Ewch i’r prif gynnwys

Biogyfrifadura

Mae'r Ganolfan Biogyfrifiadura’n gyfleuster ymchwil arloesol sy'n arbenigo mewn cyfrifiadura perfformiad uchel, technolegau cwmwl a dadansoddi data mawr. Rydyn ni’n cynnig adnoddau arloesol i ymchwilwyr Ysgol y Biowyddorau a'u cydweithwyr, gan helpu i ysgogi ymchwil gyfrifiadurol ac ymchwil sy’n cael ei hysgogi gan ddata ym maes y biowyddorau.

Rydyn ni’n cynnig seilwaith digidol uwch, diogel a dibynadwy at ddibenion ymchwil ac addysgu, wedi'i ategu gan hyfforddiant pwrpasol, cymorth arbenigol ac amgylchedd cydweithredol. Ein nod yw rhoi'r adnoddau i ymchwilwyr ddatblygu dulliau cyfrifiadurol a dulliau gwyddor data a defnyddio’r rhain yn rhan o’u hymchwil.

Drwy gyfuno cyfrifiadura perfformiad uchel, dysgu peirianyddol, cyfrifiadura cwmwl ac adnoddau storio y gellir eu haddasu o ran eu maint, rydyn ni’n cefnogi ystod eang o brosiectau ymchwil, gan gynnwys prosiectau genomeg, niwrowyddoniaeth, biowybodeg, modelu, bioleg systemau a bioleg gyfrifiadurol.

Mae ein seilwaith wedi'i gynllunio ar gyfer dadansoddi data ar raddfa fawr, cyfrifiadura trwybwn uchel a dysgu peirianyddol, gan integreiddio cyfrifiadura perfformiad uchel â gwasanaethau cwmwl ac atebion ar gyfer storio data mawr. O ran addysgu, gall ein platfform gefnogi cannoedd o fyfyrwyr yn eu blwyddyn olaf a myfyrwyr sy’n astudio ar gyfer gradd meistr, gan gynnig adnoddau sy’n amrywio o amgylcheddau llinell orchymyn yn Linux i R, Python, rhyngwynebau graffigol yn Linux a chyfrifadura perfformiad uchel.

Yn y Ganolfan Biogyfrifiadura, rydyn ni’n dibynnu ar feddalwedd ffynhonnell agored sy’n rhad ac am ddim wrth gyfuno technolegau o'r radd flaenaf, megis clystyrau cyfrifiadura perfformiad uchel Slurm, unedau prosesu graffigol, Kubernetes, gwasanaeth storio S3, storfeydd perfformiad uchel a systemau archifo data. Mae ein holl wasanaethau wedi'u cynllunio i ddiwallu anghenion esblygol defnyddwyr, gan ganolbwyntio ar y datblygiadau diweddaraf ym meysydd cyfrifiadura cwmwl a chyfrifiadura perfformiad uchel.

Cysylltwch â ni

Mae’r Ganolfan Biogyfrifiadura ar gael i’w defnyddio’n rhad ac am ddim gan bob ymchwilydd yn Ysgol y Biowyddorau. Os hoffech chi ddefnyddio ein cyfleusterau, cysylltwch â Dr. Ian Merrick, gan roi gwybod beth yw eich gofynion, a byddwn ni’n gwneud y trefniadau’n gyflym.

Dr Ian Merrick

Dr Ian Merrick

Senior Systems Engineer

Email
merricki@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 4794
Andrew Ells

Andrew Ells

IT Technician

Email
ellsa@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 4092
Yr Athro Stan Marée

Yr Athro Stan Marée

Professor

Email
marees@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 4486
Yr Athro Thomas Connor

Yr Athro Thomas Connor

Professor

Email
connortr@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 4147
Dr Pablo Orozco-terWengel

Dr Pablo Orozco-terWengel

Lecturer

Email
orozco-terwengelpa@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 5206