Peirianneg Sifil (MEng)
- Maes pwnc: Peirianneg
- Côd UCAS: H207
- Derbyniad nesaf: Medi 2023
- Hyd: 4 blwyddyn
- Modd (astudio): Amser llawn
Pam astudio'r cwrs hwn
Mynediad at gyfleusterau o safon y diwydiant
Bydd mannau addysgu dynodedig ar gael ar eich cyfer a sefydlwyd ar gyfer dylunio a gwaith prosiect, labordai arbenigol ac ystafelloedd cyfrifiaduron.
Cwrs hyblyg
Gallwch deilwra eich cwrs gradd i gyd-fynd â’ch diddordebau eich hun gyda'r hyblygrwydd i ddewis lle rydych am ganolbwyntio eich astudiaethau’n ddiweddarach yn y cwrs. Os byddwch yn newid eich meddwl am eich rhaglen, yn y rhan fwyaf o achosion gallwch ofyn i newid ar ddiwedd y flwyddyn gyntaf.
Breintiau graddedigion
Mae graddedigion yn dilyn llwybr cyflymach a mwy uniongyrchol i statws Peiriannydd Siartredig na myfyrwyr BEng.
Cynnwys a arweinir gan ddiwydiant
Caiff cynnwys ein cwrs ei lywio gan gydweithrediad diwydiannol a'i gyflwyno gan staff academaidd blaenllaw, y mae llawer ohonynt yn Beirianwyr Siartredig neu wedi gweithio mewn diwydiant.
Cwrs sydd wedi’i achredu’n broffesiynol
Wedi'i achredu gan Sefydliad y Peirianwyr Sifil, Sefydliad y Peirianwyr Strwythurol, Sefydliad Siartredig Priffyrdd a Chludiant a Sefydliad y Peirianwyr Priffyrdd ar ran y Cyngor Peirianneg at ddibenion cyflawni'n llawn y gofyniad academaidd ar gyfer cofrestru’n Beiriannydd Siartredig.
Mae gan beirianwyr sifil ran allweddol wrth gynllunio, dylunio, adeiladu a chynnal yr amgylchedd naturiol sydd o'n cwmpas, gan gynnwys adeiladau a strwythurau, amddiffynfeydd rhag llifogydd a rhaglenni cyflenwi dŵr.
Mae ein rhaglen peirianneg sifil yn cynnig cwrs gradd uchel ei barch yn un o'r prifysgolion gorau yn y maes hwn, ac mae’n eich paratoi ar gyfer cyfleoedd cyffrous yn eich gyrfa yn y dyfodol wrth ddylunio’r amgylcheddau adeiledig, a gweithio â nhw.
Byddwch yn datblygu dealltwriaeth drylwyr o theori peirianneg sifil, fydd yn cael ei ategu drwy ei ddefnyddio’n ymarferol drwy waith ymchwil a gwaith labordy, cyrsiau maes a dosbarthiadau dylunio, gan eich galluogi i ddatblygu eich gyrfa mewn unrhyw faes yn y diwydiant peirianneg sifil.
Mae'r cwrs MEng yn caniatáu ichi ddefnyddio'r ddwy flynedd ddiwethaf i ehangu a chryfhau eich gwybodaeth ym maes peirianneg sifil. Byddwch yn elwa o ddysgu ar lefel uwch mewn dylunio a rheoli a gwerthfawrogiad o'r technegau sydd eu hangen i reoli a threfnu prosiect dylunio peirianneg amlddisgyblaethol.
Mae cyrsiau peirianneg sifil eraill yn cynnwys:
- Sylfaen drylwyr yn hanfodion peirianneg sifil os dewiswch gwrs BEng
- Y cyfle i ddilyn blwyddyn ryngosod mewn diwydiant os dewiswch radd BEng pedair blynedd berthnasol neu’r radd MEng pum mlynedd
- Y cyfle i astudio dramor mewn sefydliad partner am un semester os dewiswch y radd MEng (Rhyngwladol) berthnasol
- Y cyfle i astudio iaith os dewiswch y radd MEng perthnasol gyda blwyddyn ryngosod mewn prifysgol yn Ffrainc, yr Almaen neu Sbaen
Achrediadau

Maes pwnc: Peirianneg
Gofynion mynediad
Rydym yn derbyn cyfuniad o gymwysterau Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn ogystal â chymwysterau rhyngwladol cyfatebol yn amodol ar ofynion mynediad. Dyma ein cynigion nodweddiadol:
Lefel A
AAA-AAB. Rhaid i’r rhain gynnwys gradd A mewn Mathemateg. Bydd angen i chi basio’r elfen ymarferol o bwnc gwyddoniaeth Safon Uwch os yw hyn yn rhan o'ch rhaglen astudio.
Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhynglwadol: Fel arfer, bydd ymgeiswyr sydd wedi ennill gradd A yn y Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhyngwladol yn cael cynnig un radd yn is na'r cynnig safonol ar gyfer Safon Uwch. Sylwer bod yn rhaid bodloni unrhyw ofynion sy'n benodol i'r pwnc o hyd.
Rydym yn ystyried eich data cyd-destunol (o dan ba amgylchiadau rydych wedi bod yn astudio) yn ofalus ar ôl i’ch cais ddod i law. Os bydd ystod graddau wedi’i hysbysebu, mae’n adlewyrchu ein cynigion safonol a chyd-destunol nodweddiadol. Bydd myfyrwyr cymwys yn cael cynnig ym mhen isaf yr ystod graddau a hysbysebir. Os na fydd ystod graddau wedi’i hysbysebu, byddwch fel arfer yn cael pwyntiau ychwanegol yn rhan o’r broses ddethol. Darganfyddwch ragor am gyrsiau cymwys a sut mae data cyd-destunol yn cael ei ddefnyddio.
Y Fagloriaeth Rhyngwladol
36-34 yn gyffredinol neu 666 mewn 3 phwnc Lefel Uwch. Rhaid i’r rhain gynnwys gradd 6 mewn Bioleg Lefel Uwch.
Bagloriaeth Cymru
O fis Medi 2023, bydd cymhwyster newydd o'r enw Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru (lefel 3). Bydd y cymhwyster hwn yn disodli'r Dystysgrif Her Sgiliau Uwch (Bagloriaeth Cymru). Bydd y cymhwyster yn parhau i gael ei dderbyn yn lle un Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod), ac eithrio unrhyw bynciau penodol.
Cymwysterau o'r tu allan i'r DU
BTEC
DD mewn Diploma BTEC mewn unrhyw bwnc a gradd A mewn Mathemateg Safon Uwch.
Lefel T
Nid ydym yn derbyn Lefelau T ar gyfer y rhaglen hon.
Gofynion mynediad ychwanegol
Gofynion Iaith Saesneg
GCSE
Gradd C neu radd 4 mewn TGAU Iaith Saesneg.
IELTS (academic)
O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgil.
TOEFL iBT
O leiaf 90 ar y cyfan gyda sgôr o 17 o leiaf ar gyfer ysgrifennu, 17 ar gyfer gwrando, 18 ar gyfer darllen a 20 ar gyfer siarad.
PTE Academic
O leiaf 62 ar y cyfan gydag o leiaf 59 yn yr holl sgiliau cyfathrebu.
Trinity ISE II/III
II: dau Ragoriaeth a dau Deilyngdod o leiaf.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.
Cymwysterau eraill a dderbynnir
Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.
Gofynion eraill
Rhaid i chi fod yn meddu ar y canlynol neu’n gweithio tuag atynt:
- TGAU Iaith Saesneg neu Gymraeg gradd C/4 neu gyfwerth (fel Safon Uwch). Os oes angen fisa Myfyriwr arnoch, rhaid i chi sicrhau bod eich cymhwyster iaith yn cydymffurfio â gofynion UKVI.
Nid ydym yn derbyn Meddwl yn Feirniadol, Astudiaethau Cyffredinol, Astudiaethau Dinasyddiaeth, na phynciau eraill tebyg neu gyfatebol.
Byddwn yn derbyn cyfuniad o bynciau BTEC, Safon Uwch, a chymwysterau eraill, yn amodol ar ofynion gradd a phwnc penodol y cwrs.
Euogfarnau troseddol
Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.
Os ydych ar hyn o bryd yn destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau eich astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu eich cofnod troseddol. Mae amodau yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:
- mynediad i gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
- defnydd o'r rhyngrwyd ac offer/dyfeisiau cyfathrebu
- cyrffyw
- rhyddid i symud, gan gynnwys y gallu i deithio i'r tu allan i'r DU neu i ymgymryd â lleoliad/astudiaethau y tu allan i Brifysgol Caerdydd
- cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.
Cewch ragor o wybdoaeth am y broses ymgeisio yn ein polisïau derbyn myfyrwyr.
Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2023
Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.
Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd
Ffioedd am statws cartref
Blwyddyn | Ffioedd dysgu | Blaendal |
---|---|---|
Blwyddyn un | £9,000 | Dim |
Blwyddyn dau | £9,000 | Dim |
Blwyddyn tri | £9,000 | Dim |
Blwyddyn pedwar | £9,000 | Dim |
Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir
Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2022/23 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.
Ffioedd am statws ynys
Dysgwch ragor am ffioedd israddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.
Ffioedd am statws tramor
Blwyddyn | Ffioedd dysgu | Blaendal |
---|---|---|
Blwyddyn un | £25,450 | Dim |
Blwyddyn dau | £25,450 | Dim |
Blwyddyn tri | £25,450 | Dim |
Blwyddyn pedwar | £25,450 | Dim |
Rhagor o wybodaeth am ein ffioedd dysgu
Cymorth ariannol
Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.
Costau ychwanegol
Cyfarpar ar gyfer cwrs penodol
Ni fydd angen unrhyw gyfarpar penodol. Bydd y Brifysgol yn darparu adnoddau fel cyfrifiaduron a meddalwedd cysylltiedig, offer labordy (gan gynnwys unrhyw offer diogelwch) ac amrywiaeth o adnoddau dysgu ychwanegol.
Llety
Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.
Costau byw
Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.
Strwythur y cwrs
Rydym yn gweithio gyda'n myfyrwyr ar hyn o bryd yn diweddaru ac yn gwella cynnwys y cwrs hwn. Mae'r wybodaeth isod yn adlewyrchu'r cwricwlwm presennol a fydd yn newid yn ôl pob tebyg. Disgwylir i ni fod wedi gorffen adolygu'r cwrs erbyn mis Awst 2023. Bydd y dudalen hon wedi'i diweddaru erbyn mis Hydref 2023 i ddangos y newidiadau.
Mae hon yn radd amser llawn pedair blynedd o hyd. Mae'r cwrs yn cynnig cydbwysedd gofalus o fodiwlau craidd a modiwlau dewisol. 10 credyd yw gwerth y rhan fwyaf o fodiwlau, 20 credyd yw gwerth rhai ohonynt, ac mae ychydig ohonynt, gan gynnwys prosiectau blynyddoedd tri a phedwar, yn werth 30 credyd yr un. Mae angen i chi ennill 120 o gredydau bob blwyddyn.
Mae dau semester bob blwyddyn, pob semester yn cynnwys 11 wythnos addysgu, un wythnos adolygu a chyfnod arholiadau.
Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2023/2024. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2023
Blwyddyn un
Bydd y wybodaeth a ddangosir isod ar gyfer blwyddyn un yn newid ar gyfer mynediad Medi 2023. Wrth i ni ddiweddaru'r dudalen hon, dyma ragor o wybodaeth am flwyddyn gyntaf ein cyrsiau peirianneg. Bydd y wybodaeth modiwl isod yn cael ei diweddaru erbyn diwedd Rhagfyr 2022.
Mae’r flwyddyn gyntaf yn cynnwys cyfres o ddarlithoedd wedi'u hategu gan sesiynau labordy ymarferol.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Engineering Analysis | EN1091 | 20 Credydau |
Computing 1 | EN1092 | 10 Credydau |
Environmental Fluid and Geomechanics | EN1911 | 20 Credydau |
Materials and Construction | EN1912 | 20 Credydau |
Design Studies | EN1915 | 20 Credydau |
Structures | EN1916 | 20 Credydau |
Professional Engineering | EN1917 | 10 Credydau |
Blwyddyn dau
Mae’r ail flwyddyn eto'n cynnwys cyfres o ddarlithoedd wedi'u hategu gan sesiynau labordy ymarferol.
Mae cwrs maes preswyl oddi ar y safle yn cael ei gynnal am bum niwrnod yn semester y gwanwyn, fel rhan o'r modiwl Astudiaethau Maes o'r Amgylchedd Naturiol ac Adeiledig.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Engineering Analysis | EN2026 | 20 Credydau |
Computing 2 | EN2208 | 10 Credydau |
Hydraulics and Soil Mechanics | EN2314 | 20 Credydau |
Professional Studies and Construction | EN2315 | 20 Credydau |
Structural Analysis and Design | EN2400 | 40 Credydau |
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
History of Western Architecture | EN2207 | 10 Credydau |
Environmental Engineering | EN2313 | 10 Credydau |
Blwyddyn tri
Mae'r drydedd flwyddyn hefyd yn cynnwys prosiect mawr, sy’n werth chwarter y flwyddyn fel arfer. Byddwch yn gweithio'n unigol ar y prosiect, ochr yn ochr ag aelod o staff goruchwylio.
Mae yna fodiwlau craidd eraill ond mae yna fodiwlau dewisol hefyd, gan adeiladu ar y sylfeini a sefydlwyd yn y blynyddoedd cynharach.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Construction and Construction Management | EN3104 | 10 Credydau |
Project | EN3300 | 30 Credydau |
Structural Analysis | EN3302 | 10 Credydau |
Geotechnical Engineering | EN3304 | 10 Credydau |
Structural Design Studies | EN3307 | 10 Credydau |
Civil Engineering Design | EN3309 | 10 Credydau |
Environmental Hydraulics | EN3317 | 10 Credydau |
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Tensile Structures | EN3213 | 10 Credydau |
Water Engineering | EN3303 | 10 Credydau |
Concrete Materials and Structures | EN3311 | 10 Credydau |
Environmental Geotechnics | EN3314 | 10 Credydau |
Waste Management and Recycling | EN3401 | 10 Credydau |
Finite Elements for Full-scale Engineering Problems | EN3440 | 10 Credydau |
Blwyddyn pedwar
Byddwch yn gwneud prosiect grŵp yn y bedwaredd flwyddyn, sy'n werth chwarter yr asesiad cyfan.
Mae sawl modiwl craidd a dewisol hefyd.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Professional Engineering Studies | EN4321 | 10 Credydau |
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Applied Numerical Methods in Engineering | EN4018 | 10 Credydau |
Integrated Building Design | EN4102 | 30 Credydau |
Renewable Energy Design | EN4103 | 30 Credydau |
Finite Element Theory and Practice | EN4302 | 10 Credydau |
Design Feasibility | EN4306 | 10 Credydau |
Coastal and Estuarine Engineering | EN4307 | 10 Credydau |
Building and Infrastructure Information Modelling | EN4308 | 10 Credydau |
Soil Mechanics | EN4325 | 10 Credydau |
Structural Engineering | EN4326 | 10 Credydau |
Big Data and AI in Civil Engineering | EN4380 | 10 Credydau |
Dynamics | EN4570 | 10 Credydau |
Flood Design | EN4571 | 10 Credydau |
Steel Structures | EN4573 | 10 Credydau |
Advanced Structural Mechanics | EN4574 | 10 Credydau |
Sediment Transport Dynamics | EN4576 | 10 Credydau |
Fundamentals of Nanomechanics | EN4630 | 10 Credydau |
Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle'n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu
Addysgir trwy ddarlithoedd, dosbarthiadau enghreifftiau a llawer o waith yn y labordy, TG a gwaith ymarferol. Mae'r modiwlau a addysgir yn y ddwy flynedd gyntaf yn rhai gorfodol i raddau helaeth, ond mae opsiynau ar gael ym mlynyddoedd tri a phump fel rheol. Rhaid i bob myfyriwr gwblhau prosiect unigol 30-credyd ym mlwyddyn tri, a dyrennir goruchwyliwr ar eu cyfer o blith y staff addysgu. Bydd cyfleoedd i ryngweithio â darpar gyflogwyr.
Sut y caf fy nghefnogi?
Dyrennir tiwtor personol i chi sy'n aelod o'r staff academaidd ac sy'n gysylltiedig â'ch cwrs gradd. Bydd eich tiwtor yno i’ch cynghori ar faterion academaidd, materion nad ydynt yn academaidd a materion personol mewn modd cyfrinachol ac anffurfiol, pan fydd angen ychydig o arweiniad arnoch. Ein nod yw eich helpu chi i oresgyn unrhyw broblem, fach neu fawr, mor ddiffwdan a chyflym â phosibl.
Ar gyfer y prosiect 30-credyd ym mlwyddyn tri, dyrennir goruchwyliwr i chi yn y maes ymchwil arbenigol eang a byddwch yn cwrdd yn rheolaidd.
Trwy wefan Dysgu Canolog, byddwch yn gallu cael gafael ar ddeunydd amlgyfrwng perthnasol, cyflwyniadau, taflenni darlithoedd, llyfryddiaethau, dolenni pellach, ymarferiadau electronig a chylchoedd trafod. Bydd cyfleoedd i chi fyfyrio ar eich galluoedd a'ch perfformiad drwy'r modiwl 'Cynllunio Datblygiad Personol' ar Dysgu Canolog.
Mae’r Brifysgol yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau sy’n cynnwys y Gwasanaeth Gyrfaoedd, y Gwasanaeth Cwnsela, y Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia, y Gwasanaeth Cefnogi Myfyrwyr, a llyfrgelloedd a chanolfannau adnoddau ardderchog.
Adborth
Byddwn yn rhoi adborth i chi ar eich gwaith yn aml. Daw hyn mewn sawl fformat gan gynnwys adborth llafar mewn dosbarthiadau fel dylunio a gwaith prosiect a thrwy ddychwelyd gwaith cwrs wedi'i farcio.
Cewch y cyfle i brofi'ch gwybodaeth a'ch dealltwriaeth trwy gydol y semester trwy brofion dosbarth ym Mlynyddoedd 1 a 2, yn ogystal ag adborth ar asesiadau ysgrifenedig. Weithiau, gellir defnyddio asesiad cyfoedion o gyfraniad unigolyn i grŵp, ac efallai y byddwch hefyd yn cael adborth llafar ar gyflwyniadau a chyfraniadau i weithgareddau grŵp.
Sut caf fy asesu?
Your progress in each module is usually assessed at various stages through each semester (through a short test) to give you feedback on your progress, then finally at the end of the appropriate semester. Assessment is undertaken using methods including formal written examinations, case studies, assignments and project work.
Examinations count for 60% to 70% of all assessment throughout the course, depending on the options chosen. The remainder is composed mainly of project work and larger pieces of coursework, plus performance in laboratories.
The opportunity to test knowledge and understanding is given through class tests throughout years one and two, plus feedback on written assessments. Occasionally, peer assessment of an individual’s contribution to a group may be used, and students may also receive oral feedback on presentations and contributions to group activities.
Pa sgiliau bydda i'n eu hymarfer a'u datblygu?
Mae'r cwrs hwn wedi'i achredu trwy'r Cyngor Peirianneg, sy'n golygu bod cymwyseddau craidd UK-SPEC (Safon y DU ar gyfer Cymhwysedd Peirianneg Broffesiynol) wedi'u hintegreiddio trwy gydol y blynyddoedd y caiff y cwrs ei addysgu.
Trwy waith labordy byddwch yn datblygu sgiliau ymarferol sy'n canolbwyntio ar gymhwyso ystod o egwyddorion peirianneg i broblemau technolegol, rheoliadol a moesegol bywyd go iawn a wynebir yn y proffesiwn peirianneg.
Byddwch hefyd yn:
- Gwella eich sgiliau cyfathrebu, ar lafar ac yn ysgrifenedig, trwy gyfres o adroddiadau ac aseiniadau
- Datblygu eich gwybodaeth, sgiliau a hyder i ddatrys problemau amlddisgyblaethol mewn cyd-destun peirianneg.
Gyrfaoedd
Rhagolygon gyrfa
Cyflogir graddedigion y cwrs hwn yn bennaf yn y diwydiant peirianneg sifil gan gwmnïau ymgynghorol a chontractwyr mawr fel Syr Robert McAlpine, Ramboll, Arup, Mott McDonald ac eraill. Ymhlith y rolau nodweddiadol mae peiriannydd sifil graddedig, peiriannydd safle neu beiriannydd dylunio, a byddant yn gweithio ledled y Deyrnas Unedig ac ymhellach oddi cartref hefyd.
Mae nifer o raddedigion wedi dewis astudio ymhellach, naill ai ar lefel MSc neu PhD, yng Nghaerdydd ac mewn sefydliadau ledled y DU a thu hwnt.
Mae eraill wedi dewis gweithio i gwmnïau cenedlaethol a rhyngwladol. Mae rhai enghreifftiau diweddar yn cynnwys cwmnïau yn y sectorau ariannol, cyfryngau a phetrocemegol gyda chyrchfannau gan gynnwys Deloitte, PwC, Virgin a Shell.
Gyrfaoedd graddedigion
- Peiriannydd Sifil
- Dadansoddwr Technoleg
- Rheolwr Prosiect
Camau nesaf
Ymweliadau Diwrnod Agored
Cofrestrwch i gael ein newyddion diweddaraf
Rhyngwladol
Mwy o wybodaeth am ein brifysgol fyd-eang
Gofyn cwestiwn
Gofynnwch gwestiwn i ni neu siaradwch â'n tîm derbyn myfyrwyr.
Sut i wneud cais
Sut i wneud cais am y cwrs hwn
Rhagor o wybodaeth
Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.