Ewch i’r prif gynnwys

Bioleg arfordirol

Sir Benfro, Cymru

puffin on a rock

Cynhelir y cwrs maes hwn yng nghyffiniau syfrdanol Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, a bydd yn cynnig cyflwyniad i’r amrywiaeth o organebau mewn gweoedd bwyd morol ar draws ystod o gynefinoedd arfordirol a rhynglanwol, gan gynnwys morydau, glannau creigiog, glannau tywodlyd, twyni tywod a morfeydd heli.

Mae’n cwmpasu cysyniadau pwysig ynghylch gweoedd bwyd morol a rhaeadrau troffig yn ogystal â dynameg ecosystemau arfordirol a sut mae gweithgarwch dynol yn effeithio ar yr amgylcheddau hyn.

Efallai byddwch yn cael y cyfle (yn amodol ar y tywydd a’r llanw) i astudio ymddygiad ysglyfaethwyr fertebrat ar frig gweoedd bwyd morol drwy ymweld â morloi llwyd, adar drycin Manaw a phalod ar Ynys Sgomer.

Gwaith grŵp ac ymchwil annibynnol

Mae’r cwrs yn cynnwys gweithio mewn grwpiau i ddatblygu sgiliau allweddol sy’n berthnasol i wyddor bywyd morol a rhynglanwol, ynghyd â dysgu nifer o dechnegau arolygu ecolegol ac adnabod rhywogaethau, cyn cymryd samplau yn ôl i’r labordy i’w dadansoddi ymhellach.

Byddwch yn cael y cyfle i gynllunio a chynnal prosiect ymchwil fydd yn eich galluogi i archwilio pwnc o’ch dewis yn fanylach a chael profiad o ddadansoddi ystadegol a chyflwyno ymchwil.

Cwrs preswyl yw hwn a gynhelir yng nghanolfan maes Dale Fort y Cyngor Astudiaethau Maes. Mae mewn lleoliad ysblennydd yn uchel ar y clogwyni ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro. Mae’n fan delfrydol ar gyfer astudio ystod o gynefinoedd arfordirol (e.e. glannau creigiog, twyni tywod a morfeydd heli) yn ogystal â chael mynd i Ynys Sgomer a’i phoblogaethau enwog o adar môr preswyl.

Codir ffi am y cwrs maes hwn. Bydd gwybodaeth bellach ar gael ar gais.