Ewch i’r prif gynnwys

Website homepage

Diwrnod Agored
i Israddedig

Dysgwch am fyw ac astudio yng Nghaerdydd yn ein digwyddiadau ar 21 Hydref.

Archebwch eich lle
Cardiff Bay Astudio

Rhesymau dros garu Caerdydd

Celf, diwylliant, chwaraeon, golygfeydd gwych – mae Caerdydd yn cynnig mwy na lle i astudio, mae hefyd yn lle gwych i fyw ynddo.

Cardiff Bay Astudio

Pam astudio cymhwyster israddedig gyda ni?

Chwe rheswm dros ein dewis ni ar gyfer eich gradd israddedig, o ragolygon gyrfaol arbennig i addysgu a arweinir gan ymchwil.

Yr hyn wnes i fwynhau fwyaf am fy astudiaethau, heb os ac oni bai, oedd y gallu i astudio rhywfaint trwy gyfrwng y Gymraeg. Mwynheais fanteisio ar bob cyfle a gynigiwyd i mi i ymhel â, ac astudio, drwy’r Gymraeg.

Emily (BSc 2022)
Astudio yn Gymraeg
Emily Pemberton
opening-quote closing-quote
Astudio

Cefnogi eich bywyd fel myfyriwr

Rydym yma i'ch helpu i lwyddo a gwneud y gorau o'ch bywyd fel myfyriwr. Mae ein gwasanaethau cymorth diduedd a chyfrinachol am ddim wedi'u lleoli yng Nghanolfan Bywyd y Myfyrwyr, adeilad eiconig sydd wrth wraidd Campws Parc Cathays.

Cymuned

Ein prosiectau cymunedol lleol

Rydym yn defnyddio ein hystod eang o arbenigedd i gefnogi a chyflwyno prosiectau effeithiol a arweinir gan y gymuned ochr yn ochr â gwirfoddolwyr myfyrwyr a staff.

Cyn-fyfyrwyr

Cysylltiad Caerdydd

Cysylltwch, tyfwch eich rhwydwaith proffesiynol, a chefnogwch fyfyrwyr a chynfyfyrwyr eraill. Cysylltu Caerdydd yw’r lle i ddod o hyd i gyfleoedd newydd a manteisio ar gymuned fyd-eang cynfyfyrwyr Caerdydd.