Cyfarwyddwr Dros Dro Adnoddau Dynol
A hithau’n Gyfarwyddwr AD Dros Dro, mae adran Hayley yn gyfrifol am roi cyngor ar bopeth sy’n ymwneud ag Adnoddau Dynol, cefnogi datblygiad unigolion, timau a’r sefydliad yn ogystal â rhagori wrth hyrwyddo iechyd a diogelwch y staff, y myfyrwyr ac ymwelwyr.
Ers ymuno â'r Brifysgol, rwy wedi bod yn ddigon ffodus i ymgymryd ag amryw o rolau ar ôl datblygu fy ngyrfa o fod yn Swyddog Adnoddau Dynol i fy swydd bresennol yn Bennaeth Datblygu Sefydliadol a Staff cyn ymgymryd â'r rôl dros dro hon. Yn fy swyddi blaenorol bues i’n gweithio ar hyd a lled meysydd adnoddau dynol ar brosiectau strategol a gweithredol fel ei gilydd ac rwy wedi bod yn ffodus o fod wedi arwain nifer o dimau AD a oedd yn canolbwyntio ar ddatblygu staff, gwobrwyo a chydnabyddiaeth, cysylltiadau â’r cyflogeion, cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, ymgysylltu â’r staff a datblygu polisïau a’r sefydliad.
Ar nodyn personol, astudiais Hanes ym Mhrifysgol Abertawe cyn gwneud MSc Rheoli Adnoddau Dynol ym Mhrifysgol De Cymru.