Ewch i’r prif gynnwys

Dip.Ôl-radd mewn Pensaernïaeth: Ymarfer Proffesiynol (RIBA/ARB Rhan 3)

DPP

Mae’r rhaglen hon yn galluogi myfyrwyr i feithrin dealltwriaeth drylwyr o agweddau cyfreithiol ac economaidd ymarfer pensaernïol a chaffael ym maes adeiladu yn ogystal â meithrin medrau y bydd eu hangen ar bensaer i weithredu’n effeithiol.

Mae'r Diploma mewn Ymarfer Proffesiynol (DPP) wedi'i gynllunio i gael ei wneud tra byddwch mewn cyflogaeth, ac fe'i cynigir ar sail dysgu o bell neu ddysgu cyfunol.

Mae’r cymhwyster hwn wedi’i ragnodi gan y Bwrdd Cofrestru Penseiri (ARB) ac wedi’i achredu gan Sefydliad Brenhinol Penseiri Prydain (RIBA) ar Lefel Rhan 3. Mae’r DPP wedi cael adborth rhagorol gan fyfyrwyr, a chlod gan dri Bwrdd Ymweld olynol RIBA, gan gynnwys y diweddaraf, ym mis Gorffennaf 2021, a ganmolodd 'ei synthesis o gywirdeb ac ymarfer academaidd'.

Mae'n cael ei gynnal gydag ystod eang o ddulliau addysgu arloesol a rhyngweithiol, wedi'u cynllunio i wneud yn siŵr bod pob myfyriwr yn cael cysylltiadau agos â'r ysgol a'i gilydd.

Cynhelir cyfres o ddigwyddiadau addysgu un diwrnod a dau ddiwrnod o hyd, gan gynnwys gweminarau amser cinio rheolaidd, gweithdai ar-lein gan arbenigwyr blaenllaw, a blog wythnosol sy’n rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am ddigwyddiadau’r cwrs a datblygiadau yn y diwydiant sy’n berthnasol i’r cwrs. Bwriedir i nifer o’r digwyddiadau yn ystod y dydd fod ar y campws (yn ein hadeilad sydd newydd ei adnewyddu), a byddant yn cael eu ffrydio'n fyw ar gyfer y myfyrwyr sy’n dysgu o bell.

Ategir y rhain gan fyrddau trafod ynghylch pynciau penodol, adborth ysgrifenedig rheolaidd am eich gwaith, a thiwtorialau ar-lein i unigolion a grwpiau. Bydd deunyddiau atodol ar gyfer y cwrs ar gael ar ffurf nodiadau cwrs manwl a chyflwyniadau fideo a recordiwyd ymlaen llaw.

Sut i wneud cais

I gael rhagor o wybodaeth am gynnwys, strwythur a ffioedd y cwrs, ac am sut i wneud cais, ewch i'n tudalen sy’n rhoi gwybodaeth am y cwrs PgDip mewn Pensaernïaeth: Tudalen wybodaeth am gwrs Ymarfer Proffesiynol

Mae'r DPP yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru wedi rhoi'r hyder i mi fod yn Bensaer. Mae gennyf nawr y wybodaeth am faterion cyfreithiol, gweithdrefnol a rheoli sy'n ymwneud ag ymarfer Pensaernïaeth. Mae'n sicr wedi llywio fy ymarfer o ddydd i ddydd yn barod! Roedd y cyfuniad o ddulliau addysgu, gan gynnwys seminarau a gweithdai ar-lein, darlithoedd wyneb yn wyneb, siaradwyr gwadd, a blogiau wythnosol yn gwneud y cwrs yn ddiddorol ac yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am ddatblygiadau cyfredol yn y diwydiant.

Helen Flynn

Digwyddiadau allweddol

Mae eitemau newyddion ynghylch y cwrs a'r gwobrau a ddyfarnwyd ar gyfer sesiwn 21/22 ar gael ar-lein. Gellir dod o hyd i newyddion ynghylch y staff dan sylw gan gynnwys llyfr newydd gan Lupton Stellakis, " Understanding Professional Services Contracts " a darn a ysgrifennwyd ar gyfer Sefydliad Brenhinol Penseiri Prydain (RIBA), o'r enw "Selecting the most appropriate building contract for a small domestic project" ar LinkedIn. Gweler hefyd erthyglau newyddion ynghylch llwyddiant ein graddedigion: Helen FlynnRoss HartlandVictoria SavageKaty Parfitt.

Dyma'r dyddiadau arfaethedig ar gyfer digwyddiadau diwrnodau llawn allweddol ar gyfer 23/24. Sylwch y bydd yr holl ddigwyddiadau ar y campws yn cael eu ffrydio'n fyw i'r rhai sy'n dilyn y llwybr dysgu o bell.

Mae myfyrwyr amser llawn (ALl) yn dod i bob digwyddiad, rhan amser (RhA) yn dilyn y drefn a ddangosir yma.

DyddiadLleoliadMyfyrwyr
27 MediAr y campwsALl, RhAB1 a RhAB2
6 HydrefAr-leinALl a RhAB1
13 HydrefAr-leinALl a RhAB1
19/20 HydrefAr-leinALl a RhAB1
6 HydrefAr-leinALl a RhAB2
12 HydrefAr-leinALl a RhAB2
22/23 ChwefrorAr y campwsALl a RhAB1
8 ChwefrorAr y campwsALl a RhAB2
15 HydrefAr-leinALl a RhAB2

Tîm y Cwrs

Yr Athro Sarah Lupton sy’n cyfarwyddo’r cwrs. Mae dau ymgynghorydd arbenigol yn allweddol i'r cwrs (Manos Stellakis a Robert Firth), sy'n allanol i'r Ysgol ond sydd â mewnbwn parhaus, gan gynghori ar faterion strategol, cyflwyno seminarau a gweithdai, a darparu adborth i fyfyrwyr.

Rydym hefyd yn ymgysylltu â thîm o diwtoriaid a holl gynfyfyrwyr y cwrs i helpu gyda'r gweithdai a rhoi adborth. Byddwn ni’n gwahodd arbenigwyr byd diwydiant i gyflwyno sgyrsiau a seminarau gwadd.

Cyfarwyddwr y Cwrs

Yr Athro Sarah Lupton

Yr Athro Sarah Lupton

Personal Chair

Email
lupton@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 5966

Ymgynghorwyr

Robert Firth BSc (Anrh) BArch (Dist) MSc (Rheoli Prosiectau), FRSA, FFB, RIBA (Partner, RDMF Consultancy, Ymgynghorydd Arbenigol, WSA).

Manos Stellakis BSc, DipArch, MSc (Econ) RIBA, (Partner, penseiri Lupton Stellakis; Ymgynghorydd Arbenigol, WSA).

Cefnogi Derbyn Myfyrwyr

Gweinyddwr Derbyn Myfyrwyr Pensaernïaeth

Achrediad

Achredir ein cwrs gan: