Ewch i’r prif gynnwys

Gyrfaoedd a chyflogadwyedd

Roedd 95% o’n graddedigion baglor a 93% o raddedigion ôl-raddedig mewn cyflogaeth a/neu’n astudio ymhellach, ar fin dechrau swydd neu gwrs newydd, neu’n gwneud gweithgareddau eraill fel teithio 15 mis ar ôl diwedd eu cwrs (Arolwg Hynt Graddedigion 2021/22).

Rydyn ni’n gwybod nad yw hi byth yn rhy gynnar i ddechrau cynllunio ar gyfer eich cyflogadwyedd yn y dyfodol, ac rydyn ni wedi ymrwymo i'ch paratoi ar gyfer eich gyrfa. Mae ein cefnogaeth yrfaol bwrpasol yn sicrhau eich bod chi’n datblygu sgiliau cyflogadwyedd allweddol, yn cynllunio ar gyfer eich dyfodol, ac yn cychwyn ym myd gwaith yn ddidrafferth.

Gwella eich cyflogadwyedd

Mae ein rhaglenni israddedig ac ôl-raddedig wedi'u cynllunio i sicrhau bod myfyrwyr yn cael amrywiaeth eang o gyfleoedd i ddatblygu eu sgiliau proffesiynol a'u rhinweddau graddedigion.

O fodiwl sgiliau ysgrifennu yn y flwyddyn gyntaf, i fodiwlau sy'n seiliedig ar ymarfer yn eich blwyddyn olaf, nid yn unig y byddwch chi’n dysgu theori gan academyddion blaenllaw; byddwch chi hefyd yn cael cyfleoedd i gymhwyso'ch dysgu at ymarfer gweithio ar brosiectau ym myd diwydiant a datrys problemau'r byd go iawn.

Mae ein graddedigion yn ffynnu mewn ystod eang o yrfaoedd, gan gynnwys y cyfryngau, addysg, y gwasanaeth sifil, cyhoeddi, y gyfraith, cysylltiadau cyhoeddus, a busnes.

Cefnogaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd

Mae Cynghorydd Gyrfaoedd ein hysgol, Claire Hudson, yn cynnig cyngor wedi'i deilwra ar gynllunio gyrfaol, ceisiadau, a chael profiad gwaith, interniaethau, a swyddi i raddedigion. Mae gan Kim Gilchrist, Arweinydd Cyflogadwyedd yr ysgol, brofiad helaeth o ddiwydiant y theatr, y cyfryngau a recriwtio, sy’n dangos gwerth sgiliau’r dyniaethau mewn  sectorau amrywiol.

Gwasanaethau Dyfodol Myfyrwyr

Mae’r gwasanaeth Dyfodol Myfyrwyr yng Nghanolfan Bywyd y Myfyrwyr, ac yn cynnig y canlynol:

  • adnoddau gyrfaol ar-lein drwy Ddyfodol Myfyrwyr+
  • gweithdai cyflogadwyedd ar gynllunio gyrfaol, llunio CV, ceisiadau, LinkedIn, a chyfweliadau
  • apwyntiadau gyrfaol a gwasanaeth galw heibio
  • rhaglen ddatblygu proffesiynol Gwobr Caerdydd
  • cyfleoedd i gael profiad gwaith, interniaethau, a lleoliadau gwaith
  • cefnogaeth wedi'i theilwra i fyfyrwyr sydd heb gynrychiolaeth ddigonol a myfyrwyr anabl
  • ffeiriau gyrfaoedd a digwyddiadau dan arweiniad cyflogwyr
  • digwyddiadau rhwydweithio proffesiynol sy’n ymdrin ag ymchwil, polisi, cyhoeddi, a diwydiannau creadigol
  • cyfleoedd i weithio, astudio neu wirfoddoli dramor
  • mentora busnes, cefnogaeth i fusnesau newydd, a chyfleoedd menter
  • cefnogaeth gyda chyflogadwyedd yn arbennig ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol

Cefnogaeth ar ôl graddio

Gall graddedigion gael cefnogaeth yrfaol am dair blynedd, gan gynnwys apwyntiadau, digwyddiadau gan gyflogwyr, a chyfleoedd gwaith. Gallwch hefyd ymuno â Rhwydwaith Cyn-fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd ar LinkedIn, gan gysylltu â thros 10,000 o gyn-fyfyrwyr i ddod o hyd i gyfleoedd gyrfaol a gwybodaeth.

Straeon myfyrwyr

Mae'r gwasanaeth gyrfaoedd wedi fy helpu gyda phopeth, o lunio fy CV a cheisiadau i baratoi ar gyfer cyfweliad. Rwy’ bellach wedi cael swydd ar gynllun graddedigion. Allwn i ddim argymell y gwasanaeth gyrfaoedd yn fwy!

Emily, BA Athroniaeth

Rwy’ wedi cael gwell dealltwriaeth o sut i fynd ati i ddod o hyd i swydd i raddedigion, gwybodaeth am yr hyn y mae cyflogwyr wir ei eisiau a’r ffordd orau o gyflwyno fy hun mewn cyfweliad, gan gael swydd i raddedigion yn gweithio fel masnachwr.

Chloe, BA Athroniaeth

Rhoddodd y gwasanaeth gyrfaoedd gefnogaeth amhrisiadwy i fi gyda fy nghais Teach First, a help i baratoi ar gyfer y ganolfan asesu. Es i i weithdai a digwyddiadau amrywiol a fy helpodd i ddeall beth fyddai’r disgwyliadau yn ystod y diwrnod asesu, ac yn ei dro, fe wnaethon nhw fy helpu i gael lle.

Emma, BA Iaith Saesneg

Cysylltu â ni

Mae Dyfodol Myfyrwyr yng Nghanolfan Bywyd y Myfyrwyr, Plas y Parc. Ar ôl cofrestru, gallwch chi drefnu apwyntiad gyda Claire Hudson drwy eich Cyfrif Gyrfaoedd Dyfodol Myfyrwyr.


Ffynhonnell: Yn cynnwys data HESA: Hawlfraint Jisc 2024. Ni all Jisc dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau a wneir gan drydydd partïon ar sail ei ddata.