Ewch i’r prif gynnwys

Arloesedd y Brifysgol yn tanio twf economaidd yng Nghymru

2 Hydref 2014

Model of the proposed Social Science Research Park
Model of the proposed Social Science Research Park

Mae gweledigaeth uchelgeisiol am dwf trwy arloesedd a fydd yn hybu economi Cymru wedi'i chyhoeddi gan yr Is-ganghellor.

Mae'r Athro Colin Riordan wedi amlinellu cynlluniau i'r Brifysgol fod yn gyfrwng cydnabyddedig yn rhyngwladol ar gyfer ffyniant, iechyd a thwf yng Nghymru, y Deyrnas Unedig a'r byd ehangach yn y dyfodol.

Cynigiodd y byddai tua £300m yn cael ei fuddsoddi mewn adeiladau newydd i wireddu ei weledigaeth.

Mae hyn yn cynnwys cynlluniau i adeiladu Parc Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol, y cyntaf yn y byd, a fyddai'n gallu troi ymchwil o'r radd flaenaf yn atebion i'r problemau mawr sy'n wynebu cymdeithas a'r byd.

Datgelodd ei weledigaeth i gynulleidfa wedi'i dwyn ynghyd o fyd busnes, diwydiant, y llywodraeth a'r byd academaidd yng Ngŵyl Arloesi Camu Ymlaen cyntaf y Brifysgol ddydd Iau.

Nod y Brifysgol, gan weithio mewn partneriaeth â rhanddeiliaid allweddol a buddsoddi mewn cyfleusterau a phobl, yw bod yn dynfa ar gyfer menter, creadigrwydd ac arloesedd ar ran dinas-ranbarth Caerdydd.

Mae'r Brifysgol eisiau datblygu ymhellach gydberthnasau â busnes, y llywodraeth, y sector gwirfoddol a chymdeithas sifil ym mhob maes, gan gynnwys y gwyddorau bywyd, peirianneg, gweithgynhyrchu a'r economïau creadigol a digidol.

Byddai pedwar adeilad newydd arfaethedig yn trawsnewid safle ar Maindy Road o fod yn hen safle diwydiannol segur, yn gampws modern:

Parc Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol (SPARK)

Byddai Parc Ymchwil arfaethedig y Gwyddorau Cymdeithasol, y cyntaf o'i fath yn y byd, yn dynfa ar gyfer arweinwyr ymchwil cenedlaethol a rhyngwladol. Byddai'n cynyddu'r gallu i gynnal ymchwil ôl-raddedig ac yn annog amgylchedd dysgu a gweithio cydweithredol ar gyfer creu, rhannu a chymhwyso gwybodaeth newydd.

Canolfan Arloesi

Nod y Ganolfan Arloesi arfaethedig yw cynnig lle, cyngor a chymorth fforddiadwy, o safon uchel i gwmnïau newydd, ar delerau hyblyg, fel y gall eu cwmnïau dyfu a dod yn annibynnol. Byddai cwmnïau deillio'r Brifysgol, entrepreneuriaid sy'n staff ac yn raddedigion, neu bobl leol â syniadau busnes da oll yn gallu manteisio ar y Ganolfan Arloesi ac elwa ar ei hamgylchedd entreprenuraidd.

Cyfleuster Cymhwyso Ymchwil

Byddai'r cyfleuster ymchwil amlddisgyblaeth yn cynorthwyo i droi ymchwil ac arloesedd academaidd yn gymwysiadau ymarferol, perthnasol sy'n sicrhau buddion i gymdeithas, gofal iechyd, diwylliant a'r economi.

Athrofa Ymchwil i Dechnoleg Lled-ddargludyddion Cyfansawdd

Byddai'r athrofa arfaethedig, cyfleuster unigryw yn y Deyrnas Unedig, yn arddangos ac yn profi technoleg lled-ddargludyddion cyfansawdd mewn amgylcheddau realistig. Byddai'n darparu cyfleusterau o'r radd flaenaf sy'n caniatáu am ymwneud yn helaethach â diwydiant, ac ymchwil a datblygiad rhagorol, er mwyn rhoi Caerdydd mewn safle cadarn i fod yn arweinydd y DU ac Ewrop ar gymhwyso ymchwil yn y maes hwn.

Meddai'r Athro Riordan: "Mae System Arloesi Caerdydd yn paru buddsoddiad sy'n werth miliynau o bunnoedd â gweledigaeth i roi arloesedd ac entrepreneuriaeth yn ganolog i'n strategaeth.

"Trwy weithio gyda llywodraethau Cymru a'r DU, awdurdodau lleol fel Cyngor Caerdydd, y GIG yng Nghymru, partneriaid busnes a chymdeithas sifil, gall System Arloesi Caerdydd sefydlu'r Brifysgol, y Ddinas a Chymru'n arweinwyr rhyngwladol ym maes arloesi.

"Bydd System Arloesi Caerdydd yn helpu i ni ddangos perthnasedd ein gwaith i'r cymunedau a wasanaethwn, yn cysylltu diwydiant, busnes, llywodraeth ac elusennau â'n hysgolheigion yn well, ac yn meithrin entrepreneuriaeth ymhlith myfyrwyr a datblygiad busnes ar lawr gwlad.

"Mae hyrwyddo Cymru fel prifddinas creu swyddi a chyfoeth, ffynhonnell graddedigion medrus iawn a chanolbwynt ffyniannus ar gyfer arloesi a masnacheiddio, yn neges bwerus i'w hanfon i'r gymuned ryngwladol.

"Trwy System Arloesi Caerdydd, gallwn ddefnyddio'r cryfderau sydd gennym ym Mhrifysgol Caerdydd ac ysgogi'r fath newid fel bod Cymru'n ddelfryd ar gyfer yr economi wybodaeth."

Yn ogystal, amlinellodd yr Athro Riordan sut byddai'r Brifysgol yn datblygu ac yn ymgorffori ethos arloesedd ar draws y Brifysgol.

Mae cynlluniau'n cynnwys rhaglen i ymarferwyr/arloeswyr preswyl, datblygiad sgiliau a hyfforddiant lefel uchel i fyfyrwyr ôl-raddedig, a datblygu addysg bresennol ar fenter a chyfleoedd i gryfhau'r diwylliant meddwl entrepreneuraidd ac arloesol ymhlith myfyrwyr.

Mae achosion busnes yn cael eu datblygu ar gyfer yr adeiladau newydd arfaethedig ac yn destun cymeradwyaeth Cyngor y Brifysgol (ei chorff llywodraethol).