Ewch i’r prif gynnwys

Diwinyddiaeth (MTh)

  • Hyd: Blwyddyn
  • Dull astudio: Amser llawn

Course options See other modes of study
Dyddiad dechrau
calendar

Diwrnod agored

Dysgwch am astudio'n ôl-raddedig yma yn ystod ein Diwrnod Agored nesaf.

Pam astudio’r cwrs hwn

Cewch y cyfle i ddyfnhau eich ymgysylltiad â diwinyddiaeth mewn ffyrdd a fydd yn gwella eich ymarfer, gan eich galluogi i fyfyrio’n feirniadol ar ffydd yn y cyd-destun cyfoes.

tick

Cyfoethogi eich dealltwriaeth ynghylch diwinyddiaeth

Byddwch yn cyfoethogi eich dealltwriaeth o ddiwinyddiaeth fel gweithgaredd gwneud ystyr drwy ymgysylltu â syniadau a dulliau diwinyddol newydd mewn deialog ynghyd â thrwy ymarfer a phrofiad.

mortarboard

Datblygu eich diddordebau

Byddwch yn dilyn eich meysydd o ddiddordeb ac yn teilwra eich astudiaethau i'ch anghenion drwy ddewis modiwlau a chyfleoedd i gyd-greu cwestiynau gyda thiwtoriaid y modiwlau.

molecule

Gwella eich ymarfer proffesiynol

Cewch gyfle i wneud cysylltiadau rhwng eich dealltwriaeth o ddiwinyddiaeth a’ch ymarfer myfyriol.

notepad

Cynllunio eich amserlen

Mae'r addysgu yn digwydd ar wyth diwrnod rheolaidd bob semester, a fydd yn eich galluogi i gynllunio eich bywyd personol a phroffesiynol o amgylch eich astudiaethau.

Drwy ddewis ein rhaglen Diwinyddiaeth (MTh) byddwch yn ymestyn ac yn dyfnhau eich gwybodaeth bresennol am ddiwinyddiaeth Gristnogol a'ch dealltwriaeth o’r maes.

Bydd ein haddysgu a arweinir gan ymchwil mewn dulliau cyfoes ym maes diwinyddiaeth Gristnogol yn eich galluogi i feddwl mewn ffordd ddiwinyddol yn y byd sydd ohoni. Yn ystod eich astudiaethau, byddwch yn datblygu eich ymgysylltiad creadigol a beirniadol â diwinyddiaeth Gristnogol ac yn archwilio cysylltiadau rhwng theorïau cymhleth ac arferion newidiol. Byddwch hefyd yn gallu gwella eich sgiliau ymarfer myfyriol ym maes gweinidogaeth Gristnogol a meysydd ymarfer cysylltiedig, a bydd cyfleoedd i wneud cysylltiadau uniongyrchol rhwng eich astudiaethau a materion sy'n codi yn eich cyd-destun a'ch ymarfer eich hun. 

Ble byddwch yn astudio

Yr Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd

Rydym yn chwilfrydig am brofiadau bodau dynol dros filoedd o flynyddoedd a diwylliannau, ac eisiau deall ein gorffennol yn well er mwyn goleuo ein presennol a gwella ein dyfodol.

  • icon-chatGofyn cwestiwn
  • Telephone+44 (0)29 2087 4929
  • MarkerRhodfa Colum, Caerdydd, CF10 3EU

Meini prawf derbyn

Er mwyn cael eich ystyried am gynnig ar gyfer y rhaglen hon bydd angen i chi fodloni'r holl ofynion mynediad. Ni fydd eich cais yn cael ei ddatblygu os na ddarperir yr wybodaeth a'r dystiolaeth a restrir.

Gyda'ch cais ar-lein, bydd angen i chi ddarparu:

  1. Copi o'ch tystysgrif gradd a'ch trawsgrifiadau sy'n dangos eich bod wedi cyflawni gradd anrhydedd 2:2 mewn maes pwnc perthnasol megis astudiaethau crefyddol, diwinyddiaeth, neu radd ryngwladol gyfatebol. Os yw eich tystysgrif gradd neu ganlyniad yn yr arfaeth, llwythwch unrhyw drawsgrifiadau dros dro neu dystysgrifau dros dro.
  2. copi o'ch tystysgrif IELTS gyda sgôr gyffredinol o 6.5 gyda 6.0 ym mhob is-sgil, neu dystiolaeth o gymhwyster cyfatebol derbyniol. Dylech gynnwys dyddiad eich prawf disgwyliedig os yw'r cymhwyster hwn yn yr arfaeth. Os oes gennych dystiolaeth dderbyniol amgen, fel gradd israddedig a astudir yn y DU, rhowch hyn yn lle IELTS.

Os nad oes gennych radd mewn maes perthnasol, gellir ystyried eich cais ar sail eich profiad proffesiynol a/neu dystiolaeth o astudiaeth ddiwinyddol mewn perthynas â gweinidogaeth broffesiynol. Rhowch dystiolaeth ychwanegol i gefnogi'ch cais megis cyfeiriadau cyflogwr wedi'u llofnodi a'u dyddio.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau
Rydym yn dyrannu lleoedd ar sail y cyntaf i'r felin, felly rydym yn argymell eich bod yn gwneud cais cyn gynted â phosibl. Fel arfer, bydd ceisiadau'n cau ddiwedd mis Awst ond gallant gau'n gynt os llenwir pob lle.

Broses ddethol
Byddwn yn adolygu eich cais ac os ydych yn bodloni'r holl ofynion mynediad, byddwn yn gwneud cynnig i chi.

Rhagor o wybodaeth am ofynion Iaith Saesneg.

Mae'n rhaid i ymgeiswyr sydd angen Fisa myfyriwr i astudio yn y DU gyflwyno cymhwyster iaith Saesneg derbyniol er mwyn bodloni gofynion UKVI (Fisâu a Mewnfudo y DU).

Euogfarnau troseddol

Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.

Os ydych ar hyn o bryd yn destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau eich astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu eich cofnod troseddol. Mae amodau yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • mynediad i gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
  • defnydd o'r rhyngrwyd ac offer/dyfeisiau cyfathrebu
  • cyrffyw
  • rhyddid i symud, gan gynnwys y gallu i deithio i'r tu allan i'r DU neu i ymgymryd â lleoliad/astudiaethau y tu allan i Brifysgol Caerdydd
  • cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.

Strwythur y cwrs

Mae'r rhaglen ran-amser hon yn para dwy flynedd a hanner.

Yn ystod y flwyddyn gyntaf, byddwch yn dilyn tri modiwl, un craidd a dau fodiwl dewisol. Yn ystod yr ail flwyddyn, byddwch yn dilyn tri modiwl dewisol. Ar bob adeg, bydd arweinydd y rhaglen a/neu eich tiwtor personol yn eich tywys trwy eich opsiynau o ran modiwlau dewisol.  Ar ôl i chi gwblhau'r chwe modiwl a addysgir yn llwyddiannus, byddwch yn symud ymlaen i'r traethawd estynedig, sef darn hirach o waith sydd i'w gwblhau gyda chymorth goruchwyliwr arbenigol, a'i gyflwyno ym mis Rhagfyr.   

Mae'r modiwlau a ddangosir yn enghraifft o'r cwricwlwm nodweddiadol. Bydd modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi fis cyn i'ch rhaglen ddechrau.

Blwyddyn un

Yn ystod y semester cyntaf, byddwch yn dilyn modiwl craidd a fydd yn eich cyflwyno i ystod o ddulliau ymchwil ym maes astudiaethau diwinyddol. Er bod y ffocws ar ddatblygu dealltwriaeth uwch o wahanol ddulliau ym maes ymholi diwinyddol, rydym yn cydnabod y bydd rhai myfyrwyr yn ymuno â'r cwrs MTh ar ôl seibiant o astudiaethau academaidd, felly bydd y modiwl hwn hefyd yn eich cefnogi i ddatblygu sgiliau astudio ar lefel Meistr. I'r rhai sy'n ymuno’n uniongyrchol o astudiaethau israddedig, mae hyn yn gyfle i fyfyrio ar y sgiliau a ddatblygwyd ganddynt a'u hatgyfnerthu.

Yna byddwch yn cwblhau pum modiwl dewisol, a ddewisir o blith y rhai sydd ar gael y flwyddyn honno. Dilynir dau o'r o’r modiwlau hyn yn y semester cyntaf, a thri yn yr ail. Gall un modiwl fod yn astudiaeth annibynnol, o dan oruchwyliaeth un o'n tiwtoriaid arbenigol. Bydd y modiwlau eraill yn cynnig y cyfle ichi archwilio ystod o ddulliau cyfoes o ymdrin ag ymholi diwinyddol, megis y berthynas rhwng ffydd a diwylliant, dulliau cymdeithasegol o ymdrin ag astudiaethau beiblaidd, diwinyddiaethau rhyddhau, a'r berthynas rhwng diwinyddiaeth ac ymarfer. Bydd arweinydd y rhaglen a/neu eich tiwtor personol yn eich tywys trwy’r opsiynau o ran modiwlau dewisol.

Ar ôl i chi gwblhau'r cam a addysgir yn llwyddiannus, byddwch yn symud ymlaen i'r traethawd estynedig. Er na fyddwch yn dechrau'r traethawd estynedig yn ffurfiol nes eich bod wedi cwblhau'r cam a addysgir, byddwn yn eich annog a'ch cefnogi wrth gynllunio a pharatoi ar ei gyfer o ddechrau'r cwrs.

Blwyddyn dau

Yn ystod yr ail flwyddyn byddwch yn cwblhau cam a addysgir y rhaglen – drwy ddilyn tri modiwl dewisol pellach o blith y rhai sydd ar gael.

Ar ôl i chi gwblhau'r cam a addysgir yn llwyddiannus, byddwch yn symud ymlaen i'r traethawd estynedig, sef darn hirach o waith sydd i'w gwblhau dros yr haf gyda chefnogaeth goruchwyliwr arbenigol, ac sydd i’w gyflwyno ym mis Rhagfyr y drydedd flwyddyn. Er na fyddwch yn dechrau'r traethawd estynedig yn ffurfiol nes y byddwch wedi cwblhau'r cam a addysgir, rydym yn eich annog a'ch cefnogi i gynllunio a pharatoi ar ei gyfer o ddechrau'r cwrs.     

Blwyddyn tri

Byddwch yn treulio’r drydedd flwyddyn yn cwblhau eich traethawd estynedig ac yn paratoi ar gyfer ei gyflwyno ym mis Rhagfyr. Byddwch yn cael eich cefnogi gan eich goruchwyliwr drwy gydol y broses hon. 

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Sut y caf fy addysgu?

Cyflwynir yr ymchwil a'r addysgu a arweinir gan ymarfer gan academyddion yng Ngholeg y Bedyddwyr Caerdydd. Mae’r modiwlau yn seiliedig ar gryfderau sefydledig ym maes astudiaethau Beiblaidd ac mewn ffyrdd ymarferol a chyd-destunol o ymdrin â diwinyddiaeth.

Byddwch hefyd yn elwa ar eu hymrwymiad i arfer diwinyddiaeth mewn ffyrdd sy'n ymwneud ag ymarfer a chyd-destun. Mae hyn yn sicrhau bod trylwyredd academaidd yn cael ei gyfuno â pherthnasedd ymarferol. Bydd profiad eich tiwtoriaid o ymarfer proffesiynol yn y weinidogaeth hefyd yn llywio'ch addysgu. Yn ogystal â sgiliau ymarfer myfyriol diwinyddol, bydd hyn yn eich helpu i ddatblygu eich gwybodaeth a'ch dealltwriaeth ddiwinyddol mewn ffyrdd sy'n ymwneud â bywyd a chyd-destunau cyfoes.  

Mae'r addysgu’n digwydd mewn grwpiau bach, ac fel arfer defnyddir darlith-seminarau rhyngweithiol.  

Sut y caf fy asesu?

Mae’r asesiadau wedi'u cynllunio i adlewyrchu'r ffocws deublyg o ddyfnhau eich dealltwriaeth ddiwinyddol ynghyd â gwella'ch ymarfer. Er nad oes arholiadau, defnyddir dulliau amrywiol o asesu, a all gynnwys cyflwyniadau, cynigion ymchwil, adolygiadau o lenyddiaeth, dehongliadau Beiblaidd, myfyrio diwinyddol, a thraethodau traddodiadol.

Mae llawer o'r asesiadau yn eich gwahodd i gysylltu eich dealltwriaeth ddiwinyddol â'ch ymarfer (pan fo'n briodol) ac â'r cyd-destun cyfoes mewn rhyw ffordd. Yn aml ceir cyfle i gyd-greu aseiniad mewn trafodaeth gyda thiwtor y modiwl; a gellir cynllunio'r asesiad ar gyfer y prosiect dysgu annibynnol ar gyfer ffocws penodol, ee portffolio o bregethau gyda sylwebaeth a dadansoddiad beirniadol. Yn y modd hwn, gellir sicrhau bod eich holl ddysgu yn berthnasol i'ch sefyllfa  benodol chi.

Bydd y sgiliau academaidd a gaiff eu datblygu a'u mireinio drwy'r asesiadau hyn yn ddefnyddiol ar gyfer astudiaethau ac ymchwil academaidd pellach, ac fel sgiliau trosglwyddadwy ar gyfer ystod o gyd-destunau proffesiynol. Mae'r rhain yn cynnwys y sgiliau o ymchwilio i bwnc drwy chwiliadau llenyddiaeth, ymgysylltu’n ofalus ac yn greadigol â thestunau, dadansoddi’n feirniadol, a chyflwyno dadl gydlynol a pharhaus.   

Sut y caf fy nghefnogi?

Bydd amgylchedd bach, cyfeillgar Coleg y Bedyddwyr Caerdydd ar gael i chi, ynghyd â'r ystod lawn o gymorth sydd ar gael i bob myfyriwr ym Mhrifysgol Caerdydd.

Bydd tiwtor personol yn cael ei ddyrannu i chi, a fydd fel arfer yn un o'r tiwtoriaid ar y rhaglen. Mae arweinydd y rhaglen hefyd ar gael fel ffynhonnell o gymorth a chyngor.

Rydym yn cydnabod bod nifer o fyfyrwyr sy'n astudio ar y cwrs MTh Diwinyddiaeth yn dychwelyd i astudiaethau academaidd ar ôl seibiant. Mae'r modiwl cychwynnol, craidd ar y rhaglen – er ei fod yn canolbwyntio'n bennaf ar ddulliau ymchwil – yn cynnwys sesiynau sy'n helpu i ddatblygu'r sgiliau sydd eu hangen arnoch i weithio ar lefel gradd meistr. Mae'r asesiad ar gyfer y modiwl hwn mewn dwy ran, felly byddwch yn cael adborth ar eich darn cyntaf o waith yn eithaf cyflym. Mae'r holl fodiwlau yn cynnwys asesiad ffurfiannol yn ogystal ag asesiad crynodol. Mae hynny'n golygu y cewch adborth arbenigol ar waith cyn y daw’n bryd i chi gyflwyno aseiniad i gael ei farcio'n ffurfiol. Cewch adborth manwl ar yr holl waith rydych chi'n ei gyflwyno, a fydd yn esbonio pam y cawsoch y marc a roddwyd i chi a'r hyn y mae angen i chi ei wneud i wella. 

Pa sgiliau y byddaf yn eu hymarfer a’u datblygu?

Mae deilliannau dysgu’r rhaglen hon yn disgrifio'r hyn y byddwch wedi’i gyflawni erbyn diwedd eich rhaglen ym Mhrifysgol Caerdydd, ac yn nodi'r wybodaeth a'r sgiliau y byddwch yn eu datblygu. Byddant hefyd yn eich helpu i ddeall yr hyn a ddisgwylir gennych.

O gwblhau’r rhaglen yn llwyddiannus, byddwch yn gallu gwneud y canlynol:

Gwybodaeth a dealltwriaeth:

  • Cymhwyso dealltwriaeth ddofn a systematig o wybodaeth ddiwinyddol i gwestiynau cymhleth.
  • Addasu methodolegau diwinyddol uwch yn greadigol  mewn ymateb i sefyllfaoedd sy'n newid.
  • Syntheseiddio dulliau arbenigol o astudio diwinyddol mewn cyd-destunau anrhagweladwy. 
  • Gwerthuso'n feirniadol y dulliau cyfredol mewn diwinyddiaeth, gan fod yn effro i faterion ymyleiddio wrth gynhyrchu gwybodaeth ddiwinyddol.

Sgiliau deallusol:

  • Arddangos sgiliau soffistigedig o ddadansoddi ffynonellau cynradd ac eilaidd.
  • Dangos hyblygrwydd deallusol a phwerau gwerthuso drwy gwblhau astudiaethau ac ymchwil annibynnol.
  • Ymateb yn systematig ac yn greadigol i faterion cymhleth.
  • Penderfynu rhwng gwahanol ddulliau methodolegol o ymdrin â chwestiynau cymhleth. 

Sgiliau ymarferol proffesiynol:

  • Defnyddio sgiliau uwch o gyfathrebu, rheoli gwybodaeth a myfyrio’n feirniadol. 
  • Esbonio'n feirniadol, dadansoddi a gwerthuso materion allweddol a cdilemâu sy'n codi mewn cyd-  destunau penodol  yn y gymdeithas gyfoes (ee eglwysi, elusennau, byd addysg).
  • Dangos meddylfryd atblyg mewn perthynas â'r ffordd yr ydych chi’ch hun yn cymryd rhan mewn ymchwil academaidd a/neu ymarfer proffesiynol.
  • Defnyddio sgiliau uwch o fyfyrio ar ymarfer yng ngwasanaeth eich gweinidogaeth a/neu eich gwaith.

Sgiliau trosglwyddadwy/allweddol:

  • Dangos menter, annibyniaeth a chreadigrwydd wrth ddatrys problemau.
  • Gwneud penderfyniadau  gwybodus yng nghanol  ansicrwydd a newid. 
  • Cyfleu syniadau cymhleth yn glir ac yn briodol ar gyfer cynulleidfaoedd arbenigol ac anarbenigol. 

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2025

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Nid yw ffioedd ar gyfer mynediad 2025/26 ar gael eto

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd ol-raddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26.

Costau ychwanegol

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Arian

Benthyciadau ar gyfer ôl-raddedigion

Os byddwch yn dechrau eich gradd meistr ym mis Medi 2025 neu wedi hynny, efallai y byddwch yn gallu gwneud cais am fenthyciad ar gyfer ôl-raddedigion er mwyn cefnogi eich astudiaethau ym Mhrifysgol Caerdydd.

Cynllun Gostyngiad

Mae'r gostyngiad i gynfyfyrwyr ar gael i raddedigion Prifysgol Caerdydd sy'n bwriadu dechrau rhaglen Meistr gymwys yn 2025/26.

Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith

Mae ein rhaglen Diwinyddiaeth (MTh) wedi’i chynllunio a'i haddysgu gan bobl sydd â phrofiad o ymarfer proffesiynol yn y weinidogaeth Gristnogol ac sy’n ymwneud yn barhaus ag ymarfer proffesiynol. Mae wedi ei gwreiddio yn realiti a chymhlethdodau materion sy'n wynebu eglwysi heddiw. Caiff modiwlau eu haddysgu mewn ffordd sy'n adlewyrchu'r cyd-destun hwnnw, a bydd yr asesiadau yn eich annog i wneud cysylltiadau rhwng theorïau ac ymarfer.

Mae hon yn rhaglen ddelfrydol ar gyfer gwella eich ymarfer proffesiynol yn y weinidogaeth Gristnogol, p'un a yw hyn yn rhywbeth yr ydych eisoes yn cymryd rhan ynddo neu'n paratoi ar ei gyfer yn y dyfodol. Beth bynnag yw natur eich cyflogaeth bresennol neu yn y dyfodol, bydd y rhaglen yn datblygu sgiliau gwerthfawr a fydd yn cyfoethogi eich ymarfer proffesiynol, sef creadigrwydd a gwreiddioldeb, hunan-gymhelliant a meddylfryd atblyg, ymateb i adborth, rheoli ansicrwydd, dadansoddi problemau o wahanol safbwyntiau, cyfleu syniadau cymhleth, a'r gallu i fyfyrio ar gyfrifoldebau cymdeithasol, moesegol ac amgylcheddol.

Mae ein rhaglen Diwinyddiaeth (MTh) wedi’i chynllunio a'i haddysgu gan bobl sydd â phrofiad o ymarfer proffesiynol yn y weinidogaeth Gristnogol ac sy’n ymwneud yn barhaus ag ymarfer proffesiynol. Mae wedi ei gwreiddio yn realiti a chymhlethdodau materion sy'n wynebu eglwysi heddiw. Caiff modiwlau eu haddysgu mewn ffordd sy'n adlewyrchu'r cyd-destun hwnnw, a bydd yr asesiadau yn eich annog i wneud cysylltiadau rhwng theorïau ac ymarfer.

Mae hon yn rhaglen ddelfrydol ar gyfer gwella eich ymarfer proffesiynol yn y weinidogaeth Gristnogol, p'un a yw hyn yn rhywbeth yr ydych eisoes yn cymryd rhan ynddo neu'n paratoi ar ei gyfer yn y dyfodol. Beth bynnag yw natur eich cyflogaeth bresennol neu yn y dyfodol, bydd y rhaglen yn datblygu sgiliau gwerthfawr a fydd yn cyfoethogi eich ymarfer proffesiynol, sef creadigrwydd a gwreiddioldeb, hunan-gymhelliant a meddylfryd atblyg, ymateb i adborth, rheoli ansicrwydd, dadansoddi problemau o wahanol safbwyntiau, cyfleu syniadau cymhleth, a'r gallu i fyfyrio ar gyfrifoldebau cymdeithasol, moesegol ac amgylcheddol.     

Lleoliadau

Bydd myfyrwyr sy'n astudio'r rhaglen fel rhan o ffurfio gweinidogion yng Ngholeg y Bedyddwyr Caerdydd yn gallu cysylltu eu hastudiaethau â lleoliad a gefnogir gan y coleg. 

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch am wybodaeth am ein dyddiadau sydd i ddod.
icon-chat

Gwnewch ymholiad

Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am y cwrs hwn.
icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein prifysgol fyd-eang.
icon-pen

Rhagor o wybodaeth

Pynciau cysylltiedig: Religion and theology


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.