Ewch i’r prif gynnwys

Gwybodaeth am ddatblygiadau’r campws

Rydym yn cynnal ein gwaith uwchraddio mwyaf ar y campws ers cenhedlaeth –buddsoddiad o £600m yn ein dyfodol.

Rydym yn creu Campws Arloesedd £300m, gwario £260m ar ein haddysgu, dysgu a phrofiad y myfyrwyr a buddsoddi £40m mewn mentrau i sbarduno twf yn yr economi a’r sector diwydiannol.

Bydd y gwaith uwchraddio sylweddol hwn yn trawsffurfio’r campws ar gyfer yr 21ain ganrif.

Buddsoddiad Campws Arloesedd

Mae’r prosiect £300m yn trawsnewid hen iard rheilffordd segur i fan ymchwil arloesol wedi cychwyn eisoes, gyda dau gyfleuster wedi agor a gwaith yn dechrau ar ddau adeilad arall.

Cam cyntaf y Campws Arloesedd oedd cwblhau Adeilad Hadyn Ellis a’r Ganolfan Ymchwil Delweddu’r Ymennydd Prifysgol Caerdydd (CUBRIC)

Bydd y cam diweddaraf £135m yn gweld dau ganolfan rhagoriaeth newydd yn agor, sbarc a’r Cyfleuster Ymchwil Drosiadol.

Trawsnewid ein mannau dysgu i fyfyrwyr

Rydym yn gwario £260m ar ddysgu, addysgu, a phrofiad y myfyrwyr, er mwyn gwella cyfleusterau sy’n bodoli eisoes a datblygu rhai newydd.

Bydd gwaith adeiladu yn dechrau yn 2018 ar ein Canolfan Bywyd y Myfyrwyr sydd werth £50m.

Rydym hefyd wedi dechrau’r broses tendr ar gyfer:

  • cartref newydd ar y cyd ar gyfer yr Ysgol Mathemateg a’r Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg. Y nod yw creu canolfan ragoriaeth 10,0002 m2 a fydd yn darparu dysgu ac ymchwil arloesol.
  • neuadd breswyl newydd ar gyfer mwy na 700+ o fyfyrwyr ar ein safle Talybont.

Fel rhan o’n rhaglen Trawsnewid Llyfrgelloedd, mae achos busnes yn cael ei ddatblygu ar gyfer llyfrgell newydd. Yn y cyfamser, rydym yn parhau i gyflwyno technoleg newydd ac rydym yn ail-lunio’r ffordd mae llyfrgelloedd yn gweithio i baratoi ar gyfer y cyfleuster newydd.