Rheoli Busnes (Logisteg a Gweithrediadau) (BSc)
- Maes pwnc: Rheoli busnes
- Côd UCAS: N291
- Derbyniad nesaf: Medi 2025
- Hyd: 3 blwyddyn
- Modd (astudio): Amser llawn
Pam astudio'r cwrs hwn
Dysgu gan y gorau
Manteisiwch ar arbenigedd a chefnogaeth staff sy’n cynnal ymchwil mewn ysgol sydd â'r sgôr uchaf posibl ar gyfer amgylchedd ymchwil.
Rhwydweithiau i symud ymlaen
Cewch elwa o'n partneriaeth gyda NOVUS Lite, sy'n cynnig cyfleoedd lleoliad gwaith, seminarau a mentora.
Cyfleoedd am leoliad gwaith
Datblygwch y sgiliau, yr hyder a’r cysylltiadau i gyflymu eich gyrfa.
Nodwyd am ragoriaeth
Achrededig gan y Gymdeithas er Hyrwyddo Ysgolion Busnes Colegol (AACSB).
Mae gweithwyr proffesiynol sy’n gallu rheoli nwyddau a gwasanaethau o’u cynhyrchu i’w dosbarthu, ar amser ac o fewn cyllideb, yn ganolog i lwyddiant sefydliadau cyfoes.
Mae hyn yn golygu y bydd galw mawr amdanoch mewn rolau yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector gyda chyflogau cystadleuol a rhagolygon gwych o ran datblygu gyrfa.
Mae ein rhaglen BSc Rheoli Busnes (Logisteg a Gweithrediadau) yn canolbwyntio ar sefydliadau o bob math, o gwmnïau amlwladol i fentrau cymdeithasol ac elusennau. Mae’r ymagwedd gyfannol hon yn sicrhau eich bod yn datblygu’r sgiliau i ymateb i anghenion datblygol pob busnes, ni waeth beth fo'r sector.
Byddwch yn datblygu arbenigedd logisteg a rheoli gweithrediadau gan ein tîm o ymchwilwyr o fri rhyngwladol. Byddant yn eich dysgu am arferion prynu a chyflenwi, logisteg a dosbarthu a rheoli gweithrediadau uwch.
Gyda’u cefnogaeth nhw, byddwch yn datblygu sgiliau i ymateb i’r datblygiadau a’r heriau cyfredol ym myd busnes a’r gymdeithas, wrth baratoi i lansio gyrfa lwyddiannus yn y diwydiant logisteg neu ymgymryd ag astudiaethau ac ymchwil ôl-raddedig pellach.
Achrediadau
Maes pwnc: Rheoli busnes
Gofynion mynediad
Rydym yn derbyn cyfuniad o gymwysterau Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn ogystal â chymwysterau rhyngwladol cyfatebol yn amodol ar ofynion mynediad. Dyma ein cynigion nodweddiadol:
Lefel A
AAB-ABB
Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhynglwadol: Fel arfer, bydd ymgeiswyr sydd wedi ennill gradd A yn y Cymhwyster Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhyngwladol: Bydd ymgeiswyr sydd â gradd A mewn Cymhwyster Prosiect Estynedig (EPQ)/Cymhwyster Prosiect Rhyngwladol (IPQ) fel arfer yn derbyn cynnig un radd yn is na'r cynnig safonol. Sylwch fod yn rhaid parhau i fodloni unrhyw ofynion penodol pwnc.
Mae ein hystod gradd yn cwmpasu ein cynnig safonol a'n cynnig cyd-destunol. Rydym yn ystyried yn ofalus yr amgylchiadau rydych chi wedi bod yn astudio (eich data cyd-destunol) ar gais.
- Bydd myfyrwyr cymwys yn cael cynnig y rhan isaf yn yr ystod gradd a hysbysebir.
- Lle nad oes ystod gradd yn cael ei hysbysebu a/neu lle mae prosesau dethol yn eu lle (fel cyfweliad) efallai y byddwch yn derbyn pwyntiau ychwanegol yn y broses ddethol neu'n sicr o gael cyfweliad/ystyriaeth.
Dysgwch am gyrsiau cymwys a sut mae data cyd-destunol yn cael ei gymhwyso.
Y Fagloriaeth Rhyngwladol
34-32 yn gyffredinol neu 666-665 mewn 3 phwnc Lefel Uwch.
Bagloriaeth Cymru
O fis Medi 2023, bydd cymhwyster newydd o'r enw Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru (lefel 3). Bydd y cymhwyster hwn yn disodli'r Dystysgrif Her Sgiliau Uwch (Bagloriaeth Cymru). Bydd y cymhwyster yn parhau i gael ei dderbyn yn lle un Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod), ac eithrio unrhyw bynciau penodol.
Gofynion eraill
Rhaid i chi fod yn meddu ar y canlynol neu’n gweithio tuag atynt:
- TGAU Iaith Saesneg neu Gymraeg gradd C/4 neu gyfwerth (fel Safon Uwch). Os oes angen fisa Myfyriwr arnoch, rhaid i chi sicrhau bod eich cymhwyster iaith yn cydymffurfio â gofynion UKVI.
- TGAU Mathemateg gradd B/6 neu gymhwyster cyfatebol (pwnc a gradd). Os ydych chi'n gwneud Mathemateg Safon Uwch (neu gyfwerth), nid oes angen TGAU Mathemateg. Gellir derbyn Mathemateg Craidd hefyd yn lle TGAU Mathemateg.
Nid ydym yn derbyn Meddwl yn Feirniadol, Astudiaethau Cyffredinol, Astudiaethau Dinasyddiaeth, na phynciau eraill tebyg neu gyfatebol.
Byddwn yn derbyn cyfuniad o bynciau BTEC, Safon Uwch, a chymwysterau eraill, yn amodol ar ofynion gradd a phwnc penodol y cwrs.
Gofynion Iaith Saesneg
GCSE
Gradd C neu radd 4 mewn TGAU Iaith Saesneg.
IELTS (academic)
O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgil.
TOEFL iBT
O leiaf 90 yn gyffredinol gydag o leiaf 17 ar gyfer ysgrifennu, 17 am wrando, 18 ar gyfer darllen, ac 20 ar gyfer siarad.
PTE Academic
O leiaf 69 ar y cyfan gydag o leiaf 59 yn yr holl sgiliau cyfathrebu.
Trinity ISE II/III
II: dau Ragoriaeth a dau Deilyngdod o leiaf.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.
Cymwysterau eraill a dderbynnir
Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.
Euogfarnau troseddol
Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.
Os ydych ar hyn o bryd yn destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau eich astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu eich cofnod troseddol. Mae amodau yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:
- mynediad i gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
- defnydd o'r rhyngrwyd ac offer/dyfeisiau cyfathrebu
- cyrffyw
- rhyddid symud
- cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.
Cymwysterau o'r tu allan i'r DU
BTEC
DDD-DDM mewn Diploma Estynedig BTEC mewn Busnes.
Lefel T
D mewn Cyfrifeg neu Gyllid Lefel T.
Cewch ragor o wybdoaeth am y broses ymgeisio yn ein polisïau derbyn myfyrwyr.
Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2025
Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.
Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd
Ffioedd am statws cartref
Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26.
Mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i gynyddu ffioedd dysgu yn yr ail flwyddyn a blynyddoedd dilynol y cwrs yn unol â'r gyfraith neu bolisi Llywodraeth Cymru. Lle bo'n berthnasol, byddwn yn eich hysbysu o unrhyw newidiadau yn y ffioedd dysgu erbyn diwedd mis Mehefin yn y flwyddyn academaidd cyn i'r ffioedd gynyddu.
Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir
Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26.
Ffioedd am statws ynys
Dysgwch ragor am ffioedd israddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.
Ffioedd am statws tramor
Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26.
Costau ychwanegol
Nid oes costau ychwanegol
Llety
Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.
Costau byw
Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.
Strwythur y cwrs
Rydym yn gweithio gyda'n myfyrwyr ar hyn o bryd yn diweddaru ac yn gwella cynnwys y cwrs hwn. Mae'r wybodaeth isod yn adlewyrchu'r cwricwlwm presennol a fydd yn newid yn ôl pob tebyg. Disgwylir i ni fod wedi gorffen adolygu'r cwrs erbyn mis Awst 2025. Bydd y dudalen hon wedi'i diweddaru erbyn mis Hydref 2025 i ddangos y newidiadau.
Rhaglen tair blynedd amser llawn yw hon, sy’n cynnwys 120 credyd y flwyddyn. Mae'r holl fyfyrwyr, beth bynnag fo’u llwybr, yn astudio Blwyddyn Gyntaf gyffredin, ac nid yw'r flwyddyn hon yn cyfrif tuag at y radd derfynol. Ar ddiwedd Blwyddyn 1, mae gennych yr opsiwn i naill ai aros gyda'r radd BSc Rheoli Busnes (Logisteg a Marchnata) neu symud i un o'r rhaglenni Rheoli Busnes eraill os ydych wedi datblygu diddordeb mewn maes arall.
Ym Mlynyddoedd 2 a 3, mae modiwlau gorfodol yn dibynny ar y llwybr a ddewisir, ond rydych hefyd yn dewis modiwlau dewisol o restr gymeradwy sy'n eich galluogi i deilwra'r radd ymhellach i'ch diddordebau.
Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2025/2026. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2025
Blwyddyn un
Mynd i’r afael â’r hanfodion ar flwyddyn gyntaf ein cwrs rheoli busnes byd-eang.
Byddwn yn eich cyflwyno chi i ddisgyblaethau gan gynnwys cyfrifeg, technoleg ac economeg ochr yn ochr â chyd-fyfyrwyr o’n llwybrau marchnata, adnoddau dynol a rheoli rhyngwladol.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Cymdeithas a'r Economi | BS1001 | 20 Credydau |
Rheoli Gweithrediadau | BS1002 | 10 Credydau |
Cyflwyniad i Gyfrifeg | BS1503 | 20 Credydau |
Rheolaeth: Theori a Thystiolaeth | BS1511 | 20 Credydau |
Marchnata | BS1528 | 20 Credydau |
Pobl mewn sefydliadau | BS1529 | 20 Credydau |
Technoleg a'r Oes Ddigidol | BS1532 | 10 Credydau |
Blwyddyn dau
Byddwch yn cyfuno theori ac ymarfer wrth i'ch dealltwriaeth o'r hanfodion ddatblygu.
Byddwch yn darganfod sut mae arferion dosbarthu, pwrcasu a chyflenwi'n croestorri gydag ymddygiad sefydliadol, marchnata a strategaeth wrth feithrin dealltwriaeth gynhwysfawr o'r dirwedd busnes gyfoes.
Ategwch eich gwybodaeth arbenigol gyda modiwlau dewisol mewn amlddiwylliannedd, cyllid a rheoli adnoddau dynol.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Prynu a Rheoli Cyflenwi | BS2001 | 20 Credydau |
Rhagoriaeth mewn Rheoli Gweithrediadau | BS2003 | 20 Credydau |
Marchnata a Strategaeth | BS2540 | 20 Credydau |
Rheoli Pobl | BS2542 | 20 Credydau |
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Heriau mewn rheoli ac arwain sefydliadau | BS2002 | 20 Credydau |
Rhwydweithiau Logisteg | BS2004 | 10 Credydau |
Rheoli Prosiect | BS2005 | 10 Credydau |
Ystadegau Ffirentol, Modelu Ystadegol a Dulliau Arolygu | BS2506 | 20 Credydau |
Perfformiad a Rheolaeth Ariannol | BS2517 | 20 Credydau |
Busnes, Llywodraeth a Chymdeithas | BS2518 | 20 Credydau |
Rheoli mewn Sefydliadau Amlddiwylliannol | BS2520 | 20 Credydau |
Cysylltiadau Cyflogaeth | BS2534 | 20 Credydau |
Ymddygiad y Prynwr | BS2535 | 20 Credydau |
Rheolaeth Ryngwladol | BS2537 | 20 Credydau |
Ymchwil Marchnata | BS2539 | 20 Credydau |
Blwyddyn tri
Profwch eich gwybodaeth wrth ddod ar draws materion o'r byd go iawn mewn rheoli a strategaeth.
Bydd modiwlau mewn busnes rhyngwladol, rheoli gweithrediadau uwch a chyflenwi yn arwain at gyfleoedd i deilwra eich gradd i'ch dyheadau gyrfa.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Prosiect Logisteg a Gweithrediadau | BS3005 | 20 Credydau |
Rheolaeth Strategol | BS3543 | 20 Credydau |
Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle'n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.
Dysgu ac asesu
Caiff ein dulliau addysgu eu llywio’n helaeth gan ymchwil ac maen nhw’n cyfuno manylrwydd academaidd gyda pherthnasedd ymarferol. Mae cyfadran a gydnabyddir yn rhyngwladol, sydd ar flaen y gad o ran gwybodaeth yn eu maes, yn dod â'r gwersi a ddysgwyd o'u hymchwil ddiweddaraf i'r ystafell ddosbarth, gan eich galluogi i feddwl yn feirniadol am fusnes a chynnig enghreifftiau a senarios go iawn cyfoes.
Byddwn yn darparu eich adnoddau addysgu a dysgu, ac yn ymateb i’ch anghenion a’ch safbwyntiau. O'ch rhan chi, bydd gofyn i chi wneud y gwaith angenrheidiol yn ystod a thu allan i’r sesiynau addysgu ffurfiol, a gwneud defnydd da o'r cyfleusterau a ddarperir.
Mae'r rhan fwyaf o fodiwlau yn cynnwys cymysgedd o ddarlithoedd ac addysgu mewn grwpiau bach (dosbarthiadau, seminarau, gweithdai neu sesiynau tiwtorial).
Mae darlithoedd yn darparu trosolwg o gysyniadau a fframweithiau allweddol pwnc, gan eich paratoi chi ar gyfer ymgymryd â gwaith ymchwil annibynnol ar gyfer y seminarau a datblygu eich syniadau eich hunan. Mae seminarau’n rhoi cyfle i chi ymchwilio i’r syniadau a gafodd eu hamlinellu yn y darlithoedd. Gall ffurf y seminarau amrywio, gan gynnwys trafodaeth grŵp sy’n cynnwys pawb, gwaith mewn grwpiau bach a chyflwyniadau sy’n cael eu harwain gan y myfyrwyr.
Sut y caf fy nghefnogi?
Byddwch yn cael tiwtor personol ar ddechrau eich astudiaethau. Fel arfer, bydd eich tiwtor personol Cymraeg yn addysgu ar eich cwrs gradd chi a byddwch yn cadw’r un tiwtor personol drwy gydol eich cwrs.
Bydd eich tiwtor personol yn gallu rhoi cyngor i chi ar faterion academaidd, gan gynnwys dewis modiwlau ac asesu. Os ydych yn profi unrhyw broblemau sy'n effeithio ar eich astudiaethau, eich tiwtor personol yw eich pwynt cyswllt cyntaf bob tro. Bydd eich tiwtor yn gallu eich rhoi mewn cysylltiad ag ystod eang o wasanaethau cymorth arbenigol ar gyfer myfyrwyr a ddarperir gan y Brifysgol, ac Undeb y Myfyrwyr, fel y bo'n briodol. Bydd gofyn i chi gyfarfod â’ch tiwtor personol dair gwaith yn ystod pob blwyddyn academaidd, ond fe’ch anogir hefyd i gysylltu â nhw ar unrhyw adeg arall os oes angen help neu gyngor arnoch chi.
I gael gwybodaeth gyffredinol, mae staff ein Hwb Myfyrwyr Israddedig ar gael, yn bersonol, dros y ffôn neu trwy ebost, rhwng 8am a 6pm bob dydd o'r wythnos yn ystod y tymor i ateb eich cwestiynau.
Trwy wefan Dysgu Canolog, byddwch yn gallu cael gafael ar ddeunydd amlgyfrwng perthnasol, cyflwyniadau, taflenni darlithoedd, llyfryddiaethau, dolenni pellach, ymarferiadau electronig a chylchoedd trafod.
Mae’r Brifysgol yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau sy’n cynnwys y Gwasanaeth Gyrfaoedd, y Gwasanaeth Cwnsela, y Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia, y Gwasanaeth Cefnogi Myfyrwyr, a llyfrgelloedd a chanolfannau adnoddau ardderchog.
Sut caf fy asesu?
Assessment methods vary from module to module but, across your degree scheme as a whole, you can expect a mixture of exams, coursework, essays, practical work, presentations, and individual and group projects.
Feedback
We will provide you with regular feedback on your work. This comes in a variety of formats including oral feedback, personalised feedback on written work, and generic written feedback.
You will be given general feedback following each examination period and will be able to discuss your overall performance with your personal tutor.
Pa sgiliau bydda i'n eu hymarfer a'u datblygu?
Gwybodaeth a Dealltwriaeth:
Ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu dangos:
- Dealltwriaeth o'r agweddau mewnol ar strwythur, llywodraethu, swyddogaethau a phrosesau sefydliadau.
- Gwerthfawrogiad o'r rhyngweithio deinamig rhwng sefydliadau a’r amgylchedd busnes cymdeithasol ac economaidd y maent yn gweithredu ynddo.
- Gwybodaeth am brosesau, gweithdrefnau ac arferion ar gyfer rheoli sefydliadau amrywiol yn effeithiol a chyfrifol.
- Gwerthfawrogiad o ba mor bwysig yw hi bod sefydliadau yn deall ar yn rheoli eu marchnadoedd.
- Dealltwriaeth o sut mae pobl yn rhyngweithio o fewn sefydliadau a sut y gellir eu harwain, eu rheoli a'u datblygu.
- Gwybodaeth am wahanol systemau a phrosesau ar gyfer rheoli gweithrediadau o fewn sefydliadau a rhwng sefydliadau.
- Ymwybyddiaeth o'r polisïau a’r strategaethau priodol i fodloni buddiannau rhanddeiliaid, rheoli risg a chyflawni cymaint o amcanion strategol ag sy’n bosibl.
- Gwerthfawrogiad o sut y gall sefydliadau greu gwelliant cymdeithasol yn ogystal â gwelliant economaidd.
- Dealltwriaeth o amrywiaeth o brosesau a systemau ar gyfer rheoli gweithrediadau sefydliadau.
- Deall sut y gall sefydliadau gynllunio, gweithredu a rheoli llif nwyddau, gwasanaethau a gwybodaeth yn effeithiol o fewn sefydliadau a rhyngddynt.
- Gwerthfawrogiad o'r ffactorau sy'n ofynnol a'r cyfaddawdau rhyngddynt ar gyfer rheoli cadwyni cyflenwi yn effeithiol mewn amgylchedd busnes cyfoes.
Sgiliau Deallusol:
Ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu dangos:
- Y gallu beirniadol i ddadansoddi, gwerthuso a chyfosod gwybodaeth.
- Y gallu i ddatrys problemau.
- Cymhwysedd wrth arddangos dadleuon beirniadol gwybodus a chytbwys.
- Y gallu i gymhwyso damcaniaethau a dulliau arfer perthnasol.
Sgiliau Ymarferol Proffesiynol:
Ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu dangos:
- Sgiliau Rheoli Pobl.
- Y gallu i ddefnyddio ymchwil i fabwysiadu ymagwedd yn seiliedig ar dystiolaeth o ran rheoli.
- Craffter masnachol.
- Arloesedd, creadigrwydd a menter.
Sgiliau Trosglwyddadwy/Allweddol:
Ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu dangos:
- Hunan-reoli effeithiol a thueddiad i ddatblygu'n bersonol.
- Y gallu i gyfathrebu'n effeithiol trwy amrywiaeth o gyfryngau, ac i gynulleidfaoedd arbenigol ac anarbenigol.
- Y gallu i ddefnyddio sgiliau cydweithio a gweithio'n effeithiol mewn gydag eraill.
Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith
Rhagolygon gyrfa
Rydym wedi ymrwymo i’ch helpu chi i gyflawni eich dyheadau proffesiynol, gan roi’r sgiliau, y chwilfrydedd a’r hyder i chi adael eich marc mewn marchnad swyddi gystadleuol. P’un a oes gennych syniad clir o’r hyn yr hoffech chi ei wneud ar ôl y brifysgol neu ddim syniad o gwbl, mae gennym yr adnoddau a’r cymorth i’ch tywys chi.
Mae ein graddedigion yn mynd ymlaen i amrywiaeth o ddiwydiannau a phroffesiynau gan gynnwys bancio a rheoli cyllid, logisteg a rheoli cadwyni cyflenwi, Llywodraeth y DU a'r Gwasanaeth Sifil, a dadansoddi data.
Yn yr Ysgol Fusnes mae gennym Ganolfan Gyrfaoedd bwrpasol sy'n cynnig cefnogaeth benodol i fusnes, gan gynnwys lleoliadau diwydiannol, interniaethau, profiad gwaith a mewnwelediadau.
Byddwch yn elwa ar ymgynghoriadau gyrfa, gweithdai cyfweliadau ac ysgrifennu CV, digwyddiadau diwydiant-benodol ac asesiadau seicometrig arbenigol a hyfforddiant sgiliau eang.
Gyrfaoedd graddedigion
- Cyfrifydd
- Dadansoddwr Busnes
- Economegydd
- Rheolwr AD
- Darlithydd
- Gweithredwr Marchnata
- Rheolwr Cynhyrchu
- Brocer Stoc.
Lleoliadau
Rydym ni’n cydnabod pwysigrwydd ennill profiad gwaith yn ystod eich astudiaethau. Mae ein Rheolwr Lleoliadau Gwaith dynodedig yn cynnig cyngor ar leoliadau gwaith, interniaethau, profiad gwaith a chyfleoedd sydd ar gael i wella eich CV ac ehangu eich gorwelion. Mae cymorth gyda cheisiadau am swyddi a thechnegau cyfweliad hefyd ar gael gan ein Hymgynghorydd Gyrfaoedd mewnol.
Ar raglen BSc Rheoli Busnes (Logisteg a Gweithrediadau) mae cyfle i ymgymryd â lleoliad gwaith blwyddyn o hyd. Os penderfynwch yr hoffech fachu ar y cyfle hwn gallwch naill ai wneud cais am y BSc Rheoli Busnes (Logisteg a Marchnata) pedair blynedd gyda rhaglen Blwyddyn Lleoliad Gwaith Proffesiynol neu drosglwyddo iddo ar unrhyw adeg hyd at ddiwedd eich ail flwyddyn astudio. Byddwch yn mynd ar leoliad gwaith yn y drydedd flwyddyn mewn gradd pedair blynedd.
Myfyrwyr Rhyngwladol
I roi’r cyfle i chi gael safbwynt byd-eang, rydym yn cynnig rhaglenni gradd pedair blynedd gyda Blwyddyn Dramor. Yn ystod eich ail flwyddyn, gallwch wneud cais am le ar y rhaglenni hyn ac os byddwch yn llwyddiannus byddwch yn trosglwyddo i'r cynllun gradd pedair blynedd. Bydd y Flwyddyn Dramor yn dod yn rhan annatod o'r radd.
Ar ben hynny, yn amodol ar fodloni'r meini prawf cymhwysedd (marc cyffredinol o 60%+ ar gyfartaledd yn y flwyddyn gyntaf a chyfweliad llwyddiannus gyda'r Cyfarwyddwr Cyfnewid Rhyngwladol) gallwch drosglwyddo i'r rhaglen Semester Dramor. Ar y rhaglen hon byddwch yn cymryd chwe modiwl sengl gorfodol yn y semester cyntaf cyn treulio semester gwanwyn yn un o'n prifysgolion partner dramor yn astudio modiwlau perthnasol yn Saesneg.
Mae gennym gytundebau cyfnewid gydag Ysgolion Busnes a phrifysgolion o safon ledled y byd lle byddwch chi'n astudio modiwlau a addysgir ac a asesir yn Saesneg. Mae rhestr o sefydliadau partner sy’n cynnig modiwlau a addysgir yn Saesneg i’w gweld ar ein gwefan.
Mae ein tîm Cyfnewid a Chanolfan Cyfle Byd-eang y Brifysgol yn gweithio'n agos gyda chi i baratoi ar gyfer ac yn ystod eich hastudiaethau dramor.
Camau nesaf
Ymweliadau Diwrnod Agored
Cofrestrwch i gael ein newyddion diweddaraf
Rhyngwladol
Mwy o wybodaeth am ein brifysgol fyd-eang
Gofyn cwestiwn
Gofynnwch gwestiwn i ni neu siaradwch â'n tîm derbyn myfyrwyr.
Sut i wneud cais
Sut i wneud cais am y cwrs hwn
Rhagor o wybodaeth
Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.