Ewch i’r prif gynnwys

Ystorfa Ar-lein

Ein nod yw creu ystorfa ar-lein sy’n rhad ac am ddim fydd yn cynnwys cyfeirnodau clywedol, gweledol a disgyrsiol perthnasol a all gefnogi’r ffordd y mae academyddion, dylunwyr ac addysgwyr yn ymgysylltu’n well â phrosiectau arwahanrwydd yn yr amgylchedd adeiledig.

Bydd gwybodaeth a meini prawf cyflwyno cynnwys i'r ystorfa hon ar gael ar ôl y Symposiwm.

Ystorfa: Symposiwm Pensaernïaeth Arwahanrwydd

Mae recordiadau o gyflwyniadau’r Symposiwm ar gael ar YouTube, ac fe’u cedwir mewn rhestr chwarae bwrpasol ar dudalen YouTube Ysgol Pensaernïaeth Cymru. Gallwch wrando ar amryw o siaradwyr yn trafod arwahanrwydd fel arfer gofodol, tacteg drefol, eiconograffeg, cyflwr hylifedd, a throseddiad yn erbyn gorchmynion cymdeithasol, diwylliannol a hanesyddol.

Architecture for Kids Podcasts gan Antonio Capelao

Cyfres sain dreiddgar, llawn hwyl ac addysgiadol sy’n anelu at wella’r cysylltiad rhwng yr amgylchedd adeiledig ac addysg, ac mae pob pennod yn trin a thrafod byd hynod o ddiddorol pensaernïaeth a’i heffaith ar y genhedlaeth nesaf. Rhestrir sampl o’r penodau isod:

🎙️ Mae Pennod 1 yn cynnwys Sandra Hedblad, Pennaeth Dysgu y Built Environment Trust.

🎙️ Mae Pennod 2 yn cynnwys Catherine Ritman-Smith, Pennaeth Dysgu ac Ymgysylltu Amgueddfa Victoria ac Albert i Bobl Ifanc.

🎙️ Mae Pennod 3 yn cynnwys Jerry Tate, Cyfarwyddwr Sefydlol Tate + Co.

Mae podlediad Architecture for Kids ar gael ar Apple, Spotify, a llwyfannau mawr eraill - tanysgrifiwch, gadewch eich sylwadau, a rhannwch ef gyda'ch ffrindiau a'ch teulu. Gobeithiwn ei fod yn addysgiadol ac yn ysbrydoledig.

Addysgeg wedi'i hymgorffori: cyflwyno 'arallrwydd' ym maes addysg bensaernïol

Ymchwil sy'n trin a thrafod gwerth addysgol a moesegol addysgeg wedi'i ymgorffori ac addysgeg aralledd ym maes addysg bensaernïol.

Addysgeg trafferthus: cyflwyno 'arallrwydd' i stiwdio ddylunio blwyddyn 1af

Archwilio ymchwil sy'n edrych ar berthynas gymhleth y corff dynol â phensaernïaeth, mae'n un agos-atoch a hirsefydlog ac mae ganddo gysylltiad cryf â pherthynas y corff dynol â'r cosmos ehangach.