Digwyddiadau Athrawon a Chynghorydd Gyrfa

Mae cefnogi athrawon a chynghorwyr gyrfaoedd wastad wedi bod yn flaenoriaeth i ni – ac mae’n fwy o flaenoriaeth nawr nag erioed o’r blaen o ystyried yr heriau yn yr oes ohoni.
Er na allwn gynnal unrhyw ddigwyddiadau ar y campws ar hyn o bryd, fel y Gynhadledd Athrawon, byddwn yn cynnal digwyddiadau tebyg, ond llai, yn rhithwir. Nod y rhain fydd cynnig arweiniad i athrawon a chynghorwyr gyrfaoedd a chyfle i gysylltu â ni.
Cynhadledd Athrawon
Mae ein cynhadledd i Athrawon a Chynghorwyr Gyrfaoedd, a gynhelir bob dwy flynedd fel arfer, yn gyfle i gael y wybodaeth a’r cyngor diweddaraf ynghylch newidiadau diweddar yn y sector Addysg Uwch.
Yn ystod ein cynhadledd ddiwethaf, gwnaethom ganolbwyntio ar sut gall pob un ohonom chwarae rhan i gefnogi myfyrwyr ysgol/coleg a phrifysgol, yn ogystal â chynnig cipolwg ar bolisïau derbyn myfyrwyr Prifysgol Caerdydd.
Diwrnod ardderchog, defnyddiol iawn, wedi ei drefnu’n dda. Rydw i’n gwerthfawrogi’r wybodaeth a roddwyd i ysgolion. Byddwn yn ei argymell yn fawr!
Mae ein cynadleddau yn addas ar gyfer:
- penaethiaid chweched dosbarth
- penaethiaid adrannau
- pob athro Safon Uwch
- cynghorwyr gyrfaoedd.
Rhagor o wybodaeth
I gael rhagor o wybodaeth ynghylch cyfleoedd allgymorth ein hysgol, y diweddaraf am y brifysgol ac addysg uwch, gwybodaeth am ddiwrnodau agored a digwyddiadau, cofrestrwch i gael ein cylchlythyr i Athrawon.
Tanysgrifiwch i dderbyn newyddion ar gyfer athrawon a chynghorwyr gyrfaoedd.