Ewch i’r prif gynnwys

Peirianneg Sifil ac Amgylcheddol (BEng)

  • Maes pwnc: Peirianneg
  • Côd UCAS: H221
  • Derbyniad nesaf: Medi 2023
  • Hyd: 3 blwyddyn
  • Modd (astudio): Amser llawn

Blwyddyn Mynediad

Pam astudio'r cwrs hwn

star

Elfen ddylunio gref

Mae elfen ddylunio gref drwy gydol y cwrs, a chewch ddigon o gyfleoedd i wneud gwaith ymarferol.

screen

Mynediad at gyfleusterau o safon y diwydiant

Bydd mannau addysgu dynodedig ar gael ar eich cyfer a sefydlwyd ar gyfer dylunio a gwaith prosiect, labordai arbenigol ac ystafelloedd cyfrifiaduron.

rosette

Sgôr safle cyntaf yn y DU

Peirianneg Sifil ac Adeiladu ym Mhrifysgol Caerdydd oedd ar y brig am effaith ymchwil yn asesiad ymchwil diweddaraf y llywodraeth (REF2014).

briefcase

Cynnwys a arweinir gan ddiwydiant

Caiff cynnwys ein cwrs ei lywio gan gydweithrediad diwydiannol a'i gyflwyno gan staff academaidd blaenllaw, y mae llawer ohonynt yn Beirianwyr Siartredig neu wedi gweithio mewn diwydiant.

certificate

Cwrs sydd wedi’i achredu’n broffesiynol

Wedi'i achredu gan Sefydliad y Peirianwyr Sifil, Sefydliad y Peirianwyr Strwythurol, Sefydliad Siartredig Priffyrdd a Chludiant a Sefydliad y Peirianwyr Priffyrdd ar ran y Cyngor Peirianneg at ddibenion bodloni'n llawn y gofyniad academaidd ar gyfer cofrestru i fod yn Beiriannydd Corfforedig a bodloni’n rhannol y gofyniad academaidd ar gyfer cofrestru i fod yn Beiriannydd Siartredig.

Peirianneg sifil yw peirianneg sifil ac amgylcheddol gyda phwyslais ar faterion amgylcheddol fel rheoli gwastraff, adeiladu ar drin tir a dŵr wedi'i halogi.

Mae ein rhaglen peirianneg sifil ac amgylcheddol yn cynnig cwrs gradd uchel ei barch yn un o'r prifysgolion gorau yn y maes hwn, ac mae’n eich paratoi ar gyfer cyfleoedd cyffrous yn eich gyrfa yn y dyfodol wrth ddylunio’r amgylcheddau adeiledig, a gweithio â nhw.

Byddwch yn datblygu dealltwriaeth drylwyr o ddamcaniaeth peirianneg sifil ac amgylcheddol, fydd yn cael ei ategu o’i ddefnyddio’n ymarferol drwy waith ymchwil a gwaith labordy, teithiau maes a dosbarthiadau dylunio. Gellir dewis modiwlau dewisol o blith y rhai sydd â thema bensaernïol.

Os yw ennill statws Siartredig yn bwysig i chi, gall cwrs MEng gynnig llwybr cyflymach, mwy uniongyrchol na chwrs BEng.

Mae cyrsiau peirianneg sifil ac amgylcheddol eraill yn cynnwys:

  • y cyfle i fodloni'r gofynion addysgol llawn i ddod yn Beiriannydd Siartredig os dewiswch gwrs MEng
  • y cyfle i ddilyn blwyddyn ryngosod mewn diwydiant os dewiswch radd BEng pedair blynedd berthnasol neu’r radd MEng pum mlynedd
  • y cyfle i astudio dramor mewn sefydliad partner am un semester os dewiswch y radd MEng (Rhyngwladol) berthnasol
  • y cyfle i astudio iaith os dewiswch y radd MEng perthnasol gyda blwyddyn ryngosod mewn prifysgol yn Ffrainc, yr Almaen neu Sbaen.

Achrediadau

Maes pwnc: Peirianneg

  • academic-schoolYr Ysgol Peirianneg
  • icon-chatGofyn cwestiwn
  • Telephone+44 (0)29 2087 4656
  • Marker5 The Parade, Heol Casnewydd, Caerdydd, CF24 3AA

Gofynion mynediad

Rydym yn derbyn cyfuniad o gymwysterau Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn ogystal â chymwysterau rhyngwladol cyfatebol yn amodol ar ofynion mynediad. Dyma ein cynigion nodweddiadol:

Lefel A

ABB-BBB. Rhaid i’r rhain gynnwys gradd B mewn Cerddoriaeth. Bydd angen i chi basio yr elfen ymarferol o bwnc gwyddoniaeth Safon Uwch os yw hyn yn rhan o'ch rhaglen astudio.

Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhynglwadol: Fel arfer, bydd ymgeiswyr sydd wedi ennill gradd A yn y Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhyngwladol yn cael cynnig un radd yn is na'r cynnig safonol ar gyfer Safon Uwch. Sylwer bod yn rhaid bodloni unrhyw ofynion sy'n benodol i'r pwnc o hyd.


Mae'r radd hon yn adlewyrchu ein cynigion safonol a chyd-destunol nodweddiadol. Rydym yn ystyried eich data cyd-destunol (yr amgylchiadau yr ydych wedi bod yn astudio ynddynt) yn ofalus mewn cais. Bydd myfyrwyr cymwys sy'n gwneud cais ar gyfer y cwrs hwn yn cael cynnig ym mhen isaf yr amrediad graddau a hysbysebir.

Y Fagloriaeth Rhyngwladol

32-31 yn gyffredinol neu 665 mewn 3 phwnc Lefel Uwch. Rhaid i’r rhain gynnwys gradd 5 mewn Mathemateg Lefel Uwch.

Bagloriaeth Cymru

O 2023 ymlaen, bydd Bagloriaeth Cymru yn cael ei hailenwi'n Dystysgrif Her Sgiliau Uwch Bagloriaeth Cymru. Bydd y cymhwyster hwn yn parhau i gael ei dderbyn yn lle un Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod), ac eithrio unrhyw bynciau penodol.

Cymwysterau o'r tu allan i'r DU

BTEC

DD-DM mewn Diploma BTEC mewn unrhyw bwnc, a gradd B mewn Mathemateg Safon Uwch.

Lefel T

Bydd yr Ysgol Academaidd yn ystyried derbyn Lefelau T ar gyfer y rhaglen hon fesul achos. Rhoddir ystyriaeth i'r radd / pwnc Lefel T a'r graddau/pynciau a gyflawnir ar lefel TGAU/Lefel 2.

Cymwysterau eraill o'r tu mewn i'r DU

Gweld ein arweiniad i gymwysterau cyfatebol

Gofynion mynediad ychwanegol

GCSE

Gradd C neu radd 4 mewn TGAU Iaith Saesneg.

IELTS (academic)

O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgil.

TOEFL iBT

O leiaf 90 ar y cyfan gyda sgôr o 17 o leiaf ar gyfer ysgrifennu, 17 ar gyfer gwrando, 18 ar gyfer darllen a 20 ar gyfer siarad.

PTE Academic

O leiaf 62 ar y cyfan gydag o leiaf 59 yn yr holl sgiliau cyfathrebu.

Trinity ISE II/III

II: dau Ragoriaeth a dau Deilyngdod o leiaf.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.

Cymwysterau eraill a dderbynnir

Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.

Rhaid i chi fod yn meddu ar y canlynol neu’n gweithio tuag atynt:
- TGAU Iaith Saesneg neu Gymraeg gradd C/4 neu gyfwerth (fel Safon Uwch). Os oes angen fisa Myfyriwr arnoch, rhaid i chi sicrhau bod eich cymhwyster iaith yn cydymffurfio â gofynion UKVI.

Nid ydym yn derbyn Meddwl yn Feirniadol, Astudiaethau Cyffredinol, Astudiaethau Dinasyddiaeth, na phynciau eraill tebyg neu gyfatebol.
Byddwn yn derbyn cyfuniad o bynciau BTEC, Safon Uwch, a chymwysterau eraill, yn amodol ar ofynion gradd a phwnc penodol y cwrs.

You are not required to complete a DBS (Disclosure Barring Service) check or provide a Certificate of Good Conduct to study this course.

If you are currently subject to any licence condition or monitoring restriction that could affect your ability to successfully complete your studies, you will be required to disclose your criminal record. Conditions include, but are not limited to:

  • access to computers or devices that can store images
  • use of internet and communication tools/devices
  • curfews
  • freedom of movement, including the ability to travel to outside of the UK or to undertake a placement/studies outside of Cardiff University
  • contact with people related to Cardiff University.

Cewch ragor o wybdoaeth am y broses ymgeisio yn ein polisïau derbyn myfyrwyr.

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2023

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2023/24. Ffioedd dysgu y flwyddyn flaenorol oedd £9,000.

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2023/24.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd israddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2023/24.

Costau ychwanegol

Cyfarpar ar gyfer cwrs penodol

Ni fydd angen unrhyw gyfarpar penodol. Bydd y Brifysgol yn darparu adnoddau fel cyfrifiaduron a meddalwedd cysylltiedig, offer labordy (gan gynnwys unrhyw offer diogelwch) ac unrhyw adnoddau dysgu eraill fydd eu hangen (electronig a chopïau caled).

Llety

Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Strwythur y cwrs

Rydym yn gweithio gyda'n myfyrwyr ar hyn o bryd yn diweddaru ac yn gwella cynnwys y cwrs hwn. Mae'r wybodaeth isod yn adlewyrchu'r cwricwlwm presennol a fydd yn newid yn ôl pob tebyg. Disgwylir i ni fod wedi gorffen adolygu'r cwrs erbyn mis Awst 2023. Bydd y dudalen hon wedi'i diweddaru erbyn mis Hydref 2023 i ddangos y newidiadau.

Gradd amser llawn a thair blynedd o hyd yw hon. Mae'r cwrs yn cynnig cydbwysedd gofalus o fodiwlau craidd a modiwlau dewisol. 10 credyd yw gwerth y rhan fwyaf o fodiwlau, 20 credyd yw gwerth rhai ohonynt, a 30 yw gwerth ychydig ohonynt, gan gynnwys prosiect y flwyddyn olaf. Mae angen i chi ennill 120 o gredydau bob blwyddyn.

Mae dau semester bob blwyddyn, pob semester yn cynnwys 11 wythnos addysgu, un wythnos adolygu a chyfnod arholiadau.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2023/2024. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2023

Blwyddyn un

Mae’r flwyddyn gyntaf yn cynnwys cyfres o ddarlithoedd a sesiynau labordy ymarferol, sy'n rhoi sylfaen gadarn i chi ar gyfer dwy flynedd nesaf eich rhaglen radd.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Engineering AnalysisEN109120 Credydau
Computing 1EN109210 Credydau
Environmental Fluid and GeomechanicsEN191120 Credydau
Materials and ConstructionEN191220 Credydau
Design StudiesEN191520 Credydau
StructuresEN191620 Credydau
Professional EngineeringEN191710 Credydau

Blwyddyn dau

Mae’r ail flwyddyn eto'n cynnwys cyfres o ddarlithoedd wedi'u hategu gan sesiynau labordy ymarferol.

Mae cwrs maes preswyl oddi ar y safle yn cael ei gynnal am bum niwrnod yn semester y gwanwyn, fel rhan o'r modiwl Astudiaethau Maes o'r Amgylchedd Naturiol ac Adeiledig.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Engineering AnalysisEN202620 Credydau
Computing 2EN220810 Credydau
Environmental EngineeringEN231310 Credydau
Hydraulics and Soil MechanicsEN231420 Credydau
Professional Studies and ConstructionEN231520 Credydau
Structural Analysis and DesignEN240040 Credydau

Blwyddyn tri

Mae'r drydedd flwyddyn hefyd yn cynnwys prosiect mawr, sy’n werth chwarter y flwyddyn fel arfer.  Byddwch yn gweithio'n unigol ar y prosiect, ochr yn ochr ag aelod o staff goruchwylio.

Mae yna fodiwlau craidd eraill ond mae yna fodiwlau dewisol hefyd, gan adeiladu ar y sylfeini a sefydlwyd yn y blynyddoedd cynharach.

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle'n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Byddwch yn dysgu am agweddau sylfaenol peirianneg drwy gyfuniad o ddarlithoedd a thiwtorialau, ac ategir at hyn gan sesiynau ymarferol a gwaith sy’n seiliedig ar brosiectau.

Mae'r modiwlau a addysgir yn y ddwy flynedd gyntaf yn rhai gorfodol i raddau helaeth, ond mae opsiynau ar gael ym mlwyddyn tri. Rhaid i bob myfyriwr gwblhau prosiect unigol 30-credyd ym mlwyddyn tri, a dyrennir goruchwyliwr ar eu cyfer o blith y staff addysgu.

Mae cyfleoedd i ryngweithio â darpar gyflogwyr trwy ffeiriau gyrfaoedd a darlithoedd gwadd. Mae siaradwyr o’r diwydiant yn cyflwyno darlithoedd rheolaidd ar eu meysydd arbenigol. Mae’r rhain yn rhoi’r cyfle i chi glywed arbenigwyr yn siarad am bynciau sy’n berthnasol i’ch gradd, ac mae'n rhoi dealltwriaeth i chi o sut beth yw gweithio yn y diwydiant.

Sut y caf fy nghefnogi?

Dyrennir tiwtor personol i chi sy'n aelod o'r staff academaidd ac sy'n gysylltiedig â'ch cwrs gradd. Bydd eich tiwtor personol yna i'ch cynghori ar faterion academaidd, materion nad ydynt yn rhai academaidd a phersonol, mewn modd cyfrinachol ac anffurfiol. Ein nod yw eich helpu chi i oresgyn unrhyw broblem, fach neu fawr, mor ddiffwdan a chyflym â phosibl.

Ar gyfer y prosiect 30-credyd ym mlwyddyn tri, dyrennir goruchwyliwr i chi yn y maes ymchwil arbenigol a byddwch yn cwrdd yn rheolaidd.

Trwy wefan Dysgu Canolog, byddwch yn gallu cael gafael ar ddeunydd amlgyfrwng perthnasol, cyflwyniadau, taflenni darlithoedd, llyfryddiaethau, dolenni pellach, ymarferiadau electronig a chylchoedd trafod. Bydd cyfleoedd i chi fyfyrio ar eich galluoedd a'ch perfformiad drwy'r modiwl 'Cynllunio Datblygiad Personol' ar Dysgu Canolog.

Cyflwynir rhaglen helaeth o weithdai a darlithoedd gyrfaoedd yn yr Ysgol ac mae Ymgynghorydd Gyrfaoedd y Gyfraith ar gael hefyd.

Mae’r Brifysgol yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau sy’n cynnwys y Gwasanaeth Gyrfaoedd, y Gwasanaeth Cwnsela, y Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia, y Gwasanaeth Cefnogi Myfyrwyr, a llyfrgelloedd a chanolfannau adnoddau ardderchog.

Adborth

Byddwn yn rhoi adborth i chi ar eich gwaith yn aml. Daw hyn mewn sawl fformat gan gynnwys adborth llafar mewn dosbarthiadau fel dylunio a gwaith prosiect a thrwy ddychwelyd gwaith cwrs wedi'i farcio.

Cewch y cyfle i brofi'ch gwybodaeth a'ch dealltwriaeth trwy gydol y semester trwy brofion dosbarth ym Mlynyddoedd 1 a 2, yn ogystal ag adborth ar asesiadau ysgrifenedig. Weithiau, gellir defnyddio asesiad cyfoedion o gyfraniad unigolyn i grŵp, ac efallai y byddwch hefyd yn cael adborth llafar ar gyflwyniadau a chyfraniadau i weithgareddau grŵp.

Sut caf fy asesu?

Your progress in each module is usually assessed at various stages throughout each semester (through a short test) to give you feedback on your progress, then finally at the end of the appropriate semester. Assessment is undertaken using methods including formal written examinations, case studies, assignments and project work.

Examinations count for 60% to 70% of all assessment throughout the course, depending on the options chosen. The remainder is mainly project work and larger pieces of coursework, plus performance in laboratories.

The opportunity to test knowledge and understanding is given through class tests throughout years one and two, plus feedback on written assessments. Occasionally, peer assessment of an individual’s contribution to a group may be used, and students may also receive oral feedback on presentations and contributions to group activities.

Pa sgiliau bydda i'n eu hymarfer a'u datblygu?

Mae'r cwrs hwn wedi'i achredu trwy'r Cyngor Peirianneg, sy'n golygu bod cymwyseddau craidd UK-SPEC (Safon y DU ar gyfer Cymhwysedd Peirianneg Broffesiynol) wedi'u hintegreiddio trwy gydol y blynyddoedd y caiff y cwrs ei addysgu.

Trwy waith labordy byddwch yn datblygu sgiliau ymarferol sy'n canolbwyntio ar gymhwyso ystod o egwyddorion peirianneg i broblemau technolegol, rheoliadol a moesegol bywyd go iawn a wynebir yn y proffesiwn peirianneg.

Byddwch hefyd yn:

  • Datblygu eich dealltwriaeth o sut i ddefnyddio pensaernïaeth, adeiladu dyluniadau cysyniadol a gwasanaethau adeiladu yng nghyd-destun peirianneg ac adeiladu
  • Datblygu eich dealltwriaeth o broblemau amgylcheddol sy'n deillio o weithgareddau a goblygiadau adeiladu - a sut i'w lliniaru neu eu cywiro
  • Gwella eich sgiliau cyfathrebu, ar lafar ac yn ysgrifenedig, trwy gyfres o adroddiadau ac aseiniadau
  • Datblygu eich gwybodaeth, sgiliau a hyder i ddatrys problemau amlddisgyblaethol mewn cyd-destun peirianneg sifil

Gyrfaoedd

Rhagolygon gyrfa

Cyflogir ein graddedigion yn bennaf yn y diwydiant peirianneg sifil gan gwmnïau ymgynghorol a chontractwyr mawr fel Syr Robert McAlpine, Ramboll, Arup a Mott McDonald. Ymhlith y rolau nodweddiadol mae peiriannydd sifil graddedig, peiriannydd safle neu beiriannydd dylunio, a byddant yn gweithio ledled y Deyrnas Unedig ac ymhellach oddi cartref hefyd.

Mae nifer o raddedigion wedi dewis astudio ymhellach, naill ai ar lefel MSc neu PhD, yng Nghaerdydd ac mewn sefydliadau ledled y DU a thu hwnt.

Mae eraill wedi dewis gweithio i gwmnïau cenedlaethol a rhyngwladol. Mae rhai enghreifftiau diweddar yn cynnwys cwmnïau yn y sectorau ariannol, cyfryngau a phetrocemegol gyda chyrchfannau gan gynnwys Deloitte, PwC, Virgin a Shell.

Gyrfaoedd graddedigion

  • Peiriannydd Sifil
  • Peiriannydd Dylunio
  • Rheolwr Prosiect

Gwaith maes

Mae cwrs maes preswyl oddi ar y safle yn cael ei gynnal am bum niwrnod yn yr ail flwyddyn, fel rhan o'r modiwl craidd Astudiaethau Maes o'r Amgylchedd Naturiol ac Adeiledig.

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch ar gyfer gwybodaeth am ein dyddiadau yn 2021

icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein brifysgol fyd-eang

icon-chat

Gofyn cwestiwn

Gofynnwch gwestiwn i ni neu siaradwch â'n tîm derbyn myfyrwyr.

icon-pen

Sut i wneud cais

Sut i wneud cais am y cwrs hwn


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2018/19 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2021.