Ewch i’r prif gynnwys

Crefydd a Diwinyddiaeth (BA)


Blwyddyn Mynediad

A line of statues

Pam astudio'r cwrs hwn

telescope

Astudiaethau eang

Archwiliwch hanes, diwylliannau a chredoau crefyddau mawr a llai adnabyddus mewn dull cymharol.

people

Deall pobl eraill

Dysgu am bobl o gyd-destunau gwahanol i chi er mwyn deall gwahanol safbwyntiau, gwerthoedd a phrofiadau o'r byd.

book

Amrywiaeth o dduliau gweithredu

Cyfoethogi eich astudiaeth o grefyddau trwy amrywiaeth o ddulliau thematig, hanesyddol, testunol, diwinyddol a gwyddonol cymdeithasol.

star

Sabwyntiau ymchwil unigryw

Dysgu gan ysgolheigion mewn crefydd, hanes, hanes hynafol ac archaeoleg, yn ogystal â’r Ganolfan Astudio Islam yn y DU a Choleg Bedyddwyr Caerdydd.

Drwy ddewis ein rhaglen Crefydd a Diwinyddiaeth (BA) cewch ymgolli yn hanes difyr a gwaddol byd-eang crefyddau. Cewch weld sut maen nhw wedi siapio gwrthdaro modern yn ogystal â darparu datrysiadau.

Bydd ein modiwlau yn ehangu'r themâu cyfoes hyn ac yn gadael i chi ddadansoddi hunaniaeth grefyddol mewn cymdeithasau modern, rôl meddwl yn ddiwinyddol, a’r foeseg sy’n dylanwadu ar safbwyntiau ar bynciau llosg, o’r amgylchedd i rywioldeb a hawliau atgenhedlu.

Drwy gydol eich gradd, cewch eich addysgu gan ymchwilwyr blaenllaw ar fodiwlau sy'n adlewyrchu syniadau diweddaraf y ddisgyblaeth. Beth mae hyn yn ei olygu i chi? Byddwch yn elwa o'r syniadau a'r wybodaeth ddiweddaraf, ac fe ddewch yn gyfarwydd â'r dadleuon a'r darganfyddiadau cyfredol ym meysydd crefydd a diwinyddiaeth.

Yn ystod eich astudiaethau, byddwch yn mireinio eich sgiliau ymchwil a chyfathrebu. Byddwch yn dod ar draws pwnc crefydd trwy amrywiaeth o ddisgyblaethau, fydd yn golygu bod gennych ddirnadaeth gyflawn o ysgolheictod yn ogystal â sylfaen ar gyfer arbenigo yn ôl eich diddordebau. Byddwch hefyd yn datblygu sgiliau sylfaenol, gan gynnwys ysgrifennu'n glir ac yn wybodus, nodi dadleuon, cyflwyno gwybodaeth yn weledol ac ar lafar, a beirniadu syniadau, sy'n werthfawr ar gyfer dilyn amrywiaeth o yrfaoedd. Boed hynny’n addysgu, polisi a llywodraeth, arweinyddiaeth cymdeithas sifil, newyddiaduraeth a chyfathrebu, neu arweinyddiaeth grefyddol. Fe welwch ein graddedigion yn gweithio yn y meysydd hyn a mwy, yn cymhwyso'r sgiliau ymarferol, dadansoddol a phroffesiynol a sicrhawyd trwy eu hastudiaethau.

Mae Caerdydd yn brifddinas ddeinamig gydag amrywiaeth yn ei hanes crefyddol a’i chyfansoddiad diwylliannol cyfredol. Gallwch feithrin cysylltiadau agos â sefydliadau crefyddol, diwylliannol a threftadaeth yn y ddinas a ledled de Cymru trwy eich dysgu, a fydd yn gymorth i chi yn y dyfodol ac yn eich helpu i wneud gwahaniaeth yn y gymuned o'ch cwmpas.

Maes pwnc: Astudiaethau crefyddol a diwinyddiaeth

Gofynion mynediad

Diweddariad Clirio: Mae'r gofynion mynediad ar gyfer Clirio yn amrywio a gallan nhw fod yn is na'r graddau a ddangosir isod. Cysylltwch â ni i drafod eich opsiynau.

Rydym yn derbyn cyfuniad o gymwysterau Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn ogystal â chymwysterau rhyngwladol cyfatebol yn amodol ar ofynion mynediad. Dyma ein cynigion nodweddiadol:

Lefel A

BBB-BBC

 

Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhynglwadol: Fel arfer, bydd ymgeiswyr sydd wedi ennill gradd A yn y Cymhwyster Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhyngwladol: Bydd ymgeiswyr sydd â gradd A mewn Cymhwyster Prosiect Estynedig (EPQ)/Cymhwyster Prosiect Rhyngwladol (IPQ) fel arfer yn derbyn cynnig un radd yn is na'r cynnig safonol. Sylwch fod yn rhaid parhau i fodloni unrhyw ofynion penodol pwnc.

Mae ein hystod gradd yn cwmpasu ein cynnig safonol a'n cynnig cyd-destunol. Rydym yn ystyried yn ofalus yr amgylchiadau rydych chi wedi bod yn astudio (eich data cyd-destunol) ar gais.

  • Bydd myfyrwyr cymwys yn cael cynnig y rhan isaf yn yr ystod gradd a hysbysebir.
  • Lle nad oes ystod gradd yn cael ei hysbysebu a/neu lle mae prosesau dethol yn eu lle (fel cyfweliad) efallai y byddwch yn derbyn pwyntiau ychwanegol yn y broses ddethol neu'n sicr o gael cyfweliad/ystyriaeth.

Dysgwch am gyrsiau cymwys a sut mae data cyd-destunol yn cael ei gymhwyso.

Y Fagloriaeth Rhyngwladol

31-30 yn gyffredinol neu 665-655 mewn 3 phwnc Lefel Uwch.

Bagloriaeth Cymru

O fis Medi 2023, bydd cymhwyster newydd o'r enw Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru (lefel 3). Bydd y cymhwyster hwn yn disodli'r Dystysgrif Her Sgiliau Uwch (Bagloriaeth Cymru). Bydd y cymhwyster yn parhau i gael ei dderbyn yn lle un Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod), ac eithrio unrhyw bynciau penodol.

Rhaid i chi fod yn meddu ar y canlynol neu’n gweithio tuag atynt:
- TGAU Iaith Saesneg neu Gymraeg gradd C/4 neu gyfwerth (fel Safon Uwch). Os oes angen fisa Myfyriwr arnoch, rhaid i chi sicrhau bod eich cymhwyster iaith yn cydymffurfio â gofynion UKVI.

Nid ydym yn derbyn Meddwl yn Feirniadol, Astudiaethau Cyffredinol, Astudiaethau Dinasyddiaeth, na phynciau eraill tebyg neu gyfatebol.
Byddwn yn derbyn cyfuniad o bynciau BTEC, Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn amodol ar ofynion gradd a phwnc penodol y cwrs.

GCSE

Gradd C neu radd 4 mewn TGAU Iaith Saesneg.

IELTS (academic)

O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgil.

TOEFL iBT

O leiaf 90 yn gyffredinol gydag o leiaf 17 ar gyfer ysgrifennu, 17 am wrando, 18 ar gyfer darllen, ac 20 ar gyfer siarad.

PTE Academic

O leiaf 69 ar y cyfan gydag o leiaf 59 yn yr holl sgiliau cyfathrebu.

Trinity ISE II/III

II: dau Ragoriaeth a dau Deilyngdod o leiaf.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.

Cymwysterau eraill a dderbynnir

Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.

Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.

Os ydych chi'n destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro ar hyn o bryd a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau'ch astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu'ch cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • mynediad at gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
  • defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
  • cyrffyw
  • rhyddid i symud, gan gynnwys y gallu i deithio i'r tu allan i'r DU neu i ymgymryd â lleoliad / astudiaethau y tu allan i Brifysgol Caerdydd
  • cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.

Cymwysterau o'r tu allan i'r DU

BTEC

DDM-DMM mewn Diploma Estynedig BTEC mewn pynciau Dyniaethau neu Wyddor Gymdeithasol. Byddwn yn ystyried cymwysterau BTEC mewn pynciau amgen ochr yn ochr â chymwysterau academaidd eraill ac unrhyw brofiad gwaith neu wirfoddoli perthnasol.

Lefel T

Bydd yr Ysgol Academaidd yn ystyried derbyn Lefelau T ar gyfer y rhaglen hon fesul achos. Rhoddir ystyriaeth i'r radd / pwnc Lefel T a'r graddau/pynciau a gyflawnir ar lefel TGAU/Lefel 2.

Cymwysterau eraill o'r tu mewn i'r DU

Gweld ein arweiniad i gymwysterau cyfatebol

Cewch ragor o wybdoaeth am y broses ymgeisio yn ein polisïau derbyn myfyrwyr.

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2025

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26.

Mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i gynyddu ffioedd dysgu yn yr ail flwyddyn a blynyddoedd dilynol y cwrs yn unol â'r gyfraith neu bolisi Llywodraeth Cymru. Lle bo'n berthnasol, byddwn yn eich hysbysu o unrhyw newidiadau yn y ffioedd dysgu erbyn diwedd mis Mehefin yn y flwyddyn academaidd cyn i'r ffioedd gynyddu.

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd israddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26.

Costau ychwanegol

Llety

Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Strwythur y cwrs

Rydym yn gweithio gyda'n myfyrwyr ar hyn o bryd yn diweddaru ac yn gwella cynnwys y cwrs hwn. Mae'r wybodaeth isod yn adlewyrchu'r cwricwlwm presennol a fydd yn newid yn ôl pob tebyg. Disgwylir i ni fod wedi gorffen adolygu'r cwrs erbyn mis Awst 2025. Bydd y dudalen hon wedi'i diweddaru erbyn mis Hydref 2025 i ddangos y newidiadau.

Mae hon yn rhaglen 3 blynedd, amser llawn. Byddwch yn astudio 80 credyd mewn modiwlau craidd a 40 credyd mewn modiwlau dewisol bob blwyddyn.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2025/2026. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2025

Blwyddyn un

Mae blwyddyn 1 yn cynnig sylfaen gadarn ar gyfer astudio, ac mae wedi'i llunio i roi'r sgiliau i chi ymgymryd ag astudiaethau uwch ac i roi trosolwg o'ch pynciau i chi.

Trwy eich modiwlau craidd, byddwch yn astudio ystod eang o grefyddau'r byd. Byddwch yn edrych ar eu hanes, eu hysgrythurau, eu hagwedd gyfoes, eu diwinyddiaeth a'u strwythur cred, a rhai themâu a materion o bwys yn ymwneud ag astudio crefydd heddiw. Cefnogir y modiwlau hyn gan seminarau sgiliau astudio pwrpasol.

Mae modiwlau dewisol yn caniatáu i chi ddilyn pwnc crefydd fel rhan o olwg hanesyddol ehangach neu bersbectif cyfoes sy'n canolbwyntio ar y cyfryngau, ac sy'n cydnabod eu hesblygiad ac yn dehongli eu hystyr.

Blwyddyn dau

Mae blwyddyn 2 yn eich cyflwyno i ddamcaniaethau modern am grefydd ac astudio myth a naratif. Yn ogystal, byddwch yn gweithio gydag arbenigwyr o Ganolfan Islam-UK i edrych ar Islam mewn persbectif cymdeithasegol a diwinyddol fel un o brif draddodiadau'r byd. Cewch eich cefnogi'n unigol trwy brosiect creadigol o'ch dewis i archwilio agwedd ar grefydd a diwinyddiaeth yn fanylach.

Mae modiwlau dewisol yn caniatáu i chi arbenigo mewn diwylliant materol a moeseg fel y'u mynegir mewn amrywiol draddodiadau crefyddol. Gallwch hefyd gymryd modiwl Ysgol-gyfan ar gymhwyso'r hyn a ddysgwch yn eich pwnc i amrywiaeth o amgylcheddau proffesiynol, gan gynnwys lleoliad gwaith â chymorth gyda phartner gwaith neu sefydliad cymunedol.

Blwyddyn tri

Yn eich blwyddyn olaf cewch eich herio i feddwl yn ddyfnach trwy fodiwl Astudio Uwch dan Arweiniad lle byddwch yn cyflawni prosiect o'ch dewis. Mae hyn yn cynnwys gweithio dan arweiniad i gynllunio a llunio prosiect ymchwil israddedig, cyflwyno'r prosiect mewn grŵp astudio, a datblygu ac ysgrifennu traethawd hir dan oruchwyliaeth unigol.

Mae ein modiwlau craidd yn eich cyflwyno i astudio crefyddau Asiaidd ac ymagweddau diwinyddol Cristnogol cyfoes. Yna byddwch yn dilyn un o ddau lwybr trwy flociau o fodiwlau dewisol. Mae llwybr hanes crefydd yn gadael i chi astudio testunau a thraddodiadau o’r gorffennol, tra bo llwybr ar grefydd gyfoes yn gadael i chi ymgysylltu â chymwysiadau moesegol cred i faterion byd-eang ac asesiadau mwy dadansoddol o le crefydd yn y gymdeithas gyfoes.

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle'n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Mae ymchwil wrth wraidd profiad myfyrwyr Prifysgol Caerdydd gyda’r canfyddiadau diweddaraf yn llywio pob rhaglen. Caiff llawer o'ch dosbarthiadau eu haddysgu gan arbenigwyr a gydnabyddir yn rhyngwladol sy'n cyfrannu at wybodaeth wreiddiol yn eu maes.

Rydym ni’n cynnig amgylchedd dysgu cefnogol, lle byddwch yn datblygu ystod o sgiliau a chyfoeth o wybodaeth arbenigol. Byddwch chi’n dysgu trwy sawl dull megis darlithoedd rhyngweithiol, seminarau lle ceir trafodaethau bywiog, gweithdai, gwaith grŵp a thiwtorialau. Ategir y gweithgareddau campws hyn gydag adnoddau sydd ar gael trwy Dysgu Canolog, amgylchedd ar-lein sydd wedi'i gynllunio i gyfoethogi eich profiad dysgu a'ch galluogi i ymestyn eich astudiaethau y tu hwnt i'r ystafell ddosbarth. Mae’r seminarau a’r gweithdai’n cynnig cyfle gwerthfawr i drin a thrafod prif syniadau a deunydd darllen amryw bynciau. Maent yn gyfle gwerthfawr i archwilio syniadau, gweithio'n agos gyda'ch tiwtoriaid, a dysgu oddi wrth fyfyrwyr eraill. Yn eich ail flwyddyn a'r flwyddyn olaf, cewch gyfle i ymgymryd ag ystod o brosiectau annibynnol gyda chefnogaeth arbenigwr yn y maes a hyfforddiant un-i-un.

Mae ein dulliau addysgu’n meithrin sgiliau deallusol megis meddwl yn feirniadol, dadansoddi’n fanwl, cloriannu tystiolaeth, llunio dadleuon, rhoi damcaniaethau ar waith a defnyddio iaith yn effeithiol mewn traethodau a thrafodaethau. Rydym hefyd yn eich helpu i sicrhau profiad mewn meysydd fel gweithio mewn tîm, ymchwil annibynnol a rheoli amser.

Sut y caf fy nghefnogi?

Byddwch yn cael cymorth gan nifer o staff gwahanol, gyda rhai yn canolbwyntio ar berfformiad academaidd mewn maes penodol ac eraill yn rhoi sylw i ddysgu a chynnydd mewn ffordd fwy cyfannol.

Dyrennir tiwtor personol i chi fydd yn eich tywys trwy gydol cyfnod eich astudiaethau. Byddwch yn cwrdd â'ch tiwtor personol yn rheolaidd i fyfyrio ar eich cynnydd a'ch datblygiad ar draws eich astudiaethau.

Rhoddir cefnogaeth ychwanegol sy'n benodol i fodiwlau gan diwtoriaid seminarau, darlithwyr a/neu gynullwyr modiwlau; bydd cynghorydd academaidd yn cwrdd â chi’n rheolaidd ac yn rhoi cefnogaeth ar gyfer prosiectau ymchwil annibynnol. Mae gan eich arweinwyr modiwl sesiynau wythnosol yn ystod oriau swyddfa yn yr wythnosau addysgu y gallwch eu mynychu os oes gennych unrhyw gwestiynau am ddeunyddiau cwrs neu asesiadau.

Mae ein Timau Cefnogi Addysg israddedig yn cynnig gwasanaethau academaidd a chymorth myfyrwyr, ac maent yno i gynnig gwybodaeth ac arweiniad mewn ymateb i unrhyw ymholiadau sydd gennych.

Mae gennym wefan Dysgu Canolog lle gallwch gyrchu fideos, lluniau, taflenni darlithoedd, llyfryddiaethau, dolenni at ddeunydd darllen pellach, ymarferiadau electronig a chylchoedd trafod. Lle bo'n bosibl, caiff darlithoedd wyneb yn wyneb eu recordio er mwyn i chi allu gwylio ac astudio yn eich amser eich hun. Mae llyfrgelloedd rhagorol, cyfoeth o archifau a chasgliadau arbennig, a chanolfannau adnoddau hefyd ar gael i chi.

Mae'r Brifysgol yn cynnig amrywiol wasanaethau cymorth trwy ein timau Bywyd Myfyrwyr. Mae'r gwasanaethau hyn wedi'u lleoli yn adeilad pwrpasol y Ganolfan Bywyd Myfyrwyr. Mae'r gwasanaethau hyn yn cynnwys Dyfodol Myfyrwyr (gwasanaeth gyrfaoedd y Brifysgol), gwasanaethau cwnsela, gwasanaethau anabledd a dyslecsia, yn ogystal â chyngor ar iechyd a lles neu faterion ariannol.

Ein nod yw creu amgylchedd cynhwysol, cefnogol a chroesawgar sy’n parchu urddas staff a myfyrwyr o bob oed, ethnigrwydd, anabledd, strwythur teuluol, rhywedd, cenedl, cyfeiriadedd rhywiol, hil, crefydd neu gred arall, a chefndir economaidd-gymdeithasol. 

Sut caf fy asesu?

Byddwn yn asesu eich lefel o wybodaeth a dealltwriaeth ym mhob modiwl trwy gyfuniad o aseiniadau, gan gynnwys prosiectau creadigol, adolygiadau, cyflwyniadau a beirniadu ffynhonnell ochr yn ochr â ffurfiau mwy traddodiadol o asesu megis traethodau. Mae rhai o'r asesiadau’n caniatáu i chi weithio ar y cyd ar brosiect, tra bo eraill yn cynnwys ysgrifennu a chreu ar gyfer gwahanol gynulleidfaoedd; er enghraifft, efallai y gofynnir i chi gynllunio arddangosfa amgueddfa neu ysgrifennu erthygl newyddion; ac efallai y cewch gyfle i greu podlediadau a thestunau digidol ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol.  Mae'r asesiadau hyn yn caniatáu i chi ddod yn arbenigwr a chymhwyso'ch gwybodaeth mewn amrywiaeth eang o broffesiynau.

Diben yr holl asesiadau yw eich helpu i ddatblygu eich syniadau, eich sgiliau a'ch galluoedd. Rydym yn cynnig cyfleoedd ffurfiannol i brofi eich meddwl a'ch dysgu ac adborth drwy gydol eich taith ddysgu i'ch paratoi ar gyfer yr asesiadau crynodol sy'n ffurfio eich marc graddio. Mae'r asesiadau'n helpu i roi’r sgiliau i chi gysylltu eich gwybodaeth â materion lleol, cenedlaethol a byd-eang, ac yn eich annog i fod yn arloesol a chreadigol; dod o hyd i ffyrdd newydd o fynd i'r afael â phroblemau neu ofyn cwestiynau; cydweithio i ddatrys problemau a chyflwyno canfyddiadau; a chyflwyno dadleuon ar sail tystiolaeth. Mae'r sgiliau damcaniaethol a chymhwysol a gaiff eu datblygu a'u hasesu drwy gydol eich gradd yn eich paratoi ar gyfer amryw o yrfaoedd graddedigion.

Pa sgiliau bydda i'n eu hymarfer a'u datblygu?

Mae Deilliannau Dysgu’r rhaglen yn disgrifio'r hyn y byddwch wedi’i gyflawni erbyn diwedd eich rhaglen ym Mhrifysgol Caerdydd, ac yn nodi'r wybodaeth a'r sgiliau y byddwch yn eu datblygu. Byddant hefyd yn eich helpu i ddeall yr hyn a ddisgwylir gennych

Erbyn diwedd y rhaglen, byddwch yn gallu:

Gwybodaeth a Dealltwriaeth:

GD 1: Deall testunau, digwyddiadau, themâu a materion allweddol yn systematig wrth astudio crefydd a diwinyddiaeth.

GD 2: Adnabod a gosod datblygiadau cyfoes o ran crefydd yn eu cyd-destun ac mewn astudiaethau crefydd a diwinyddiaeth.

GD 3: Dangos gwybodaeth a dealltwriaeth systematig o gymhlethdod syniadau, cysyniadau, a therminoleg sylfaenol sy'n berthnasol i grefyddau ac i astudio crefydd a diwinyddiaeth.

GD 4: Cymhwyso'n feirniadol amrywiol ddulliau o astudio crefydd a diwinyddiaeth megis hanesyddol, diwinyddol, ieithegol, athronyddol, anthropolegol, cymdeithasegol, ieithyddol, a diwylliannol-faterol.

Sgiliau Deallusol:

SD 1: Datblygu a chymhwyso dadleuon am natur crefydd fel categori o ymddygiad dynol.

SD 2: Trefnu ac amddiffyn dadleuon am brosesau newid a'u ffactorau achosol mewn perthynas â diwinyddiaeth a chrefydd yn y gymdeithas ddynol.

SD 3: Cynhyrchu a chyfiawnhau dadleuon am effaith foesegol deialogau crefyddol mewn cymdeithas hanesyddol a chyfoes.

SD 4: Dadansoddi dealltwriaeth gyffredin o le crefyddau a'u dysgeidiaeth mewn cymdeithasau.

Sgiliau Ymarferol Proffesiynol:

SY 1: Dangos sgiliau proffesiynol a phersonol sydd eu hangen i weithredu yn y gweithle yn hyderus ac yn broffesiynol.

SY 2: Cymhwyso sgiliau meddwl yn feirniadol, rhesymu, a'r gallu i amgyffred a chrynhoi gwybodaeth a syniadau cymhleth trwy ddadansoddi tystiolaeth a’i gwerthuso.

SY 3: Asesu a datrys problemau'n annibynnol, gan ystyried barn pobl eraill mewn ffordd systematig a gwerthusol.

Sgiliau Trosglwyddadwy/Allweddol:

SA 1: Dangos gallu i ddatrys problemau a gwreiddioldeb wrth feddwl drwy ddefnyddio gwybodaeth a sgiliau i fynd i'r afael â phroblemau cyfarwydd ac anghyfarwydd.

SA 2: Rheoli amser a threfniadau personol wrth gwblhau tasgau.

SA 3: Meddu ar y gallu i gyfathrebu gwybodaeth gymhleth mewn amrywiol fformatau megis adroddiadau a chyflwyniadau llafar ac ysgrifenedig, vlogs, traethodau, a thraethodau hir.

SA 4: Gweithio ar eich pen eich hun ar brosiectau sydd â sail ddamcaniaethol ac empirig sy'n defnyddio tystiolaeth ymchwil briodol a pherthnasol

SA 5: Cynhyrchu prosiectau gwreiddiol, creadigol ac entrepreneuraidd, gan ddefnyddio menter, cydbwyso risgiau a chanfod cyfleoedd.

SA 6: Adnabod, myfyrio’n weithredol, a mynegi gan gyfeirio at eich astudiaethau a’ch hunaniaeth eich hun, eich sgiliau, eich gwybodaeth a’ch dealltwriaeth eich hun yn hyderus ac mewn amrywiaeth o gyd-destunau.

Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith

Rhagolygon gyrfa

Rydym yn annog ein myfyrwyr i feddwl am fywyd y tu hwnt i’r brifysgol o’r diwrnod cyntaf un, gan gynnig modiwlau a chefnogaeth i roi mantais gystadleuol i chi pan fyddwch chi’n graddio, waeth pa lwybr byddwch chi’n ei ddilyn.

Mae ein gradd yn cynnig sgiliau pwysig y mae cyflogwyr yn eu gwerthfawrogi, o gydweithio a chyfathrebu ag ystod eang o gynulleidfaoedd i feddwl yn feirniadol a dod o hyd i ffyrdd newydd o fynd i'r afael â phroblemau. Cynhelir hyfforddiant ac achlysuron gyrfaoedd o fewn a'r tu hwnt i'r cwricwlwm, gan anelu at feithrin sgiliau yn ystod y cwrs a’u mynegi’n llwyddiannus yn y dyfodol. Rydym yn gweithio’n agos gyda Dyfodol Myfyrwyr sydd nid yn unig yn darparu hyfforddiant a gweithdai ar ein modiwlau craidd, ond hefyd yn cynnig cyfoeth o gyfleoedd. Y tu hwnt i'ch astudiaethau ffurfiol rydym yn cynnal rhaglenni sy'n rhoi cyfleoedd i chi ymgysylltu ag ysgolion a chymunedau lleol neu weithio gyda sefydliadau treftadaeth lleol i ddatblygu eich sgiliau a'ch proffil eich hun a chaniatáu i chi wneud gwahaniaeth.

Mae Gwobr Caerdydd yn rhoi fframwaith i chi ddatblygu eich cyflogadwyedd, a gallwch fanteisio ar ystod eang o raglenni'r brifysgol o Ieithoedd i Bawb er mwyn dechrau dysgu neu wella eich sgiliau iaith, i gymorth gan y tîm Menter a Dechrau Busnes i ddod â’ch syniadau’n fyw.

Gyda chyfraddau cyflogadwyedd uchel yn gyson, fe welwch ein graddedigion yn gweithio mewn amrywiaeth o rolau a sefydliadau ar draws y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector. Mae hyn wedi cynnwys Llywodraeth Cymru, elusennau byd-eang, gwneuthurwyr ffilm annibynnol, gweithwyr crefyddol proffesiynol, athrawon ysgol ac academyddion.

Lleoliadau

Rydym yn sicrhau y gellir ymgorffori lleoliadau gwaith yn eich dysgu trwy fodiwl ail flwyddyn, gan gydnabod eu pwysigrwydd i’ch helpu i ddatblygu eich gwybodaeth broffesiynol a throsi'r sgiliau y byddwch yn eu sicrhau trwy eich gradd i'r gweithle.

Mae gan staff gysylltiadau ag amrywiol sefydliadau hefyd, sy'n cynnig cyfleoedd am leoliadau yn ystod a'r tu allan i gyfnod semester.

Trwy ein cysylltiadau â Dyfodol Myfyrwyr, gallwch hefyd ddod o hyd i leoliadau ac interniaethau ar y campws, o leoliadau rhan-amser sy'n cyd-fynd â'ch astudiaethau i waith cyflogedig dros yr haf, tra bo'r tîm Hyder o ran Gyrfa yn darparu cymorth ychwanegol i'ch helpu i gael profiad gwaith.

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch i gael ein newyddion diweddaraf

icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein brifysgol fyd-eang

icon-contact

Cysylltwch

Cysylltwch â ni am gymorth ac unrhyw gwestiwn sydd gennych

icon-pen

Sut i wneud cais

Sut i wneud cais am y cwrs hwn

Nid oes data Darganfod Prifysgol ar gael ar gyfer y cwrs hwn eto.


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.