Peirianneg Fecanyddol (MEng)
- Maes pwnc: Peirianneg
- Côd UCAS: H302
- Derbyniad nesaf: Medi 2024
- Hyd: 4 blwyddyn
- Modd (astudio): Amser llawn
Pam astudio'r cwrs hwn
Rasio Caerdydd
Mae llawer o fyfyrwyr peirianneg fecanyddol yn ymuno â Rasio Caerdydd ac yn cymryd rhan mewn dylunio, datblygu a phrofi car rasio Fformiwla Myfyrwyr profedig.
Cynnwys a arweinir gan ddiwydiant
Caiff cynnwys ein cwrs ei lywio gan gydweithrediad diwydiannol a'i gyflwyno gan staff academaidd blaenllaw, y mae llawer ohonynt yn Beirianwyr Siartredig neu wedi gweithio mewn diwydiant.
Cyfleusterau o safon y diwydiant
Bydd gofod stiwdio dylunio dynodedig, labordai arbenigol, gweithdai ac ystafelloedd cyfrifiadurol ar gael ar eich cyfer.
Elfen ddylunio gref
Mae elfen ddylunio gref drwy gydol y cwrs, a bydd gennych ddigonedd o gyfleoedd ar gyfer gwaith ymarferol yn ein gofod stiwdio dylunio dynodedig, ein labordai arbenigol, ein gweithdai a’n hystafelloedd cyfrifiaduron. Bydd cyfle i'r rhai sy'n astudio yn y ddisgyblaeth peirianneg sifil fynd ar deithiau maes diwydiannol.
Cwrs sydd wedi’i achredu’n broffesiynol
Wedi’i achredu gan Sefydliad y Peirianneg Mecanyddol a’r Sefydliad Ynni ar ran y Cyngor Peirianneg at ddibenion bodloni'n llawn y gofyniad academaidd ar gyfer cofrestru’n Beiriannydd Siartredig.
Mae peirianwyr mecanyddol yn cyfuno dychymyg a thechnoleg i ddatrys problemau yn y byd go iawn, trwy drin rhannau sy'n symud. Maent yn datblygu pob math o ddyfeisiau mecanyddol, offer, peiriannau a pheiriannau. sy'n cynnig atebion arloesol i gymdeithas a sectorau gan gynnwys trafnidiaeth, ynni a gweithgynhyrchu.
Mae’r cwrs achrededig hwn yn darparu’r wybodaeth, y sgiliau a’r profiad ymarferol sydd eu hangen arnoch i ddod yn beiriannydd fecanyddol sy’n barod am waith. Byddwch yn ymgorffori'r wybodaeth a gafwyd o'ch darlithoedd a'ch tiwtorialau ac yn datblygu eich galluoedd ymarferol ym meysydd dylunio, cyfrifiadura modelu, drwy brosiectau ymarferol a dosbarthiadau dylunio.
Byddwch yn dewis o blith amrywiaeth o broblemau peirianneg dilys yn y byd go iawn a senarios sy'n canolbwyntio ar y diwydiant, i weithio arnynt yn unigol a chyda pheirianwyr-fyfyrwyr o ddisgyblaethau eraill. Mae gwaith grŵp yn adlewyrchu perthnasoedd tîm peirianneg a bydd yn eich helpu i feithrin sgiliau proffesiynol, megis gwaith tîm a chyfathrebu. Mae ein mannau creu mynediad agored yn darparu lle i chi ddylunio, creu a chydweithio.
Mae rhaglen radd MEng yn eich galluogi i ehangu a chryfhau eich gwybodaeth ym maes peirianneg fecanyddol. Byddwch yn elwa o ddysgu ar lefel uwch ym meysydd dylunio a rheoli, a phrosiectau dylunio peirianneg amlddisgyblaethol.
Achrediadau

Maes pwnc: Peirianneg
Gofynion mynediad
Rydym yn derbyn cyfuniad o gymwysterau Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn ogystal â chymwysterau rhyngwladol cyfatebol yn amodol ar ofynion mynediad. Os ydych yn gwneud cais i astudio'r cwrs yma drwy Glirio, gall gofynion graddau mynediad fod yn uwch na'r rhai a hysbysebwyd. Dyma ein cynigion nodweddiadol:
Lefel A
AAA-AAB. Rhaid i’r rhain gynnwys gradd A mewn Mathemateg. Bydd angen i chi basio’r elfen ymarferol o bwnc gwyddoniaeth Safon Uwch os yw hyn yn rhan o'ch rhaglen astudio.
Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhynglwadol: Fel arfer, bydd ymgeiswyr sydd wedi ennill gradd A yn y Cymhwyster Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhyngwladol: Bydd ymgeiswyr sydd â gradd A mewn Cymhwyster Prosiect Estynedig (EPQ)/Cymhwyster Prosiect Rhyngwladol (IPQ) fel arfer yn derbyn cynnig un radd yn is na'r cynnig safonol. Sylwch fod yn rhaid parhau i fodloni unrhyw ofynion penodol pwnc.
Mae ein hystod gradd yn cwmpasu ein cynnig safonol a'n cynnig cyd-destunol. Rydym yn ystyried yn ofalus yr amgylchiadau rydych chi wedi bod yn astudio (eich data cyd-destunol) ar gais.
- Bydd myfyrwyr cymwys yn cael cynnig y rhan isaf yn yr ystod gradd a hysbysebir.
- Lle nad oes ystod gradd yn cael ei hysbysebu a/neu lle mae prosesau dethol yn eu lle (fel cyfweliad) efallai y byddwch yn derbyn pwyntiau ychwanegol yn y broses ddethol neu'n sicr o gael cyfweliad/ystyriaeth.
Dysgwch am gyrsiau cymwys a sut mae data cyd-destunol yn cael ei gymhwyso.
Y Fagloriaeth Rhyngwladol
36-34 yn gyffredinol neu 666 mewn 3 phwnc Lefel Uwch. Rhaid i’r rhain gynnwys gradd 6 mewn Bioleg Lefel Uwch.
Bagloriaeth Cymru
O fis Medi 2023, bydd cymhwyster newydd o'r enw Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru (lefel 3). Bydd y cymhwyster hwn yn disodli'r Dystysgrif Her Sgiliau Uwch (Bagloriaeth Cymru). Bydd y cymhwyster yn parhau i gael ei dderbyn yn lle un Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod), ac eithrio unrhyw bynciau penodol.
Gofynion eraill
Rhaid i chi fod yn meddu ar y canlynol neu’n gweithio tuag atynt:
- TGAU Iaith Saesneg neu Gymraeg gradd C/4 neu gyfwerth (fel Safon Uwch). Os oes angen fisa Myfyriwr arnoch, rhaid i chi sicrhau bod eich cymhwyster iaith yn cydymffurfio â gofynion UKVI.
Nid ydym yn derbyn Meddwl yn Feirniadol, Astudiaethau Cyffredinol, Astudiaethau Dinasyddiaeth, na phynciau eraill tebyg neu gyfatebol.
Byddwn yn derbyn cyfuniad o bynciau BTEC, Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn amodol ar ofynion gradd a phwnc penodol y cwrs.
Cynllun Cymeradwyaeth Technoleg Academaidd (ATAS)
Bydd angen i fyfyrwyr rhyngwladol sy'n defnyddio unrhyw fath o visa gael cliriad ATAS i astudio'r cwrs hwn.
Gofynion Iaith Saesneg
GCSE
Gradd C neu radd 4 mewn TGAU Iaith Saesneg.
IELTS (academic)
O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgil.
TOEFL iBT
O leiaf 90 yn gyffredinol gydag o leiaf 17 ar gyfer ysgrifennu, 17 am wrando, 18 ar gyfer darllen, ac 20 ar gyfer siarad.
PTE Academic
O leiaf 69 ar y cyfan gydag o leiaf 59 yn yr holl sgiliau cyfathrebu.
Trinity ISE II/III
II: dau Ragoriaeth a dau Deilyngdod o leiaf.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.
Cymwysterau eraill a dderbynnir
Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.
Euogfarnau troseddol
Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.
Os ydych chi'n destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro ar hyn o bryd a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau'ch astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu'ch cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:
- mynediad at gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
- defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
- cyrffyw
- rhyddid i symud, gan gynnwys y gallu i deithio i'r tu allan i'r DU neu i ymgymryd â lleoliad / astudiaethau y tu allan i Brifysgol Caerdydd
- cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.
Cymwysterau o'r tu allan i'r DU
BTEC
DD mewn Diploma BTEC mewn unrhyw bwnc a gradd A mewn Mathemateg Safon Uwch.
Lefel T
Nid ydym yn derbyn Lefelau T ar gyfer y rhaglen hon.
Cewch ragor o wybdoaeth am y broses ymgeisio yn ein polisïau derbyn myfyrwyr.
Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2024
Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.
Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd
Ffioedd am statws cartref
Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2024/25. Ffioedd dysgu y flwyddyn flaenorol oedd £9,000.
Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir
Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2024/25.
Ffioedd am statws ynys
Dysgwch ragor am ffioedd israddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.
Ffioedd am statws tramor
Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2024/25.
Costau ychwanegol
Cyfarpar ar gyfer cwrs penodol
Ni fydd angen unrhyw gyfarpar penodol. Bydd y Brifysgol yn darparu adnoddau fel cyfrifiaduron a meddalwedd cysylltiedig, offer labordy (gan gynnwys unrhyw offer diogelwch) ac amrywiaeth o adnoddau dysgu eraill.
Llety
Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.
Costau byw
Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.
Strwythur y cwrs
Mae hon yn gwrs gradd pedair blynedd amser llawn, gyda modiwlau craidd yn bennaf ym Mlynyddoedd Un a Dau. Mae gan Flynyddoedd Tri a Phedwar gydbwysedd a ddewiswyd yn ofalus o fodiwlau craidd a dewisol, sy'n eich galluogi i ddewis pynciau i gyd-fynd â'ch diddordebau personol neu'ch llwybr gyrfa dewisol.
Mae angen i chi ennill 120 credyd y flwyddyn.
Bydd angen i fyfyrwyr sy'n dymuno symud ymlaen i’r rhaglen MEng ar ddiwedd Blwyddyn Dau gyflawni marc o 60% neu uwch ar gyfer y flwyddyn ar gyfartaledd, neu symud ymlaen i un o'n dwy raglen BEng fel arall.
Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2024/2025. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2024
Blwyddyn un
Mae’r flwyddyn gyntaf yn cynnwys cyfres o ddarlithoedd wedi'u hategu gan sesiynau labordy ymarferol.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Engineering Maths and Computation | EN1211 | 30 Credydau |
Fundamentals of Mechanical Engineering | EN1213 | 50 Credydau |
Applied Design and Practice | EN1217 | 40 Credydau |
Blwyddyn dau
Mae’r ail flwyddyn eto'n cynnwys cyfres o ddarlithoedd wedi'u hategu gan sesiynau labordy ymarferol.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Mechanical Engineering Labs | EN2024 | 10 Credydau |
Control and Instrumentation | EN2037 | 10 Credydau |
Thermofluids 2 | EN2104 | 20 Credydau |
Solid Mechanics and Dynamics | EN2105 | 20 Credydau |
Computing 1 | EN2106 | 10 Credydau |
Engineering Analysis and Computing 2 | EN2107 | 20 Credydau |
Design | EN2602 | 20 Credydau |
Manufacturing Systems Design | EN2904 | 10 Credydau |
Blwyddyn tri
Mae'r drydedd flwyddyn hefyd yn cynnwys prosiect mawr, sy’n werth chwarter y flwyddyn fel arfer. Byddwch yn gweithio'n unigol ar y prosiect, ochr yn ochr ag aelod o staff goruchwylio.
Mae yna fodiwlau craidd mewn Rheoli Busnes ond mae yna fodiwlau dewisol hefyd, gan adeiladu ar y sylfeini a sefydlwyd yn y blynyddoedd cynharach.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Industrial Project Management | EN3026 | 10 Credydau |
Project | EN3100 | 30 Credydau |
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Commercialising Innovation | EN3006 | 10 Credydau |
Materials and Manufacture | EN3033 | 10 Credydau |
Fluid Mechanics | EN3034 | 10 Credydau |
Energy Studies | EN3036 | 10 Credydau |
Solid Mechanics | EN3037 | 10 Credydau |
Thermodynamics and Heat Transfer | EN3042 | 10 Credydau |
Robotics and Image Processing | EN3062 | 10 Credydau |
Object Oriented Engineering Computing | EN3085 | 10 Credydau |
Engineering Optimisation with Python | EN3098 | 10 Credydau |
Waste Management and Recycling | EN3401 | 10 Credydau |
Fluid Power and Control | EN3513 | 10 Credydau |
Mechanical Power Transmission | EN3608 | 10 Credydau |
Blwyddyn pedwar
Byddwch yn gwneud dau brosiect grŵp yn y bedwaredd blwyddyn, sy'n gysylltiedig ag ymchwil amserol. Gyda’i gilydd, mae'r rhain yn ffurfio hanner yr asesiad cyffredinol.
Byddwch yn dilyn y modiwl craidd Rheoli mewn Diwydiant a gallwch ddewis modiwlau o blith modiwlau eraill.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Applied Numerical Methods in Engineering | EN4018 | 10 Credydau |
Automotive Design | EN4101 | 30 Credydau |
Integrated Building Design | EN4102 | 30 Credydau |
Renewable Energy Design | EN4103 | 30 Credydau |
Biomechanics and Biomedical Engineering | EN4107 | 30 Credydau |
Mechatronics Design | EN4110 | 30 Credydau |
Forensic Bioengineering | EN4453 | 10 Credydau |
Energy Management | EN4603 | 10 Credydau |
Cond Monitoring, Modelling and Forecasting | EN4604 | 10 Credydau |
Risk and Hazard Assessment | EN4606 | 10 Credydau |
Control | EN4610 | 10 Credydau |
Tribology | EN4611 | 10 Credydau |
Thermodynamics and Heat Transfer | EN4626 | 10 Credydau |
Quality and Reliability | EN4640 | 10 Credydau |
Theory and Applications of the Finite Element Method | EN4641 | 10 Credydau |
Sustainable Transport | EN4700 | 10 Credydau |
Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle'n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu
Addysgir trwy ddarlithoedd a thiwtorialau, ac ategir hyn gan waith ymarferol mewn labordai a gwaith prosiect. Mae yna lyfrgell gyfoethog o ddeunyddiau dysgu ar-lein, wedi'i deilwra ar gyfer pob gwers ym mhob modiwl, gan gynnwys fideos cyfarwyddiadol/gwybodaeth, nodiadau astudio, cwestiynau ymarfer dan arweiniad a rhai cwisiau ar-lein.
Rhaid i bob myfyriwr gwblhau prosiect unigol 30 credyd ym Mlwyddyn Tri, a dyrennir goruchwyliwr ar ei gyfer o blith y staff addysgu.
Bydd cyfleoedd i ryngweithio â darpar gyflogwyr trwy ffeiriau gyrfaoedd a darlithoedd gwadd. Bydd siaradwyr o’r diwydiant yn cyflwyno darlithoedd rheolaidd am eu meysydd arbenigol. Mae’r rhain yn rhoi’r cyfle i chi glywed arbenigwyr yn siarad am bynciau sy’n berthnasol i’ch gradd, ac mae'n rhoi dealltwriaeth i chi o sut beth yw gweithio yn y diwydiant.
Sut y caf fy nghefnogi?
Ym Mlwyddyn Un, dyrennir tiwtor personol i chi sy'n aelod o'r staff academaidd sy'n gysylltiedig â'ch cwrs gradd. Bydd eich tiwtor personol wrth law i'ch cynghori ar faterion academaidd, materion nad ydynt yn rhai academaidd a materion phersonol, a hynny mewn modd cyfrinachol ac anffurfiol. Ein nod yw eich helpu i oresgyn unrhyw broblem, ni waeth pa mor fach neu fawr ydyw, mor effeithlon a chyflym â phosibl.
Ar gyfer y prosiect 30 credyd ym Mlwyddyn Tri, bydd goruchwyliwr yn y maes arbenigedd ymchwil perthnasol yn cael ei ddyrannu i chi a fydd yn cwrdd â chi’n rheolaidd i roi arweiniad a chyngor ar gynnydd yn y gwaith.
Trwy wefan Dysgu Canolog, byddwch yn gallu cael gafael ar ddeunydd amlgyfrwng perthnasol, cyflwyniadau, taflenni darlithoedd, llyfryddiaethau, dolenni pellach, ymarferion electronig a chylchoedd trafod.
Cyflwynir rhaglen helaeth o weithdai a darlithoedd gyrfaoedd yn yr Ysgol Peirianneg ac mae Ymgynghorydd Gyrfaoedd ar gael hefyd.
Mae Prifysgol Caerdydd yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau sy’n cynnwys y Gwasanaeth Gyrfaoedd, y Gwasanaeth Cwnsela, y Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia, y Gwasanaeth Cefnogi Myfyrwyr, a llyfrgelloedd a chanolfannau adnoddau ardderchog.
Adborth
Byddwn yn rhoi adborth i chi ar eich gwaith yn aml. Daw hyn mewn sawl fformat gan gynnwys adborth llafar mewn dosbarthiadau fel dylunio a gwaith prosiect a thrwy ddychwelyd gwaith cwrs wedi'i farcio.
Cewch y cyfle i brofi'ch gwybodaeth a'ch dealltwriaeth trwy gydol y semester trwy brofion dosbarth ym Mlynyddoedd 1 a 2, yn ogystal ag adborth ar asesiadau ysgrifenedig. Weithiau, gellir defnyddio asesiad cyfoedion o gyfraniad unigolyn at grŵp, ac efallai y byddwch hefyd yn cael adborth llafar am gyflwyniadau a chyfraniadau at weithgareddau grŵp.
Sut caf fy asesu?
Bydd eich asesiadau'n amrywio i werthuso gwybodaeth, dealltwriaeth, sgiliau proffesiynol a sgiliau allweddol. Yn bennaf, asesir ym Mlwyddyn Un trwy brofion yn ystod y flwyddyn, adroddiadau byr, portffolio datblygiad proffesiynol, cyflwyniadau a dau arholiad ysgrifenedig. Mae'r amrywiaeth hwn o asesiadau'n cael eu cynnal i'r blynyddoedd uwch gyda newid graddol o brofion i arholiadau. Caiff y prosiect unigol mawr ym Mlwyddyn Tri ei asesu gan adroddiad traethawd hir, a bydd prosiectau grŵp ym Mlwyddyn Pedwar yn cael eu hasesu trwy adroddiadau prosiect aml-gydran mawr.
Pa sgiliau bydda i'n eu hymarfer a'u datblygu?
Mae Deilliannau Dysgu’r rhaglen hon yn disgrifio'r hyn y byddwch chi’n gallu ei wneud o ganlyniad i astudio ym Mhrifysgol Caerdydd. Byddan nhw’n eich helpu i ddeall yr hyn mae disgwyl ichi ei wneud.
Mae deilliannau dysgu’r rhaglen hon isod:
Ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu:
Gwybodaeth a Dealltwriaeth:
KU1 Cymhwyso gwybodaeth gynhwysfawr am fathemateg, ystadegau, gwyddoniaeth naturiol ac egwyddorion peirianneg i ddatrys problemau cymhleth mewn peirianneg fecanyddol. Bydd llawer o'r wybodaeth ar flaen y gad yn y pwnc astudio penodol ac yn cael ei llywio gan ymwybyddiaeth feirniadol o ddatblygiadau newydd a chyd-destun ehangach peirianneg fecanyddol.
KU2 Llunio a dadansoddi problemau cymhleth i ddod i gasgliadau wedi'u cadarnhau. Bydd hyn yn cynnwys gwerthuso’r data sydd ar gael gan ddefnyddio egwyddorion cyntaf mathemateg, ystadegau, gwyddoniaeth naturiol ac egwyddorion peirianneg, a defnyddio barn beirianyddol i weithio gyda gwybodaeth a allai fod yn ansicr neu’n anghyflawn, gan drafod cyfyngiadau’r technegau a ddefnyddir.
KU3 Gwerthuso effaith amgylcheddol a chymdeithasol atebion i broblemau peirianneg fecanyddol cymhleth (gan gynnwys cylch bywyd cyfan cynnyrch neu broses) a lleihau effeithiau andwyol.
KU4 Trafod rôl systemau rheoli ansawdd a gwelliant parhaus yng nghyd-destun problemau peirianneg fecanyddol cymhleth.
KU5 Cymhwyso gwybodaeth am egwyddorion rheoli peirianneg, cyd-destunau masnachol, rheoli prosiectau a newid, a materion cyfreithiol perthnasol gan gynnwys hawliau eiddo deallusol.
Sgiliau Deallusol:
IS1 Dewis a chymhwyso technegau cyfrifiadurol a dadansoddol priodol, gan gydnabod/trafod cyfyngiadau'r technegau a ddefnyddir, ar gyfer cyfuno problemau peirianneg fecanyddol, a llunio barn ar gamau gweithredu priodol.
IS2m Dewis a gwerthuso llenyddiaeth dechnegol a ffynonellau eraill o wybodaeth yn feirniadol i fynd i'r afael â phroblemau cymhleth.
IS3m Dylunio datrysiadau ar gyfer problemau peirianneg fecanyddol cymhleth sy’n rhoi tystiolaeth o wreiddioldeb ac yn bodloni cyfuniad o anghenion cymdeithasol, defnyddwyr, busnes a chwsmeriaid fel y bo’n briodol, gan ystyried iechyd a diogelwch, amrywiaeth, cynhwysiant, materion diwylliannol, cymdeithasol, amgylcheddol a masnachol, codau ymarfer a safonau diwydiant.
IS4 Cymhwyso dull integredig neu systemau i ddatrys problemau cymhleth.
Sgiliau Ymarferol Proffesiynol:
PS1 Dewis a chymhwyso sgiliau labordy a gweithdy ymarferol priodol ym maes peirianneg fecanyddol, yn enwedig wrth ddyfeisio dulliau dadansoddol neu arbrofol, i ymchwilio i broblemau cymhleth.
PS2 Dewis, cymhwyso a gwerthuso deunyddiau, offer, technolegau a phrosesau peirianneg priodol, gan gydnabod eu cyfyngiadau.
PS3 Defnyddio proses rheoli risg i nodi, gwerthuso a lliniaru risgiau (effeithiau ansicrwydd) sy'n gysylltiedig â phrosiect neu weithgaredd peirianneg fecanyddol penodol.
PS4 Mabwysiadu dull cyfannol a chymesur o liniaru risgiau diogelwch mewn peirianneg fecanyddol.
PS5m Integreiddio gwybodaeth, dealltwriaeth, sgiliau a chreadigrwydd i ddatrys ystod eang o broblemau peirianneg, gan gynnwys rhai newydd neu gymhleth, yn enwedig trwy gymryd rhan mewn prosiectau dylunio mewn grŵp.
Sgiliau trosglwyddadwy/allweddol:
TS1 Cyfathrebu'n effeithiol am faterion peirianneg cymhleth â chynulleidfaoedd technegol ac annhechnegol, gan werthuso effeithiolrwydd y dulliau a ddefnyddir.
TS2 Nodi a dadansoddi pryderon moesegol a gwneud dewisiadau moesegol rhesymegol ar sail codau ymddygiad proffesiynol.
TS3 Mabwysiadu agwedd gynhwysol at ymarfer peirianneg a chydnabod/cyfleu cyfrifoldebau, buddion a phwysigrwydd cefnogi cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.
TS4m Gweithio'n effeithiol yn unigol, ac fel aelod neu arweinydd tîm, a gwerthuso effeithiolrwydd perfformiad eich hun a pherfformiad tîm.
TS5 Cynllunio a chofnodi gwerthusiad myfyriol o hunanddysgu a datblygiad fel sylfaen ar gyfer dysgu gydol oes/DPP.

Gyrfaoedd
Rhagolygon gyrfa
Mae nifer o raddedigion yn gweithio ym maes dylunio cynhyrchion i ddiwydiannau modurol, awyrenegol, cyfathrebiadau ac ynni. Mae rhai yn gweithio ym maes peirianneg feddygol, rhai yn teithio’r byd ar ran y diwydiant petrocemegol, ac eraill yn ymwneud â meysydd datblygu, cynhyrchu a rheoli cyffredinol.
Mae rhai yn dewis defnyddio’u graddau fel cymhwyster i’w galluogi i weithio mewn disgyblaethau eraill. Mae’r rhai hynny sydd wedi dilyn y llwybr hwn fel arfer yn gweithio yn y Lluoedd Arfog, y sector ariannol, y proffesiwn cyfreithiol, cyfrifyddiaeth siartredig neu gyfrifiadura.
Gyda safon mor uchel a chyfleoedd mor eang, mae gyrfa mewn peirianneg fecanyddol yn amrywiol, yn heriol ac yn werth chweil.
Camau nesaf
Ymweliadau Diwrnod Agored
Cofrestrwch i gael ein newyddion diweddaraf
Rhyngwladol
Mwy o wybodaeth am ein brifysgol fyd-eang
Gofyn cwestiwn
Gofynnwch gwestiwn i ni neu siaradwch â'n tîm derbyn myfyrwyr.
Sut i wneud cais
Sut i wneud cais am y cwrs hwn
Rhagor o wybodaeth
Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.