Y Sefydliad Ymchwil Carbon-Isel (LCRI)
Ers ei sefydlu yn 2008 fel grŵp rhwydweithio ymchwil, mae gwaith y sefydliad wedi cael ei arwain gan y Sefydliad Ymchwil Systemau Ynni.
Rydym wedi newid tirlun ymchwil ynni fel disgyblaeth academaidd yng Nghymru. Gwnaethom ddatblygu capasiti a chyfleusterau o amgylch meysydd presennol arbenigedd carbon isel ac ynni yng Nghymru, gan arddel agwedd ryngwladol, gyda rhaglen ymchwil strategol a hirdymor.
Rydym wedi dod ag ystod sylweddol ac amrywiol o arbenigedd ynni ar draws Cymru ynghyd ac wedi cydlynu ymchwil, datblygu/dangos technoleg a throsglwyddo, i alluogi Llywodraeth Cymru i gyflwyno eu hagendâu Ynni a Hinsawdd, wrth hyrwyddo Cymru fel esiampl ryngwladol ar gyfer technoleg gynaliadwy a charbon isel.
Partneriaid
Ysgol Pensaernïaeth Cymru yw prif bartner LCRI, a dyma'r sefydliadau craidd eraill sy'n bartneriaid:
- IBERS (Prifysgol Aberystwyth)
- yr Ysgol Cemeg (Prifysgol Bangor)
- Canolfan Ymchwil Ynni Solar (Prifysgol Glyndŵr)
- Ysgol Peirianneg (Prifysgol Caerdydd)
- Canolfan Ymchwil Amgylchedd Cynaliadwy (Prifysgol De Cymru)
- Coleg Peirianneg (Abertawe).
Themâu
Mae ein hymchwil a’n hyfforddiant ôl-raddedig wedi’i drefnu yn ôl wyth thema carbon isel.
- Bio-ynni
- Systemau Ynni Hydrogen
- Cynhyrchu Pŵer ar Raddfa Fawr
- Amgylchedd Adeiledig Carbon Isel
- Ynni Môr
- Ffotofolteg ac Electroneg Pŵer
- Newidiadau Carbon Isel a Pholisi
- yr Ysgol Ôl-raddedig
Cyllid
Rydym wedi denu a helpu i hyfforddi mwy na 150 o ymchwilwyr allweddol ym maes ynni carbon isel, wedi sicrhau portffolio gwerth £85 miliwn (gan gynnwys arian cyfatebol) a £65 miliwn (heb arian cyfatebol) o gronfeydd ymchwil, cynghorau ymchwil (BSRC, ESRC, EPSRC, NERC), yr UE a chyrff eraill y llywodraeth ac yn y diwydiant, ac wedi cyflwyno ystod eang o allbynnau ymchwil i’r byd academaidd, y diwydiant a’r llywodraeth.
Effaith
Drwy ein hymchwil, rydym wedi codi proffil ac annog cynydd mewn mentrau carbon isel yng Nghymru, gan weithio'n genedlaethol ac yn rhyngwladol i ddatblygu a dangos bod Cymru ar flaen y gad ym maes technolegau carbon isel.
Rydym yn gweithio tuag at ddefnyddio ynni carbon isel mwy fforddiadwy yn y tymor hir, defnyddio ynni o ffynonellau gwahanol yn fwy effeithlon a gorffen defnyddio, dibynnu llai ar fewnforio a lliniaru effeithiau nwyon tŷ gwydr.
Cysylltwch

Yr Athro Phillip Jones
Cadeirydd Gwyddoniaeth Pensaernïol a Chadeirydd y Sefydliad Ymchwil Carbon isel (LCRI)
- jonesp@caerdydd.ac.uk
- +44 (0)29 2087 4078