Ewch i’r prif gynnwys

Llywodraeth a Gwleidyddiaeth Cymru (MA)

  • Hyd: Blwyddyn
  • Dull astudio: Amser llawn

Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.


Course options See other modes of study
Dyddiad dechrau
calendar

Diwrnod agored

Dysgwch am astudio'n ôl-raddedig yma yn ystod ein Diwrnod Agored nesaf.

Pam astudio’r cwrs hwn

Mae datganoli wedi trawsnewid gwleidyddiaeth a llywodraeth Cymru. Ymunwch â’r rhaglen arloesol hon ac archwilio’r sefydliadau datganoledig yn eu cyd-destunau cyfansoddiadol, gwleidyddol a pholisi ehangach.

building

Cysylltiedig – Cymru a thu hwnt

Cysylltiadau agos ac agosrwydd at sefydliadau datganoledig Cymru yn ogystal â lefelau llywodraeth y DU gyfan.

people

Siaradwyr diddorol

Amgylchedd ymchwil rhyngddisgyblaethol bywiog sy'n hafan i seminarau ymchwil rheolaidd a siaradwyr gwadd.

star

Modiwlau arbenigol

Modiwlau a adeiledir ar y cyfleoedd nodedig a thrawsddisgyblaethol a gynigir gan ein harbenigedd yn y gyfraith, gwleidyddiaeth a chysylltiadau rhyngwladol.

Mae’r dirwedd wleidyddol a chyfreithiol newidiol yng Nghymru yn codi cwestiynau cyffrous a heriol i’r rhai sydd â diddordeb academaidd neu broffesiynol mewn gwleidyddiaeth a pholisi.

Mae MA Llywodraeth a Gwleidyddiaeth Cymru wedi’i chynllunio i ddatblygu dealltwriaeth gynhwysfawr o’r sefydliadau a’r arferion llywodraethiant yng Nghymru ôl-ddatganoli. Yn ogystal â chanolbwyntio ar wleidyddiaeth a llywodraethiant yng Nghymru, mae’r cwrs yn gosod y datblygiadau yng Nghymru o fewn cyd-destun ehangach y DU, gan gynnig trosolwg o’r berthynas rhwng lefelau amrywiol o lywodraethu. 

Wedi’i haddysgu gan arbenigwyr blaenllaw ym maes gwleidyddiaeth a llywodraethiant Cymru yn y Ganolfan Llywodraethiant Cymru enwog, mae’r rhaglen hefyd yn elwa ar y cysylltiadau agos sy’n bodoli rhwng Prifysgol Caerdydd a sefydliadau llywodraeth ddatganoledig yng Nghymru.

Byddwch yn cael mewnwelediad gwybodus i, a dealltwriaeth o’r ffurflywodraeth Gymreig sy'n dod i'r amlwg, ffurflywodraeth sy'n seiliedig ar ffactorau hanesyddol a diwylliannol unigryw, goddefeb gyfansoddiadol sy'n datblygu'n gyflym, prosesau llunio polisi newydd, a gallu cymdeithas sifil sy’n datblygu o hyd.

Fodd bynnag, nid yw perthnasedd y rhaglen yn gyfyngedig i Gymru. Mae materion sy’n ymwneud â sofraniaeth a rennir a llywodraethu aml-lefel yn ganolog i ddadleuon gwleidyddol cyfoes ac mae’r cyd-destun Cymreig yn darparu astudiaeth achos hynod ddiddorol o dueddiadau ehangach mewn llywodraethu Ewropeaidd a byd-eang.

Ble byddwch yn astudio

Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth

Mae ein corff myfyrwyr bywiog, ynghyd â'n staff academaidd hynod gymwysedig, yn darparu'r amgylchedd perffaith i archwilio meysydd dynamig a phrysur y gyfraith, gwleidyddiaeth a chysylltiadau rhyngwladol.

  • icon-chatGofyn cwestiwn
  • Telephone+44 (0)29 2087 6102
  • MarkerRhodfa'r Amgueddfa, Caerdydd, CF10 3AX

Meini prawf derbyn

Er mwyn cael eich ystyried am gynnig ar gyfer y rhaglen hon bydd angen i chi fodloni'r holl ofynion mynediad. Ni fydd eich cais yn cael ei ddatblygu os na ddarperir yr wybodaeth a'r dystiolaeth a restrir.

Gyda'ch cais ar-lein, bydd angen i chi ddarparu:

  1. Copi o'ch tystysgrif gradd a'ch trawsgrifiadau sy'n dangos eich bod wedi cyflawni gradd anrhydedd 2:1 mewn economeg, Saesneg, daearyddiaeth, hanes, cysylltiadau rhyngwladol, newyddiaduraeth, ieithoedd modern, y gyfraith, athroniaeth, gwleidyddiaeth, seicoleg, astudiaethau crefyddol, cymdeithaseg, polisi cymdeithasol, neu radd ryngwladol gyfwerth. Os yw eich tystysgrif gradd neu ganlyniad yn yr arfaeth, llwythwch unrhyw drawsgrifiadau dros dro neu dystysgrifau dros dro.
  2. Copi o'ch tystysgrif IELTS gyda sgôr gyffredinol o 6.5 gyda 6.5 yn ysgrifenedig a 6.0 ym mhob is-sgil arall, neu dystiolaeth o gymhwyster cyfatebol derbyniol. Dylech gynnwys dyddiad eich prawf disgwyliedig os yw'r cymhwyster hwn yn yr arfaeth. Os oes gennych dystiolaeth dderbyniol amgen, fel gradd israddedig a astudir yn y DU, rhowch hyn yn lle IELTS.

Os nad oes gennych radd mewn maes perthnasol, gellir ystyried eich cais ar sail eich profiad proffesiynol. Rhowch dystiolaeth ychwanegol i gefnogi'ch cais megis geirda cyflogwr wedi'i lofnodi a'i ddyddio a thystiolaeth o gofrestru proffesiynol gyda chorff rheoleiddiol neu broffesiynol perthnasol.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau
Rydym yn dyrannu lleoedd ar sail y cyntaf i'r felin, felly rydym yn argymell eich bod yn gwneud cais cyn gynted â phosibl. Fel arfer, bydd ceisiadau'n cau ddiwedd mis Awst ond gallant gau'n gynt os llenwir pob lle. 

Broses ddethol
Byddwn yn adolygu eich cais ac os ydych yn bodloni'r holl ofynion mynediad, byddwn yn gwneud cynnig i chi.

Rhagor o wybodaeth am ofynion Iaith Saesneg.

Mae'n rhaid i ymgeiswyr sydd angen Fisa myfyriwr i astudio yn y DU gyflwyno cymhwyster iaith Saesneg derbyniol er mwyn bodloni gofynion UKVI (Fisâu a Mewnfudo y DU).

Euogfarnau troseddol

Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.

Os ydych chi'n destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro ar hyn o bryd a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau'ch astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu'ch cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • mynediad i gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
  • defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
  • cyrffyw
  • rhyddid i symud, gan gynnwys y gallu i deithio i'r tu allan i'r DU neu i ymgymryd â lleoliad / astudiaethau y tu allan i Brifysgol Caerdydd
  • cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.

Strwythur y cwrs

Mae'r rhaglen yn cymryd ymagwedd 2 gam. 

Yn ystod Cam 1 (y cam a addysgir) o'r rhaglen byddwch yn astudio uchafswm o 120 credyd a addysgir, gan gynnwys chwe modiwl 20 credyd (y cynigir pob un ohonynt ar lefel 7).  Mae’n rhaid i chi astudio 60 credyd bob semester trwy gyfuniad o fodiwlau craidd a dewisol.  

Ar ôl cwblhau Cam 1 yn llwyddiannus, byddwch yn symud ymlaen i Gam 2 (cam y radd meistr) ac yn ymgymryd â modiwl traethawd hir 60 credyd, lefel 7.

Yn amodol ar gwblhau'r nifer angenrheidiol o fodiwlau a addysgir yn llwyddiannus, gellir dyfarnu Tystysgrif Ôl-raddedig neu Ddiploma Ôl-raddedig i'r rhai nad ydynt yn symud ymlaen i'r cam gradd meistr.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2024/25. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2024.

Yn ystod y cyfnod a addysgir, byddwch yn cymryd chwe modiwl 20 credyd a addysgir, gan ddarparu dealltwriaeth sylfaenol o lywodraethu a gwleidyddiaeth Cymru.  Mae’n rhaid i chi astudio 3 modiwl (60 credyd) bob semester, sef cyfanswm o 120 credyd ar draws semester yr hydref a semester y gwanwyn. Mae hyn yn cynnwys 60 credyd o fodiwlau craidd a 60 credyd wedi'u dewis o ystod o fodiwlau dewisol, sy'n eich galluogi i deilwra'ch astudiaethau i'ch diddordebau personol a phroffesiynol.

Ar ôl cwblhau 120 credyd o fodiwlau a addysgir yn llwyddiannus, byddwch yn symud ymlaen i Gam 2 ac yn cwblhau'r traethawd hir 60 credyd. Bydd cydran y traethawd hir yn cael ei gyflwyno ar ddiwedd y rhaglen.

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Sut y caf fy addysgu?

Mae astudio ar gyfer Gradd Meistr yn waith dwys ac yn heriol ac mae’n bwysig eich bod yn manteisio’n llawn ar yr addysgu a ddarperir er mwyn llwyddo. Mae’n rhaid bod yn bresennol mewn dosbarthiadau a sesiynau goruchwylio traethodau hir a byddwn yn disgwyl i chi fod wedi paratoi'n dda. 

Caiff ein haddysgu ei gyflwyno trwy seminarau neu gyfuniad o ddarlithoedd a seminarau. Mae’r dulliau addysgu eraill yn cynnwys defnyddio byrddau trafod ar-lein, pecynnau astudio hunan-ddefnyddio a chwisiau a gweithgareddau ffurfiannol.

Mae’r darlithoedd yn amrywio o ran ffurf ond yn gyffredinol maent yn darparu strwythur eang ar gyfer pob pwnc, yn cyflwyno cysyniadau allweddol a gwybodaeth gyfredol.

Mewn seminarau cewch gyfle i drafod themâu neu bynciau ac i atgyfnerthu a chael adborth ar eich dysgu unigol. Datblygir sgiliau cyfathrebu mewn seminarau, lle byddwch yn gwneud cyfraniadau unigol i astudiaeth grŵp yn ogystal â datblygu sgiliau cyflwyno ar lafar. Bydd cymryd rhan mewn gweithgareddau dysgu amrywiol, fel trafodaethau grŵp bach, dadleuon, cyflwyniadau llafar, tasgau ymchwil annibynnol ac aseiniadau ysgrifenedig yn datblygu eich sgiliau deallusol a’ch sgiliau cyflwyno. 

Fel arfer staff profiadol sy’n arwain modiwlau. Mae ein haddysgu i gyd yn cael ei arwain gan ymchwil, sy'n cael ei addysgu gan staff sy'n ymwneud yn weithredol ag ymchwil i'r meysydd pwnc dan sylw. Mae hyn yn eich galluogi i gael mynediad at yr ymchwil a'r dadansoddiad diweddaraf yn y maes. Rydym hefyd yn defnyddio ein cysylltiadau agos â’r cymunedau polisi perthnasol i sicrhau bod ein haddysgu’n ymgysylltu ag enghreifftiau a senarios bywyd go iawn cyfoes.

Sut y caf fy asesu?

Mae ein haddysgu yn rhoi amrywiaeth o asesiadau i chi adlewyrchu perthnasedd ymarferol wrth ddadansoddi a gwerthuso gwleidyddiaeth a llywodraethiant Cymru. Mae asesiadau'n cynnwys aseiniadau traethawd, cyflwyniadau llafar, briffiau/dadansoddiadau polisi, cyflwyniadau tîm a mwy.

Nid yw tasgau ffurfiannol yn cyfrannu at ddosbarth terfynol eich gradd ond fe'u cynlluniwyd i roi cyfle i chi ddatblygu eich sgiliau ac ymarfer ar gyfer eich asesiadau crynodol.  Maent yn eich galluogi chi a'ch tiwtoriaid i werthuso datblygiad eich sgiliau a'ch cynnydd ym mhob modiwl. Bydd tasgau ffurfiannol fel arfer yn cynnwys gwaith cwrs ysgrifenedig neu brawf dosbarth neu gallant gynnwys cyflwyniadau myfyrwyr unigol, neu drafodaethau dosbarth/grŵp mewn seminarau gydag adborth llafar ffurfiannol gan arweinydd y modiwl.  

Mae asesiadau adolygol yn cyfrannu at ddosbarth terfynol eich gradd. Mae eich canlyniadau yn yr asesiadau hyn yn:

  • penderfynu ar eich dilyniant ffurfiol o Gam 1 i Gam 2 (traethawd hir); ac 
  • yn pennu eich dyfarniad terfynol.

Bydd natur yr asesiadau yng Ngham 1 yn amrywio fesul modiwl, ond fel arfer byddant yn cynnwys gwaith cwrs ysgrifenedig, arholiadau nas gwelwyd cyn yr arholiad neu arholiadau cyn rhyddhau, cyflwyniadau a gall hefyd gynnwys asesiad o'ch ymgysylltiad cyffredinol a'ch cyfranogiad mewn seminarau. Mae asesiad yng Ngham 2 (traethawd hir) yn cynnwys y traethawd hir (hyd at 15,000 o eiriau)

Sut y caf fy nghefnogi?

Byddwn yn eich cefnogi i ddatblygu eich sgiliau ymchwil ac astudio ar draws eich modiwlau a hefyd drwy eich goruchwyliwr traethawd hir.

Bydd eich dysgu’n cael ei gynnal trwy e-ddysgu. Cefnogir pob modiwl gan Dysgu Canolog, sef amgylchedd dysgu rhithwir sydd ar gael ar ac oddi ar y campws, lle byddwch yn cael mynediad i ystod eang o ddeunyddiau ar gyfer eich modiwlau.</p>

Byddwch yn derbyn cymorth academaidd a bugeiliol cyffredinol trwy diwtor personol a lle bo'n briodol bydd eich tiwtor personol yn gallu eich cyfeirio at feysydd eraill o gymorth i fyfyrwyr. Byddwn yn cynnal rhaglen o ddarlithoedd gwadd a sgyrsiau y mae croeso i chi eu mynychu.

Mae Swyddog Anabledd ac Amrywiaeth yn sicrhau bod addasiadau rhesymol yn cael eu gwneud ar gyfer myfyrwyr sydd ag anableddau. Mae’r Brifysgol hefyd yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau i’ch cefnogi, sy’n cynnwys y Gwasanaeth Gyrfaoedd, y Gwasanaeth Cwnsela, y Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia, y Gwasanaeth Cymorth i Fyfyrwyr a llyfrgelloedd gwych gyda llyfrgellwyr pwnc arbenigol a chanolfannau adnoddau. 

Adborth

Mae adborth ar gael ar lafar yn ystod seminarau a byddwch yn derbyn adborth ysgrifenedig ar eich dau asesiad. Bydd adborth unigol yn eich helpu i nodi cryfderau a gwendidau yn eich dysgu, yn ogystal â sut y gallech wella eich perfformiad mewn asesiadau yn y dyfodol. Yn gyffredinol, bydd adborth ysgrifenedig ar gael heb fod yn hwyrach nag 21 diwrnod gwaith o’r dyddiad y cytunwyd arno ar gyfer cyflwyno eich asesiad.

Pa sgiliau y byddaf yn eu hymarfer a’u datblygu?

Erbyn diwedd y rhaglen, byddwch yn gallu:

Gwybodaeth a Dealltwriaeth:

GD 1 Esbonio a thrafod yn feirniadol mewn tasgau ac asesiadau lywodraethu tiriogaethol Cymru, o ran gweithrediad ac esblygiad strwythurau.

GD 2 Asesu’r ffactorau allweddol sydd wedi llunio gwleidyddiaeth ac etholiadau yn y cyd-destun datganoledig yng Nghymru mewn tasgau ac asesiadau. 

GD 3 Trafod a gwerthuso’n feirniadol y themâu craidd sy’n ymwneud â pholisi cyhoeddus mewn cyd-destun datganoledig yng Nghymru, ar draws ymchwil academaidd a dadleuon gwleidyddol cyfoes.

GD 4 Gwerthuso themâu a dadleuon cyfoes ar draws ystod o feysydd pwnc o fewn gwyddor wleidyddol.

GD 5 Dylunio a datblygu traethawd sy’n ffrwyth ymchwil annibynnol sy’n canolbwyntio ar faes Llywodraeth a gwleidyddiaeth Cymru, gan ddefnyddio sgiliau dadansoddi beirniadol a dulliau ymchwil priodol.

Sgiliau Deallusol:

SD 1 Datblygu dadl resymegol, cyfosod gwybodaeth berthnasol ac arfer barn feirniadol mewn ystod o asesiadau.

SD 2 Gwerthuso dulliau gwahanol o gasglu, dadansoddi a chyflwyno gwybodaeth sy’n ymwneud â llywodraeth a gwleidyddiaeth Cymru. 

SD 3 Ymchwilio ac eirioli atebion i broblemau mewn ystod o asesiadau.

SD 4 Asesu dulliau gwahanol o gasglu gwybodaeth wleidyddol am lywodraethiant a gwleidyddiaeth Cymru gan ystyried eu goblygiadau moesegol.

SD 5 Gwerthuso pwnc ymchwil annibynnol o'ch dewis mewn traethawd hir.  

Sgiliau Ymarferol Proffesiynol:

SY 1 Cydweithio ag eraill i gyflawni tasgau a osodwyd.

SY 2 Casglu, trefnu, coladu a gwerthuso tystiolaeth, data a gwybodaeth o amrywiaeth o ffynonellau, gan gynnwys technoleg gwybodaeth a chyfathrebu.

SY 3 Dangos y gallu i fyfyrio ar eich dysgu eich hun a defnyddio adborth yn adeiladol mewn ystod o asesiadau. 

SY 4 Dadansoddi a gwerthuso ystod o dystiolaeth yn feirniadol i lunio barn resymegol ar gyfer traethawd hir.  

Sgiliau Trosglwyddadwy/Allweddol:

SA 1 Rheoli eich datblygiad dysgu eich hun trwy werthuso hunanfeirniadol.

SA 2 Cyfleu syniadau yn effeithiol ac yn rhugl mewn tasgau llafar ac ysgrifenedig.

SA 3 Gweithio’n annibynnol, gan ddangos mentergarwch a’r gallu i drefnu eu hunain a rheoli amser.

SA 4 Cydweithio ag eraill a chyfrannu mewn modd effeithiol at gyflawni nodau cyffredin.

SA 5 Casglu, dadansoddi a gwerthuso tystiolaeth ar gyfer tasgau ymchwil yn annibynnol. 

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2024

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2024/25 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd ol-raddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Costau ychwanegol

Nac oes. 

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Arian

Ysgoloriaethau Meistr

Gwobr sy'n agored i fyfyrwyr sydd â statws ffioedd cartref sy'n bwriadu astudio un o'n graddau meistr a addysgir.

Cynllun Gostyngiad

Mae'r gostyngiad i gynfyfyrwyr ar gael i raddedigion Prifysgol Caerdydd sy'n bwriadu dechrau rhaglen Meistr gymwys yn 2024/25.

Benthyciadau ar gyfer ôl-raddedigion

Os byddwch yn dechrau eich gradd meistr ym mis Medi 2024 neu wedi hynny, efallai y byddwch yn gallu gwneud cais am fenthyciad ar gyfer ôl-raddedigion er mwyn cefnogi eich astudiaethau ym Mhrifysgol Caerdydd.

Gyrfaoedd graddedigion

Mae'r cwrs yn cynnig paratoad delfrydol ar gyfer y rhai sy'n chwilio am yrfa yn sefydliadau llywodraethu datganoledig yng Nghymru ac mewn cyrff cysylltiedig. Ond, yn ogystal â hynny, trwy sicrhau dealltwriaeth ragorol o lywodraeth a llunio polisi yng nghyd-destun llywodraethu aml-lefel, mae’r radd yn agor y ffordd ar gyfer gyrfaoedd mewn ystod eang o feysydd yn ac o gwmpas y lefelau lleol, Cymreig, DU, UE a rhyngwladol o fewn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector. Mae'r pwyslais ar sgiliau ymchwil ac astudio annibynnol hefyd yn golygu y byddwch mewn sefyllfa dda i barhau â'ch astudiaethau academaidd ac ymgymryd â doethuriaeth.

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch ar gyfer gwybodaeth am ein dyddiadau yn 2023.
icon-chat

Gwnewch ymholiad

Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am y cwrs hwn.
icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein prifysgol fyd-eang.
icon-pen

Rhagor o wybodaeth

Pynciau cysylltiedig: International relations, Politics, Welsh


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.