Iaith Saesneg a Ieithyddiaeth (BA)
- Maes pwnc: Saesneg iaith a llenyddiaeth
- Côd UCAS: 2HS6
- Derbyniad nesaf: Medi 2025
- Hyd: 3 blwyddyn
- Modd (astudio): Amser llawn
Pam astudio'r cwrs hwn
Eich byd ieithyddol
Ffocws ar y berthynas rhwng iaith ac ieithyddiaeth, a'i chymhwysiad i'r byd cymdeithasol.
Estyn allan
Amrywiaeth eang o fodiwlau sy'n eich galluogi i archwilio eich diddordebau a darganfod rhai newydd.
Antur ac archwilio
Cyfleoedd i astudio dramor yn Ewrop a thu hwnt, gan feithrin annibyniaeth a gwytnwch.
Canolbwyntio ar y dyfodol
Datblygwch sgiliau cyflogadwyedd y mae galw amdanynt, gan wella eich rhagolygon gyrfa mewn ystod eang o feysydd.
Sut mae eich defnydd o iaith yn mynegi pwy ydych chi a phwy rydych chi eisiau bod? Pam mae babanod yn dysgu iaith yn hawdd tra bod oedolion yn cael trafferth? Sut a pham mae iaith yn newid? Sut mae iaith yn y cyfryngau yn cael ei defnyddio i'n trin ni? Ydy lluniau weithiau'n well na geiriau? Allwn ni siarad ag anifeiliaid?
Trwy ein gradd Iaith Saesneg ac Ieithyddiaeth (BA), byddwch yn cael y cyfle i archwilio cwestiynau fel y rhain a byddwch yn ennill dealltwriaeth ddofn o sut mae cyfathrebu ieithyddol yn gweithio yn seiliedig ar ddefnydd o Saesneg ac enghreifftiau cymharol o ystod eang o ieithoedd eraill.
Byddwch yn astudio damcaniaethau craidd ac arferion blaengar mewn ieithyddiaeth. Byddwch hefyd yn ennill y sgiliau i gymhwyso'r damcaniaethau ac arferion hynny i faterion byd go iawn.
Gyda’n gilydd, byddwn yn edrych ar sut mae iaith yn cael ei strwythuro a’i defnyddio yn y byd cymdeithasol. Mae dwy agwedd allweddol i wneud hyn: Yn gyntaf, gwybodaeth am y berthynas rhwng strwythurau ieithyddol, hunaniaeth unigol, a threfniadaeth gymdeithasol. Yn ail, caffael sgiliau ar gyfer dadansoddi iaith, nid yn unig fel y gellir ei defnyddio ond fel y mae’n cael ei defnyddio yn ei chyd-destun.
Ym mlwyddyn gyntaf y rhaglen, byddwch yn dysgu sut mae iaith yn gweithio a sut i ddefnyddio iaith i gyfathrebu. Yn ystod yr ail flwyddyn, byddwch yn canolbwyntio ar sut mae iaith yn cael ei defnyddio ac wedi cael ei defnyddio yn ymarferol. Bydd y pynciau hyn yn eich arfogi i ddarganfod sut i lywio’r defnydd o iaith ac ieithyddiaeth yn y byd modern heddiw a’r berthynas rhwng iaith a chymdeithas, gyda ffocws yn eich blwyddyn olaf ar sut i gyfathrebu pynciau arbenigol i wahanol gynulleidfaoedd.
Gan ennill sgiliau gwella gyrfa, byddwch yn cael y cyfle i gynhyrchu gwahanol fathau o destunau a gweithio gyda meddalwedd arbenigol. Byddwch yn ennill sgiliau o ddadansoddi enghreifftiau o iaith yn y byd go iawn ac yn dysgu sut i lunio dadleuon a chyfleu syniadau i wahanol gynulleidfaoedd.
Mae gradd mewn iaith Saesneg ac ieithyddiaeth yn datblygu galluoedd i ddadansoddi a beirniadu'r iaith o'n cwmpas ac yn helpu i ddatblygu set sgiliau gref sy'n cael ei gwerthfawrogi yn y gweithle.
Mae ein cymuned yn groesawgar, yn gefnogol, ac yn canolbwyntio ar y myfyriwr. Rydym yn amrywiol ein hagwedd ac yn gartref i’r Ganolfan Ymchwil Iaith a Chyfathrebu, sy’n uchel ei pharch yn fyd-eang.
Maes pwnc: Saesneg iaith a llenyddiaeth
Gofynion mynediad
Rydym yn derbyn cyfuniad o gymwysterau Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn ogystal â chymwysterau rhyngwladol cyfatebol yn amodol ar ofynion mynediad. Dyma ein cynigion nodweddiadol:
Lefel A
ABB-BBC
Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhynglwadol: Fel arfer, bydd ymgeiswyr sydd wedi ennill gradd A yn y Cymhwyster Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhyngwladol: Bydd ymgeiswyr sydd â gradd A mewn Cymhwyster Prosiect Estynedig (EPQ)/Cymhwyster Prosiect Rhyngwladol (IPQ) fel arfer yn derbyn cynnig un radd yn is na'r cynnig safonol. Sylwch fod yn rhaid parhau i fodloni unrhyw ofynion penodol pwnc.
Mae ein hystod gradd yn cwmpasu ein cynnig safonol a'n cynnig cyd-destunol. Rydym yn ystyried yn ofalus yr amgylchiadau rydych chi wedi bod yn astudio (eich data cyd-destunol) ar gais.
- Bydd myfyrwyr cymwys yn cael cynnig y rhan isaf yn yr ystod gradd a hysbysebir.
- Lle nad oes ystod gradd yn cael ei hysbysebu a/neu lle mae prosesau dethol yn eu lle (fel cyfweliad) efallai y byddwch yn derbyn pwyntiau ychwanegol yn y broses ddethol neu'n sicr o gael cyfweliad/ystyriaeth.
Dysgwch am gyrsiau cymwys a sut mae data cyd-destunol yn cael ei gymhwyso.
Y Fagloriaeth Rhyngwladol
32-30 yn gyffredinol neu 665-655 mewn 3 phwnc HL.
Bagloriaeth Cymru
O fis Medi 2023, bydd cymhwyster newydd o'r enw Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru (lefel 3). Bydd y cymhwyster hwn yn disodli'r Dystysgrif Her Sgiliau Uwch (Bagloriaeth Cymru). Bydd y cymhwyster yn parhau i gael ei dderbyn yn lle un Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod), ac eithrio unrhyw bynciau penodol.
Gofynion eraill
Mae'n rhaid eich bod chi wedi bod yn gweithio tuag at:
- Iaith Saesneg neu Gymraeg ar radd TGAU gradd C/4 neu gyfwerth (fel Safon Uwch). Os oes angen fisa Visa Myfyrwyr arnoch, rhaid i chi sicrhau bod eich cymhwyster iaith yn cydymffurfio â gofynion UKVI.
Nid ydym yn derbyn Meddwl yn Feirniadol, Astudiaethau Cyffredinol, Astudiaethau Dinasyddiaeth na phynciau cyfatebol tebyg eraill.
Byddwn yn derbyn cyfuniad o bynciau BTEC, Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn amodol ar ofynion gradd a phwnc penodol y cwrs.
Gofynion Iaith Saesneg
GCSE
Gradd C neu radd 4 mewn TGAU Iaith Saesneg.
IELTS (academic)
O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgil.
TOEFL iBT
O leiaf 90 yn gyffredinol gydag o leiaf 17 ar gyfer ysgrifennu, 17 am wrando, 18 ar gyfer darllen, ac 20 ar gyfer siarad.
PTE Academic
O leiaf 69 ar y cyfan gydag o leiaf 59 yn yr holl sgiliau cyfathrebu.
Trinity ISE II/III
II: dau Ragoriaeth a dau Deilyngdod o leiaf.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.
Cymwysterau eraill a dderbynnir
Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.
Euogfarnau troseddol
Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.
Os ydych chi'n destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro ar hyn o bryd a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau'ch astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu'ch cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:
- mynediad at gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
- defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
- cyrffyw
- rhyddid i symud
- cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.
Cymwysterau o'r tu allan i'r DU
BTEC
DDM-DMM mewn Diploma Estynedig BTEC mewn pynciau Dyniaethau a Gwyddor Gymdeithasol.
Lefel T
Bydd yr Ysgol Academaidd yn ystyried derbyn Lefelau T ar gyfer y rhaglen hon fesul achos. Rhoddir ystyriaeth i'r radd / pwnc Lefel T a'r graddau/pynciau a gyflawnir ar lefel TGAU/Lefel 2.
Cewch ragor o wybdoaeth am y broses ymgeisio yn ein polisïau derbyn myfyrwyr.
Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2025
Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.
Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd
Ffioedd am statws cartref
Mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i gynyddu ffioedd dysgu yn yr ail flwyddyn a blynyddoedd dilynol y cwrs yn unol â'r gyfraith neu bolisi Llywodraeth Cymru. Lle bo'n berthnasol, byddwn yn eich hysbysu o unrhyw newidiadau yn y ffioedd dysgu erbyn diwedd mis Mehefin yn y flwyddyn academaidd cyn i'r ffioedd gynyddu.
Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir
Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2022/23 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.
Ffioedd am statws ynys
Dysgwch ragor am ffioedd israddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.
Ffioedd am statws tramor
Costau ychwanegol
Llety
Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.
Costau byw
Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.
Strwythur y cwrs
Mae hon yn radd amser llawn tair blynedd, gyda 120 credyd astudio ym mhob blwyddyn.
Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2025/2026. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2025
Blwyddyn un
Ym mlwyddyn 1, byddwch yn cymryd 120 credyd o fodiwlau craidd.
Bydd y modiwlau craidd yn ymdrin â holl offer hanfodol dadansoddi ieithyddol, yn eich cyflwyno i'r sgiliau allweddol sydd eu hangen ar gyfer eich astudiaethau, ac yn eich arfogi â'r sgiliau ysgrifennu academaidd angenrheidiol y byddwch yn eu defnyddio trwy gydol eich gradd a thu hwnt.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Iaith a'r Meddwl | SE1111 | 20 Credydau |
Sut mae iaith yn gweithio 1 | SE1113 | 20 Credydau |
Sut mae iaith yn gweithio 2 | SE1114 | 20 Credydau |
Datblygu Saesneg: Hanes a Chymdeithas | SE1115 | 20 Credydau |
Deall Cyfathrebu | SE1116 | 20 Credydau |
Ysgrifennu yn y Brifysgol a thu hwnt | SE6266 | 20 Credydau |
Blwyddyn dau
Ym mlwyddyn 2, byddwch yn cymryd tri modiwl craidd a thri modiwl dewisol.
Mae’r modiwlau craidd yn adeiladu ar bynciau a gyflwynwyd eisoes yn ystod y flwyddyn gyntaf ac yn datblygu ymhellach y sgiliau y bydd eu hangen arnoch (fel cyfathrebu clir a meddwl yn feirniadol) wrth i chi fireinio ac archwilio eich diddordebau ymchwil penodol.
Byddwch yn dewis eich modiwlau dewisol o blith detholiad sy'n ymdrin ag amrywiaeth o bynciau, gan eich galluogi i archwilio eich diddordebau arbennig.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Seiniau Lleferydd | SE1336 | 20 Credydau |
Drafodaeth | SE1362 | 20 Credydau |
Strwythur, Ystyr a Swyddogaeth | SE1424 | 20 Credydau |
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Sosioieithyddiaeth | SE1369 | 20 Credydau |
Geiriau ac ystyr | SE1370 | 20 Credydau |
Hanes Saesneg | SE1398 | 20 Credydau |
Iaith a Rhyw | SE1403 | 20 Credydau |
Llythrennedd Digidol ac Iaith | SE1405 | 20 Credydau |
Arddull a Genre | SE1416 | 20 Credydau |
Caffael Iaith Gyntaf ac Ail Iaith | SE1422 | 20 Credydau |
Blwyddyn tri
Ym mlwyddyn 3, byddwch yn cymryd un modiwl craidd, a fydd yn eich arfogi â sgiliau cyflogadwyedd perthnasol a'r cyfle i ddadansoddi data mewn cyd-destun byd go iawn.
Byddwch yn dewis o amrywiaeth eang o fodiwlau dewisol i gwmpasu'r credydau sy'n weddill. Mae hyn yn cynnwys y cyfle i wneud traethawd hir yn seiliedig ar eich diddordebau eich hun.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Gweithio gyda Data Ieithyddol | SE1425 | 20 Credydau |
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Ieithyddiaeth Fforensig | SE1324 | 20 Credydau |
Traethawd Hir mewn Iaith a Chyfathrebu 1 | SE1383 | 20 Credydau |
Traethawd Hir mewn Iaith a Chyfathrebu 2 | SE1384 | 20 Credydau |
Patrymau Iaith | SE1396 | 20 Credydau |
Trafodaeth Cyfryngau | SE1408 | 20 Credydau |
Y Cofiant Graffig | SE1409 | 20 Credydau |
Dulliau Arbrofol o Seicoieithyddiaeth | SE1418 | 20 Credydau |
Iaith a diwylliant poblogaidd | SE1419 | 20 Credydau |
Ymadroddion mewn Theori a Chymhwyso | SE1421 | 20 Credydau |
Saesneg y Byd | SE1423 | 20 Credydau |
Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle'n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.
Dysgu ac asesu
Drwy gydol y radd, ein nod yw eich cefnogi i ddod yn feddyliwr annibynnol, creadigol a beirniadol.
Mae addysgu'r flwyddyn gyntaf yn darparu cymorth wedi'i strwythuro'n ofalus trwy ddarlithoedd a thrafodaethau seminar i'ch helpu i ddatblygu sgiliau allweddol a magu hyder. Bydd y gweithgareddau dysgu yn amrywio o fodiwl i fodiwl, ond gallant gynnwys darlithoedd, trafodaethau seminar, cyflwyniadau myfyrwyr, a gwaith mewn grwpiau bach. Byddwch hefyd yn cael mynediad at ddeunyddiau dysgu ac addysgu perthnasol trwy ein hamgylchedd dysgu electronig.
Trwy’r ail flwyddyn a’r flwyddyn olaf o astudio, byddwch yn dysgu fwyfwy trwy ddarllen annibynnol dan arweiniad a darlithoedd a seminarau rhyngweithiol, gan drafod ymchwil newydd gydag academyddion a gydnabyddir yn rhyngwladol sy’n gweithio yn y maes hwnnw ar hyn o bryd.
Yn yr amgylchedd cefnogol hwn, byddwch yn datblygu eich gallu i ddadansoddi testunau, llunio dadleuon, gweithio ar y cyd trwy broblemau, a chyflwyno'ch syniadau'n glir i eraill.
Disgwylir i chi wneud y gwaith darllen a gwaith paratoi perthnasol arall i'ch galluogi i gymryd rhan lawn yn y gweithgareddau hyn ac fe'ch anogir i archwilio adnoddau'r llyfrgell.
Sut y caf fy nghefnogi?
Eich prif ffynonellau cymorth yw eich arweinwyr modiwl, eich tiwtor personol, a Chanolfan Datblygu Ysgrifennu'r ysgol. Mae gan eich arweinwyr modiwl sesiynau galw heibio yn ystod wythnosau addysgu y gallwch eu mynychu os oes gennych unrhyw gwestiynau am ddeunyddiau cwrs neu asesiadau. Gall tiwtoriaid personol eich cynghori ar faterion academaidd, gan gynnwys sgiliau astudio, gyrfaoedd, a'ch cynnydd academaidd, yn ogystal ag ar faterion bugeiliol. Maent hefyd yn gweithredu fel pwynt cyswllt cyntaf os byddwch yn cael unrhyw anawsterau. Fe'ch gwahoddir i gwrdd â'ch tiwtor personol yn rheolaidd trwy gydol y radd, ac maent ar gael ar gyfer cyfarfodydd ychwanegol yn ôl yr angen.
Mae Canolfan Datblygu Ysgrifennu'r ysgol yn darparu cymorth arbenigol ar gyfer ysgrifennu academaidd ar draws y rhaglen. Gallwch gael mynediad at ddeunyddiau ar-lein, gweithdai, a chyfarfodydd un-i-un am unrhyw agwedd ar ysgrifennu academaidd i'ch cefnogi gyda'ch asesiadau.
Mae ein Tîm Israddedig yn darparu cefnogaeth academaidd a myfyrwyr ac mae yno i'ch helpu gyda gwybodaeth ac arweiniad os oes gennych unrhyw ymholiadau. Y tu hwnt i'r ysgol, mae'r brifysgol yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau cymorth a digwyddiadau i'ch helpu i gynllunio'ch gyrfa, rheoli eich iechyd emosiynol, meddyliol a chorfforol, eich cefnogi gyda materion ariannol, a darparu cymorth i fyfyrwyr ag anableddau. Mae'r gwasanaethau hyn wedi'u cydleoli yng Nghanolfan Bywyd Myfyrwyr y brifysgol. Bydd llyfrgelloedd, mannau astudio a chanolfannau adnoddau eraill i gyd ar gael i chi.
Sut caf fy asesu?
Mae eich asesiadau wedi'u cynllunio i ddatblygu'n gronnol sgiliau allweddol mewn cyfathrebu, cydweithio, meddwl yn feirniadol, a myfyrio.
Defnyddir ystod o ddulliau asesu ffurfiannol a chrynodol, gan gynnwys traethodau, arholiadau, cyflwyniadau, portffolios, a thasgau seminar.
Adborth:
Byddwch yn cael adborth rheolaidd ar eich cynnydd. Bydd adborth llafar mewn darlithoedd a seminarau yn eich helpu i asesu eich dealltwriaeth o ddeunydd y modiwl a'ch ymatebion beirniadol iddo. Byddwch yn derbyn sylwadau ffurfiannol ar syniadau aseiniad, ac adborth manwl ar yr holl waith cwrs sydd wedi'i farcio. Byddwch hefyd yn gallu trafod eich perfformiad cyffredinol yn rheolaidd gyda'ch tiwtor personol.
Pa sgiliau bydda i'n eu hymarfer a'u datblygu?
Mae deilliannau dysgu’r rhaglen hon yn disgrifio'r hyn y byddwch wedi’i gyflawni erbyn diwedd eich rhaglen ym Mhrifysgol Caerdydd, ac yn nodi'r wybodaeth a'r sgiliau y byddwch yn eu datblygu. Byddant hefyd yn eich helpu i ddeall yr hyn a ddisgwylir gennych.
O gwblhau eich rhaglen yn llwyddiannus, byddwch yn gallu gwneud y canlynol:
Gwybodaeth a Dealltwriaeth:
- Dangos gwybodaeth a dealltwriaeth systematig o feysydd craidd iaith Saesneg ac ieithyddiaeth, gan gynnwys seineg, gramadeg, semanteg, pragmateg, a disgwrs.
- Dangos gwybodaeth a dealltwriaeth systematig o sut mae iaith yn gweithio yn y byd cymdeithasol.
- Dangos gwybodaeth a dealltwriaeth systematig o'r cydadwaith rhwng dadansoddiad o ddata ieithyddol a ffynonellau beirniadol a damcaniaethol.
Sgiliau Deallusol:
- Cymhwyso terminoleg ddisgrifiadol sy'n berthnasol i’r iaith Saesneg a ffenomenau ieithyddol.
- Dadansoddi gwahanol fathau o ddata ieithyddol.
- Llunio ac egluro dadleuon cymhleth ac arbenigol sy'n cefnogi honiadau mewn ymateb i gonfensiynau'r genre.
- Gwerthuso effaith defnydd iaith mewn ystod o gyd-destunau.
Sgiliau Ymarferol Proffesiynol:
- Darllen a gwerthuso syniadau, dadleuon ac ymchwil empirig yn feirniadol.
- Dangos ymwybyddiaeth feirniadol o wahanol gonfensiynau ysgrifennu ac offer ysgrifennu, a'r gallu i'w defnyddio a'u haddasu ar gyfer gwahanol fathau o asesu.
- Asesu a datrys problemau yn annibynnol, gan ystyried safbwyntiau pobl eraill mewn ffordd systematig a gwerthusol.
Sgiliau Trosglwyddadwy/Allweddol:
- Trefnu a chyfleu syniadau a dadleuon cymhleth mewn fformatau gwahanol sy'n addas i wahanol gynulleidfaoedd, gan ddefnyddio confensiynau cyfeirio priodol.
- Defnyddio ystod o sgiliau cyflogadwyedd, gan gynnwys cyfathrebu, cydweithio, rheoli amser, a'r gallu i ddilyn cyfarwyddiadau.
- Myfyrio ar adborth adeiladol ac ymateb iddo.
Gyrfaoedd
Rhagolygon gyrfa
Rydym wedi ymrwymo i'ch helpu i gyflawni eich uchelgeisiau proffesiynol a byddwn yn eich annog, ac yn gweithio gyda chi, i ystyried ac archwilio eich gyrfa neu opsiynau eraill ar ôl graddio yn gynnar.
Mae graddau mewn iaith Saesneg ac ieithyddiaeth yn cyfuno’r goreuon o blith sgiliau’r dyniaethau (hyblygrwydd, cyfathrebu, beirniadu) â sgiliau gwyddorau cymdeithasol (dadansoddi technegol a dull systematig). Bydd y cyfuniad hwn o sgiliau arbenigol a throsglwyddadwy, ynghyd â'ch pwerau mynegiant a meddwl beirniadol, yn cael ei werthfawrogi gan gyflogwyr.
Yn ystod eich gradd, byddwch yn elwa ar ystod o gymorth gyrfaoedd y brifysgol. Mae Gwobr Caerdydd yn darparu fframwaith ar gyfer datblygu eich cyflogadwyedd, tra gall ein gwasanaeth Dyfodol Myfyrwyr ddarparu cyfleoedd i ddatblygu neu gynyddu eich profiad proffesiynol trwy leoliadau neu interniaethau, a gwneud y mwyaf o'ch sgiliau a pha mor barod ydych trwy weithdai gyrfaoedd a sesiynau cyngor un-i-un. Yn yr un modd, gallech weithio gyda'r tîm Menter a Dechrau Busnes i ddod â'ch syniadau'n fyw, gan roi'r wybodaeth i chi lwyddo. Fel arall, gallwch fanteisio ar fentrau fel Ieithoedd i Bawb a Chymraeg i Bawb i ennill sgiliau iaith newydd (neu wella’ch sgiliau iaith presennol), gan gyfoethogi eich CV a’ch profiadau personol.
Gydag ehangder sgiliau academaidd a phroffesiynol, yn ogystal â chyfleoedd datblygiad personol, mae ein graddedigion i’w cael mewn amrywiaeth o rolau a sectorau. Mae’r rhain yn cynnwys marchnata a chysylltiadau cyhoeddus, gwerthu a hysbysebu, y cyfryngau a darlledu, addysg ac addysgu, therapi lleferydd ac iaith, y gwasanaeth sifil a gweinyddiaeth gyhoeddus, ymhlith llawer mwy.
Camau nesaf
Ymweliadau Diwrnod Agored
Cofrestrwch i gael ein newyddion diweddaraf
Rhyngwladol
Mwy o wybodaeth am ein brifysgol fyd-eang
Cysylltwch
Cysylltwch â ni am gymorth ac unrhyw gwestiwn sydd gennych
Sut i wneud cais
Sut i wneud cais am y cwrs hwn
Nid oes data Darganfod Prifysgol ar gael ar gyfer y cwrs hwn eto.
Rhagor o wybodaeth
Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.