Sefydliad Ymchwil Systemau Ynni
Yn mynd i'r afael â heriau byd-eang sy sydd o’n blaenau o ran sut rydym yn parhau i gynhyrchu, dosbarthu a defnyddio ynni
Roedd y Sefydliad Ymchwil Systemau Ynni ar agor rhwng 2015 a 2021. Mae'r dudalen hon yn dangos gwaith y sefydliad yn y gorffennol. Nid yw'n cael ei monitro na'i diweddaru.
Rydym yn credu y bydd angen i systemau ynni yn y dyfodol fynd i'r afael ag argaeledd a sicrwydd y cyflenwad, fforddiadwyedd a derbyniad y cyhoedd, lleihad yn yr effaith amgylcheddol. Drwy ddod ag arbenigedd a phrofiad o amrywiaeth o ddisgyblaethau academaidd at ei gilydd, rydym yn edrych ar systemau ynni yn y dyfodol o safbwynt newydd.
Dysgwch mwy amdanom ni ac am ein gweledigaeth ar gyfer y Sefydliad Ymchwil Systemau Ynni.
Ein nod yw mynd i’r afael â’r prif heriau trosfwaol sy’n wynebu systemau ynni ar raddfa genedlaethol a rhyngwladol.