Ewch i’r prif gynnwys

Athroniaeth a Gwleidyddiaeth (BA)

Politics and International Relations student

Pam astudio'r cwrs hwn

book

Dilyn eich diddordebau

Dewiswch o fodiwlau ar draws ystod o bynciau athronyddol a gwleidyddol, olrhain cysylltiadau â disgyblaethau eraill, a chymryd rhan mewn ymchwil newydd.

notepad

Meddwl dros eich hun

Mynd i'r afael yn feirniadol ac yn greadigol â phroblemau anodd mewn ffordd annibynnol a meddwl agored.

people

Llywio'r dyfodol

Cymhwyswch ymchwil i ddatblygu polisïau neu strategaethau sydd â'r nod o ddatrys problemau cymdeithasol yn y byd go iawn.

building

Cysylltwch â sefydliadau gwleidyddol

Manteisiwch ar gysylltiadau rhagorol â Llywodraeth Cymru a Senedd Cymru, San Steffan, yr Undeb Ewropeaidd, a NATO.

star

Cyfathrebu'n effeithiol

Datblygwch sgiliau a phrofiad wrth lunio a chyflwyno eich syniadau a dadleuon.

Sut dylech chi fyw eich bywyd ac uniaethu ag eraill? Beth yw sail ddamcaniaethol gwahanol systemau gwleidyddol a llywodraethu? Sut maen nhw'n gweithio'n ymarferol, a sut dylen nhw weithio? Beth yw heriau moesegol, cymdeithasol a gwleidyddol mawr heddiw a sut dylem ni fynd i’r afael â nhw? Sut dylai nodweddion fel rhywedd a hil gael eu hystyried mewn ymholiad damcaniaethol a gwneud penderfyniadau cymdeithasol? Gyda'n rhaglen Athroniaeth a Gwleidyddiaeth (BA), byddwch yn ymchwilio i gwestiynau pwysig ar y groesffordd rhwng athroniaeth a gwleidyddiaeth, ynghyd â phynciau eraill o bob un o'r disgyblaethau hyn.

Ein blaenoriaeth yw datblygu eich sgiliau fel dinesydd byd-eang a meddyliwr yn eich rhinwedd eich hun. Drwy gydol y rhaglen, byddwch yn cael eich cefnogi i ymwneud yn feirniadol ac yn greadigol â phroblemau anodd mewn ffordd feddwl agored, gan gynnwys ar bynciau sensitif a dadleuol.

Yn ystod eich astudiaethau, cewch gyfle i archwilio ystod eang o bynciau a thraddodiadau athronyddol a gwleidyddol. Byddwch yn datblygu sylfaen gadarn mewn athroniaeth foesol, byddwch hefyd yn astudio epistemoleg, athroniaeth meddwl, ac athroniaeth wleidyddol, a chewch gyfle i astudio meysydd fel estheteg, athroniaeth ffeministaidd, a ffenomenoleg. Mewn Gwleidyddiaeth, gallwch archwilio sut mae seneddau a llywodraethau yn gweithredu, ymchwilio i sut mae gwleidyddiaeth yn gweithio yng Nghymru, y DU, Ewrop, a ledled y byd, a gwerthuso syniadau gwleidyddol allweddol megis pŵer, rhyddid, hawliau, gwrthdaro, atebolrwydd, democratiaeth, a chyfreithlondeb.

Mae ein modiwlau yn rhoi cyfleoedd i chi gysylltu theori ag ymarfer mewn modiwlau cymhwysol mewn athroniaeth a gwleidyddiaeth. Yn ogystal â chyfleoedd i archwilio polisi cyhoeddus o safbwynt gwleidyddol, yn y flwyddyn olaf byddwch yn cymryd rhan mewn prosiect i gymhwyso ymchwil athronyddol i ddatblygu polisïau neu strategaethau sy'n anelu at ddatrys problem foesegol neu gymdeithasol yn y byd go iawn.

Byddwch yn graddio gydag ystod o sgiliau proffesiynol gwerthfawr, gan gynnwys cydweithio, cyfathrebu effeithiol, a meddwl beirniadol annibynnol. Bydd gennych werthfawrogiad dwfn o'r heriau moesegol a chymdeithasol sy'n wynebu cymdeithas a diwydiant cyfoes, a bydd gennych y syniadau a'r hyder sydd eu hangen i'w datrys. O'r fan hon, byddwch mewn sefyllfa ddelfrydol i symud ymlaen i ystod o yrfaoedd cyffrous.

Maes pwnc: Athroniaeth

Maes pwnc: Gwleidyddiaeth a chysylltiadau rhyngwladol

Strwythur y cwrs

Mae hon yn radd amser llawn tair blynedd, gyda 120 credyd astudio ym mhob blwyddyn. Byddwch yn astudio 60 credyd y flwyddyn mewn athroniaeth a 60 credyd y flwyddyn mewn gwleidyddiaeth.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2025/2026. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2025

Blwyddyn un

Mae'r modiwlau ym mlwyddyn 1 yn eich cyflwyno i'r meysydd allweddol o athroniaeth a gwleidyddiaeth sy'n ymddangos trwy gydol y radd.

Yn athroniaeth, mae hyn yn cynnwys astudio testunau clasurol a dadleuon cyfredol am foesoldeb, cyfiawnder, gwybodaeth a chred, natur cyfathrebu, a’r berthynas rhwng meddyliau a chyrff. Mewn Gwleidyddiaeth, gallwch ddewis o ystod o fodiwlau mewn meysydd sylfaenol. Byddwch yn dysgu sut i ysgrifennu i safonau academaidd a phroffesiynol, ac ymarfer a datblygu'r sgiliau sy'n hanfodol i'r radd.

Blwyddyn dau

Ym mlwyddyn 2, byddwch yn archwilio cysylltiadau ar draws y radd mewn modiwl craidd ar athroniaeth wleidyddol. Byddwch yn dewis un neu ddau fodiwl mewn athroniaeth meddwl, seicoleg, iaith ac epistemoleg. Mae hyn yn eich paratoi ar gyfer modiwlau yn y flwyddyn olaf sy'n aml yn cyfuno gwahanol feysydd athroniaeth. Gallwch archwilio maes arall o athroniaeth trwy fodiwlau dewisol. Mewn Gwleidyddiaeth, byddwch yn dewis o blith ystod eang o fodiwlau dewisol mewn gwleidyddiaeth a chysylltiadau rhyngwladol.

Byddwch yn ymarfer ymhellach sgiliau allweddol cyfathrebu, cydweithio, a meddwl yn feirniadol, dod yn fwy annibynnol yn eich astudiaethau, a gwella eich gallu i fyfyrio ar eich gwaith eich hun er mwyn cyrraedd eich potensial.

Blwyddyn tri

Yn eich blwyddyn olaf, byddwch yn cael eich trwytho yn niwylliannau ymchwil athroniaeth a gwleidyddiaeth i gael dealltwriaeth ddyfnach o sut y gall ymchwil gyfredol effeithio ar y byd.

Yn y modiwl craidd Athroniaeth ar Waith, byddwch yn darganfod y cyfraniad gwerthfawr y gall sgiliau athronyddol a gwybodaeth athronyddol ei wneud mewn ystod o sefydliadau a rolau proffesiynol. Yn y modiwl hwn, byddwch yn dysgu sut i gymhwyso ymchwil athronyddol a wneir ar hyn o bryd ym Mhrifysgol Caerdydd i gynhyrchu argymhellion polisi ymarferol mewn ymateb i broblem gyfoes y byd real go iawn.

Mewn modiwlau dewisol, byddwch yn ymgysylltu ymhellach â'r ymchwil ddiweddaraf yn ein meysydd arbenigedd. Mewn Athroniaeth, mae'r modiwlau hyn yn aml yn integreiddio gwahanol feysydd a astudiwyd yn gynharach yn y radd, ac yn aml yn canolbwyntio ar broblemau o bryder cymdeithasol cyfoes. Bydd y modiwlau gwleidyddiaeth opsiynol yn eich herio i feddwl yn ddyfnach am natur cysylltiadau rhyngwladol a datblygiadau gwleidyddol. Byddwch hefyd yn cael cyfle i ysgrifennu traethawd hir, gyda chefnogaeth goruchwyliwr academaidd.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Athroniaeth mewn YmarferSE444720 Credydau
Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Technoleg ddigidol a ChiSE445120 Credydau
Syniadau radical o'r 19eg ganrifSE444920 Credydau
Estheteg a MoesegSE445020 Credydau
Ymchwiliadau Ffenomenolegol ProfiadSE444820 Credydau
Gwleidyddiaeth Amrywiaeth IaithSE443920 Credydau
Rhesymau a ChysylltiadauSE443820 Credydau
Anghyfiawnder esthetigSE443420 Credydau
Cyfrifoldeb MoesolSE442620 Credydau
Cred ac afresymoldebSE441920 Credydau
Y dychymyg cymdeithasolSE441220 Credydau
Hanes Athroniaeth yr 20fed Ganrif yng NghymruSE439620 Credydau
Cyfiawnder Byd-eangSE439420 Credydau
Traethawd Hir mewn AthroniaethSE438520 Credydau
Traethawd Hir GwleidyddiaethPL938620 Credydau
Traethawd Hir Cysylltiadau RhyngwladolPL938520 Credydau
Cenedlaetholdeb, Crefydd a Chyfiawnder: Hanes Athroniaeth yr 20fed Ganrif yng NghymruPL937820 Credydau
Cyfiawnder Byd-eangPL937720 Credydau
Dirty Hands: Problemau Moeseg GwleidyddolPL936620 Credydau
Llywodraeth a Gwleidyddiaeth yr Unol DaleithiauPL937420 Credydau
Argyfwng ac Ymrwymiad mewn Meddwl Gwleidyddol ModernPL936320 Credydau
Economi Wleidyddol Cymru: o 'Oes y glo' i 'Oes y clo'PL936220 Credydau
Gwrthdaro, cystadlu a chynghreiriau yn y "Dwyrain Canol Newydd"PL935420 Credydau
Gwleidyddiaeth a Llywodraethu BrexitPL934720 Credydau
Be the Change: Llywodraethu heb y WladwriaethPL934620 Credydau
Rhyw, Cyffuriau a Pholisi CyhoeddusPL933820 Credydau
Gwleidyddiaeth Trais a LladdPL933520 Credydau
Bomiau, Bwledi a Ballot-flychau: Gwrthdaro Gogledd Iwerddon, 1969 i 1998PL932420 Credydau
Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn yr Oes NiwclearPL932020 Credydau

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle'n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Astudio yn Gymraeg

Mae hyd at 33% o'r cwrs hwn ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg. Cysylltwch â'r Tiwtor Derbyn am wybodaeth bellach.

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch i gael ein newyddion diweddaraf

icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein brifysgol fyd-eang

icon-contact

Cysylltwch

Cysylltwch â ni am gymorth ac unrhyw gwestiwn sydd gennych

icon-pen

Sut i wneud cais

Sut i wneud cais am y cwrs hwn


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.