Ewch i’r prif gynnwys

Trwyddedu ein canfyddiadau ymchwil

Mae canlyniadau ein gwaith ymchwil yn chwarae rhan allweddol wrth feithrin arloesedd, cefnogi datblygiad cymdeithasol ac economaidd a chyfrannu at welliannau mewn iechyd ac ansawdd bywyd.

Rydym yn gweithio i sicrhau bod canlyniadau ein gwaith ymchwil yn cael eu defnyddio er y budd ehangaf posibl. Rydym yn gwneud hyn i gyd mewn cydweithrediad â nifer o bartneriaid, gan gynnwys cwmnïau lleol a chorfforaethau amlwladol, llywodraeth ac asiantaethau rhyngwladol, a nifer o gyrff eraill ledled y byd.

Nodwch, mae'r fideo isod ar gael yn Saesneg yn unig.

Gwyliwch gwobrau mentrau busnes newydd 2014 ar Youtube

Mae gwneud yn siŵr bod ein hymchwil arloesol ar gael i fusnesau yn rhan allweddol o’n cenhadaeth. Wrth wneud hynny, ein nod yw gwella'r gallu i gystadlu, cynhyrchiant a mynediad diwydiant a masnach.

Gallwch drwyddedu ein cynnyrch a’n prosesau newydd drwy gysylltu â’n swyddfa Trosglwyddo Technoleg. Rydym hefyd yn gweithio’n rhagweithiol i sefydlu cyd-fentrau a chwmnïau newydd.

Ar gyfer darpar drwyddedeion a buddsoddwyr

Mae ein gwariant allanol ar ymchwil yn fwy na £100M y flwyddyn, gan arwain at nifer o gyfleoedd buddsoddi. Mae enghreifftiau o’n portffolio’n cynnwys:

  • Mae Alesi Surgical yn sicrhau £2.1m o gyllid - gan roi hwb i fasnacheiddio ei brif gynnyrch, Ultravision™ ymhellach.
  • Buddsoddiad i gyfrwng canser y fron newydd - Partneriaeth gyda Tiziana Pharmaceuticals i gefnogi gwaith ar gyfrwng gwrth-ganser newydd
  • Diurnal yn cyhoeddi llwyddiant cam II Chronocort  - Cynnydd cadarnhaol astudiaeth glinigol CATCH (Chronocort® As Treatment for Congenital Adrenal Hyperplasia) gan Diurnal
  • Cwmni deilliannol ENGIN yn ennill £650k o arian DECC  - Mae Fault Current Limited wedi derbyn grant £635,000 gan yr Adran Ynni a Newid Hinsawdd (DECC)
  • Cwmni deilliannol MedaPhor yn mynd i mewn i farchnad Tsieina - Cytundeb dosbarthu ecsgliwsif gyda Tellyes Scientific i werthu ystod MedaPhor o ysgogyddion uwchsain i dir mawr Tsieina
  • Asalus yn cael llwyddiant treial clinigol - Llwyddiant treial 'First-In-Man' i Ultravision™ Technology.

Swyddfa Trosglwyddo Technoleg