Ewch i’r prif gynnwys

Rhaglen Mannau Dysgu Ffisegol

Theatr Ddarlithi Tŷ Dewi Sant 1
Theatr Ddarlithi Tŷ Dewi Sant 1

Rydym wedi dechrau rhaglen dreigl gwerth £41m i drawsnewid mannau dysgu ac addysgu, ynghyd â gwelliannau i gelfi, gosodiadau, ffitiadau ac offer clyweledol.

Mae ystafelloedd yng Nghampws Parc y Mynydd Bychan, Adeilad Morgannwg, y Prif Adeilad, ac Adeilad y Frenhines wedi cael eu hailwampio fel rhan o raglen i weddnewid mannau dysgu ac addysgu ar draws y Brifysgol.

Ymhlith y gwelliannau eraill mae gwell acwsteg, darparu pŵer wrth ddesgiau sefydlog fel bod myfyrwyr yn gallu gwefru dyfeisiau, a systemau gwresogi ac awyru mwy effeithiol ac effeithlon.

Mae technoleg recordio digwyddiad hefyd wedi cael ei gosod mewn ystafelloedd addysgu, er mwyn galluogi recordio darlithoedd, arddangosiadau a digwyddiadau eraill.

Y bwriad yw cyflwyno rhagor o welliannau tan 2023.

Rydym bob amser yn chwilio am y myfyrwyr mwyaf talentog o Gymru, y DU a thu hwnt, felly mae'n hynod bwysig cynnig y cyfleusterau gorau posibl iddynt, i'w helpu i gyflawni eu potensial.