Ewch i’r prif gynnwys

Cofrestru Symposiwm 2023

AoA

Pensaernïaeth Arwahanrwydd: Corff, Cyfryngau, Gofod yn cael ei gynnal ar 7 ac 8 Medi 2023, yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru, Prifysgol Caerdydd.

Nod y symposiwm hwn yw galw, sefydlu ac ehangu cymuned ymchwil weithredol ar draws sefydliadau GW4 a thu hwnt, plannu hadau ar gyfer cysylltiadau hanfodol â chymunedau sydd wedi ymddieithrio’n gymdeithasol ac yn ddiwylliannol a myfyrio ar ffyrdd y gall pensaernïaeth feithrin eu grym creadigol a’u cydnerthedd. Fel y cyfryw, mae’n gwneud y canlynol:

  • gwahodd ymchwilwyr sy'n archwilio arwahanrwydd o safbwyntiau disgyblaethol amrywiol, i rannu fframweithiau damcaniaethol a methodolegol a thrafod astudiaethau achos arloesol
  • helpu i ysgogi creu ystorfa ar-lein y gellir ei chyrchu am ddim sy'n rhannu cynnwys perthnasol ac yn cefnogi ymgysylltiad academyddion, dylunwyr ac addysgwyr â phrosiectau newidiol yn yr amgylchedd adeiledig
  • creu cyfleoedd ar gyfer cynhyrchu cyfnodolyn academaidd pwrpasol ar y themâu hyn
  • cefnogi trafodaethau ar brosiectau yn y dyfodol, a ffyrdd o ariannu a chynnal gweithredu yn y dyfodol

Gallwn gadarnhau mae ein prif siaradwr fydd:

Gall cyfraniadau sy’n trafod sut y gall pensaernïaeth arwahanrwydd herio gorchmynion diwylliannol a chefnogi darnau cynhwysol a thramgwyddus ein helpu i ddamcaniaethu ar ddyfodol addawol y ddau syniad (pensaernïaeth ac arwahanrwydd), datgelu eu cyflwr presennol, ac archwilio eu gorffennol amrywiol.

Mae’r symposiwm yn gwahodd cyfoedion academaidd i drafod arwahanrwydd fel amod sydd wedi’i ymgorffori a’i wreiddio wrth ystyried a dadansoddi patrymau pensaernïol/gofodol/rhanbarthol.  O astudiaethau hanesyddiaethol, eiconograffyddol, ffurfiol ar gyfnewidioldeb rheolau sefydledig, i ddadansoddiadau’r cyfryngau cymdeithasol a digidol o gorfforaethau yr effeithiwyd arnynt gan rywedd, hiliaeth, heintiau, rhyfel, mudo ac ati, dymunwn ddod ag ystod o ysgolheigion amrywiol ynghyd ac ail-gychwyn trafodaethau ar bensaernïaeth arwahanrwydd a'u canfyddiadau o fewn diwylliannau gweledol.

Ein dymuniad a'n blaenoriaeth yw dod â phobl ynghyd yn gorfforol a chefnogi cyfranogiad mewn gweithdai a thrafodaethau ehangach yn well. Gall y pwyllgor archwilio ceisiadau eithriadol am gyfranogiad/cyflwyniadau ar-lein os yw’r rhain yn hanfodol ar gyfer cefnogi cynulliad amrywiol a chynhwysol fesul achos. Rhoddir blaenoriaeth i’r sawl a all gymryd rhan yn y ddau ddiwrnod a’r gweithdai a’r digwyddiadau dilynol.

Gweld y rhaglen lawn

Dyddiadau pwysig

DyddiadDigwyddiad
5 Mai 2023Galw am gyflwyniadau papur 15 munud
7 Gorffennaf 2023Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno crynodebau
14 Gorffennaf 2023Hysbysiad derbyn / Cofrestru'n agor
14 Awst 2023Cyhoeddi’r rhaglen
1 Medi 2023Dyddiad cau ar gyfer cofrestru
7-8 Medi 2023Sesiynau cynhadledd a gweithdai grŵp