Ewch i’r prif gynnwys

Canolfan Ymchwil Delweddu'r Ymennydd

Derbynfa CUBRIC
Derbynfa ac ardal seddi tu mewn i adeilad CUBRIC.

Mae Canolfan Ymchwil Delweddu’r Ymennydd (CUBRIC) blaenllaw, gwerth £44m, yn cyfuno arbenigedd o'r radd flaenaf ym maes mapio'r ymennydd â'r gwaith diweddaraf ym maes delweddu'r ymennydd ac ysgogi’r ymennydd.

Yn fyr

  • Cwblhawyd: Mehefin 2016
  • Cost: £44m
  • Pensaer: IBI Group
  • Contractwr: BAM Construction

Mae’r adeilad, a agorwyd gan Ei Mawrhydi’r Frenhines, yn amgylchedd eang sy'n gydweithredol a chynaliadwy. Mae’r tu mewn yn canolbwyntio ar ddeunyddiau cyfoethog fel pren, lliwiau amlwg a siapiau geometrig i greu gofod proffesiynol ond hamddenol.

Mae’r cyfleusterau ymchwil yn cynnwys sganiwr ymennydd mwyaf pwerus Ewrop, y System 'MRI Connectom Tesla Siemens 3,' sganiwr MRI sydd wedi addasu’n arbennig. Mae'n werth nodi mai dim ond ym Mhrifysgol Harvard yn UDA ceir sganiwr fel hyn yn y byd.

Mae’r adeilad yn gartref i'r Cyfleuster Ymchwil Glinigol, amgylchedd pwrpasol ar gyfer cleifion a gwirfoddolwyr i gymryd rhan mewn ymchwil meddygol a threialon clinigol. Mae hyn yn cynnwys labordy cysgu a chyfleusterau i astudio ffisioleg serebro-fasgwlaidd.

  • 4 sganiwr delweddu atseiniol magnetig (MRI) labs
  • 5 labordy ysgogi'r ymennydd
  • 10 labordy dull gwybyddol

Mae'r cyfoeth unigryw o arbenigedd ac offer yn CUBRIC yn ein galluogi i ateb ystod eang o gwestiynau am yr ymennydd yng nghyd-destun iechyd ac afiechydon. Mae hefyd yn hwyluso cydweithio academaidd a diwydiannol ar lefelau cenedlaethol a rhyngwladol.

Yr Athro Derek Jones Cyfarwyddwr CUBRIC