Ewch i’r prif gynnwys

Prosiectau

Abacws

Abacws

Bydd cartref newydd yr Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg a'r Ysgol Mathemateg yn cefnogi twf y ddwy ddisgyblaeth ac yn cynnig cyfleoedd i wneud mwy o ymchwil a gwaith ar y cyd.

CUBRIC

CUBRIC

Mae gan CUBRIC gyfleusterau sy'n unigryw yn Ewrop, ac mae'n arwain y gwaith o ddatblygu gwell triniaethau meddygol.

Canolfan Bywyd y Myfyrwyr

Canolfan Bywyd y Myfyrwyr

Rydym yn adeiladu adeilad eiconig i fyfyrwyr yng nghanol y Brifysgol, Canolfan Bywyd y Myfyrwyr.

Adeilad Hadyn Ellis

Adeilad Hadyn Ellis

Mae adeilad Hadyn Ellis yn dwyn ynghyd, am y tro cyntaf, arbenigwyr mewn cyflyrau fel sgitsoffrenia, clefyd Alzheimer ac ymchwil bôn-gell canser.

Rhaglen Mannau Dysgu Ffisegol

Rhaglen Mannau Dysgu Ffisegol

Rydym wedi dechrau rhaglen dreigl gwerth £40m, sy'n cynnwys gwaith sylweddol i drawsnewid mannau dysgu ac addysgu, ynghyd â gwelliannau i gelfi, gosodiadau, ffitiadau ac offer clyweledol.

Canolfan Addysgu Ôl-raddedigion

Canolfan Addysgu Ôl-raddedigion

Agorwyd y cyfleuster gwerth £13.5m ym mis Medi 2014, ac mae’n gartref i’r ystafell fasnach fwyaf o’i math yng Nghymru, ystafell Addysg Weithredol, darlithfeydd ac ystafelloedd addysgu a chyfredin.

sbarc|spark

sbarc|spark

Mae sbarc yn dod â syniadau'n fyw.

Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd

Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd

Bydd cartref newydd i Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd yn cefnogi twf ac yn darparu cyfleusterau pwrpasol ar gyfer mwy o addysg efelychu

Cartref newydd i'r Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant

Cartref newydd i'r Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant

Mae'r Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant yn symud i leoliad newydd yng nghanol y ddinas ochr yn ochr â BBC Cymru Wales.

Porth Talybont

Porth Talybont

Cwblhawyd y breswylfa myfyrwyr yn 2014, ac mae ardaloedd cymunedol mawr gydag amrywiaeth o gyfleusterau yn yr adeilad.

Y Ganolfan Ymchwil Drosi

Y Ganolfan Ymchwil Drosi

Cartref i ddau sefydliad sydd ar flaen y gad: mae un ohonynt ar ddechrau taith sy'n torri tir newydd yn ei faes, tra bod y llall eisoes wedi ennill ei blwyf ac am dyfu ymhellach.