Ewch i’r prif gynnwys

Adeilad Hadyn Ellis

Tu allan i adeilad Hadyn Ellis
Tu allan i adeilad Hadyn Ellis

Mae adeilad Hadyn Ellis, sydd werth £30m, yn dwyn ynghyd, am y tro cyntaf erioed, arbenigwyr mewn cyflyrau fel sgitsoffrenia, clefyd Alzheimer ac ymchwil bôn-gelloedd canser.

Yn fyr

  • Cwblhawyd: Tachwedd 2013
  • Cost: £30m
  • Pensaer: Nightingale Associates
  • Contractwr: BAM Construction

Mae’r adeilad yn gartref i Sefydliad Ymchwil Bôn-gelloedd Canser Ewropeaidd blaenllaw'r Brifysgol a Sefydliad Arloesedd Niwrowyddoniaeth ac Iechyd Meddwl. Ceir labordai Canolfan yr MRC ar gyfer Geneteg a Genomeg Niwroseiciatrig yn ogystal.  Mae’r adeilad hefyd yn gartref i’r theatr sydd â lle i 150 person a man arddangos cyhoeddus.

Mae’r adeilad wedi’i enwi er cof am ddiweddar Is-Ganghellor y Brifysgol a’r seicolegydd gwybyddol arloesol, yr Athro Hadyn Ellis.

Dyluniad llwyddianus

Enillodd Adeilad Hadyn Ellis y categori Addysg Uwch yng Ngwobrau Dull Asesu Amgylcheddol y Sefydliad Ymchwil Adeiladu (BREEAM) Cymru 2012. Mae hon yn brif wobr sy'n cydnabod cynaliadwyedd yr adeilad newydd.

Mae’r Sefydliad Ymchwil Adeiladau yn rhoi gwobrau BREEAM i’r adeiladau sy’n sgorio uchaf i ennill y radd ‘rhagorol’ am y ffordd amryddawn maent yn ymateb i heriau'r amgylchedd.

Mae Adeilad Hadyn Ellis yn le gwych i weithio ynddo. Mae’r bobl a’r offer gorau wedi dod at ei gilydd mewn adeilad sydd wedi cael ei ddylunio i’n galluogi ni i ryngweithio mewn ffordd ystyrlon.

Dr Lee Parry Cymrawd Ymchwil