Meithrinfa Prifysgol Caerdydd i'r de.

Bydd Lôn Cathays, ger Costa Coffee, hefyd ar gau yn ystod y dydd (07:00 tan 19:00 ar ddydd Sadwrn a Sul) ond ar agor ar ôl 19:00 pob nos.

Bydd y palmant ar ochr Prif Adeilad y Brifysgol yn parhau i fod ar agor i gerddwyr yn ystod y cyfnod hwn.

Mae BAM Construction yn parhau i weithio ar Ganolfan Bywyd y Myfyrwyr ar Blas y Parc, ond byddant yn amddiffyn eu gweithlu ar y safle drwy ddilyn canllawiau gweithredu newydd wedi'u diffinio gan y llywodraeth a'r diwydiant adeiladu.

Tachwedd 2019

Bydd y gwaith i gael gwared o risiau Undeb y Myfyrwyr yn cychwyn o 18 Tachwedd.  Bydd yr adeilad yn parhau ar agor. Bydd yn dal i fod yn bosibl cael mynediad i Undeb y Myfyrwyr o Blas y Parc drwy fynediad dros dro newydd ar waelod y llwybr sy'n rhedeg ochr yn ochr â gorsaf Cathays (ger Costa Coffee) a'r cledrau rheilffordd. O 18-30 Tachwedd, ni fydd mynediad lifft o Blas y Parc, ond bydd lifftiau ar ochr Heol Senghennydd o Undeb y Myfyrwyr yn gweithredu fel arfer. Cysylltwch ag Undeb y Myfyrwyr (@cardiffstudents - StudentsUnion@Cardiff.ac.uk - Ffôn 029 2078 1400) os bydd gennych chi bryderon ynghylch mynd i mewn i’r adeilad yn ystod y cyfnod yma. Mae disgwyl i’r lifft newydd ar Blas y Parc fod yn weithredol o 30 Tachwedd, a bydd modd ei gyrraedd trwy’r fynedfa dros dro ar Blas y Parc. Bydd y trefniadau mynediad newydd i Undeb y Myfyrwyr yn eu lle tan fis Chwefror 2021.

O Ebrill 2019 ymlaen

Adeiladu fframyn concrit

Tarfu

Y problemau mwyaf cyffredin a fydd yn cael eu creu gan y gwaith adeiladu fydd llwch a sŵn. Mae llwch a sŵn yn rhan anochel o waith adeiladu, ond gellir eu rheoli drwy dechnegau gwlychu. Wrth i'r prosiect ddechrau datblygu, hoffem ddiolch i chi am fod yn amyneddgar.

Diogelwch yw'r flaenoriaeth. Bydd y cwmni adeiladu yn creu safle sy'n addas ar gyfer yr ardal o'i gwmpas gan wneud yn siŵr bod y gwaith adeiladu ac amgylchedd y Brifysgol wedi'u gwahanu'n effeithiol. Bydd aelod o dîm y safle yn cael ei benodi i weithio’n agos gyda’r Brifysgol i wneud yn siŵr bod staff, myfyrwyr ac ymwelwyr yn ddiogel.

Hygyrchedd

Bydd y fynedfa i orsaf drenau Cathays yn parhau ar agor drwy gydol y cyfnod adeiladu.

Bydd mynedfa newydd a thros dro i'r Undeb yn cael ei hadeiladu ar Blas y Parc, ac yn parhau yno drwy gydol y gwaith adeiladu. Bydd modd cael mynediad fel arfer o Ffordd Senghennydd.

Mae Canolfan Bywyd y Myfyrwyr wedi’i dylunio gyda chynaliadwyedd mewn cof. Bydd yn canolbwyntio ar leihau yr ynni a ddefnyddir, cyflenwi ynni yn effeithlon, a lle’n bosib, defnyddio technoleg adnewyddadwy i leihau ôl troed carbon yr adeilad. Mae rhai o’r nodweddion dylunio yn cynnwys celloedd ffotofoltäeg, defnyddio awyru naturiol, to gwyrdd a goleuadau ynni effeithlon.

Bydd yr adeilad yn cael ei asesu o dan Ddull Asesu Amgylcheddol y Sefydliad Ymchwil Adeiladu (BREEAM) ac mae yna bosiblrwydd cryf bod yr adeilad yn mynd i gyflawni sgôr ‘Rhagorol’ BREEAM. Mae BREEAM yn mesur gwerth cynaliadwy mewn cyfres o gategorïau, yn amrywio o ynni i ecoleg.