Ewch i’r prif gynnwys

Cartref newydd i'r Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant

Two Central Square Entrance

Cartref newydd i'r Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant

Mae’r Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant wedi symud i leoliad newydd yng nghanol y ddinas ochr yn ochr â BBC Cymru Wales ac yn agos i Reach, lle caiff papurau newydd megis WalesOnline, y Western Mail a’r South Wales Echo eu creu.

Mae adleoli’n helpu’r Ysgol i ddatblygu cysylltiadau cryfach â byd diwydiant a hybu cyflogadwyedd myfyrwyr drwy gael mynediad uniongyrchol at sefydliadau blaenllaw yn y cyfryngau.

Cynllun a thu mewn yr adeilad

Two Central Square main lecture theatre

Cafodd y penseiri IBI eu comisiynu i ddylunio cynllun yr Ysgol a’i haddurno, sy’n cynnwys:

  • Pedair darlithfa gan gynnwys darlithfa 300 sedd
  • Chwe ystafell newyddion a phedair ystafell olygu, pob un ag adnoddau cyfrifiadurol arloesol – gan wneud yn siŵr eu bod yn gwbl unol â safonau'r diwydiant
  • Dwy stiwdio deledu a dwy stiwdio radio, dwbl yr hyn oedd gan yr adeilad blaenorol i'w gynnig, gyda thechnoleg wedi'i diweddaru a'i gwella
  • Labordy Arloesi ac Ymgysylltu newydd – lle bydd myfyrwyr yn datblygu sgiliau trwy ddysgu ymarferol dan arweiniad ymchwil mewn gwyddorau data, codio cyfrifiadurol a datblygiad digidol. Bydd y lab yn cynnig ffyrdd newydd a chyffrous i newyddiadurwyr ac ymarferwyr cyfryngau i adrodd eu straeon
  • Y Ganolfan Newyddiaduraeth Gymunedol

Yn gryno

  • Wedi cwblhau: Medi 2018
  • penseiri: IBI Group
  • contractwyr: ISG.

Mae'r Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant yn un o ysgolion mwyaf blaenllaw y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol. Mae nifer o'n myfyrwyr wedi mynd yn eu blaenau i fwynhau gyrfaoedd proffil uchel. Bydd y buddsoddiad yma yn Dau Sgwâr Canolog yn gwneud yn siŵr ein bod ni'n parhau i chwarae rhan flaenllaw yn datblygu ymchwil ac addysgu yn y sectorau newyddiadurol, cyfryngol a diwylliannol.

Yr Athro Stuart Allan Pennaeth yr Ysgol

Dyluniad cynaliadwy

Mae gan y dyluniad darged o gael sgôr BREEAM ardderchog. Mae'r gwahanol denantiaid yn cefnogi hyn, gyda chytundeb les werdd sy'n cynnwys prosesau caffael cynaliadwy, ansawdd aer a dŵr, a chynlluniau teithio.

Central square