Ewch i’r prif gynnwys

Ecoleg drefol

Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.

Caerdydd

 Myfyrwyr ger Llyn y Rhath, Caerdydd
Myfyrwyr ger Llyn y Rhath, Caerdydd

Gall natur y cwrs maes hwn amrywio o flwyddyn i flwyddyn, ond mae’n rhoi cyflwyniad bras i organebau ac ecoleg mewn cynefinoedd trefol, afonydd neu goetiroedd, yn y maes ac yn y labordy. Mae’r cwrs wedi’i leoli yng Nghaerdydd ac mae’n cynnwys teithiau diwrnod i wahanol leoliadau yn y ddinas, neu, er enghraifft, i Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Prosiect myfyriwr ar beth yw hoff liw blodau pryfed peillio ym Mharc Bute, Caerdydd
Prosiect myfyriwr ar beth yw hoff liw blodau pryfed peillio ym Mharc Bute, Caerdydd. © Isa-Rita Russo

Byddwch yn gallu ymgymryd ag ystod eang o brosiectau sy'n cwmpasu ecoleg ac ymddygiad ystod eang o dacsonau.

Mae’r cwrs maes hwn yn rhad ac am ddim i fyfyrwyr; fodd bynnag, disgwylir i chi fod yn byw yn ardal Caerdydd neu’r cyffiniau, neu’n aros mewn llety yn yr ardal. Disgwylir i chi dalu am unrhyw lety yn ogystal â thalu am brydau bwyd dros gyfnod llawn y cwrs.