Ewch i’r prif gynnwys

Ymchwil yn yr Ysgol Ieithoedd Modern

Mae'r Ysgol Ieithoedd Modern yn gartref i grŵp o ymchwilwyr y mae eu diddordebau'n rhychwantu deg o feysydd iaith gwahanol gyda phwyslais cryf ar ddimensiynau trawswladol materion diwylliannol, cymdeithasol a gwleidyddol cyfoes.

Mae gwaith ein hymchwilwyr yn cwmpasu amrywiaeth eang o ddisgyblaethau, yn cynnwys astudiaethau llenyddol a gweledol, cyfieithu, amlieithrwydd, theori gritigol, astudiaethau'r cof, hanes, mudiadau cymdeithasol a gwleidyddiaeth a llunio polisïau.

Themâu ein hymchwil

Mae ein gwaith wedi'i drefnu o gylch tri grŵp thematig allweddol, sydd oll yn cyflwyno digwyddiadau ymchwil rheolaidd.

Mae recordiadau o'n digwyddiadau thema ymchwil blaenorol o fis Hydref 2020 ymlaen ar gael i'w gwylio ar sianel YouTube yr Ysgol. Gwelwch ein rhestr chwarae digwyddiadau thema ymchwil.

Old photos

Hanes a threftadaeth

Mae'r thema drawsddisgyblaethol hon yn dod ag ymchwilwyr at ei gilydd sy'n archwilio'r gorffennol a'i waddol yn feirniadol.

Woman With Smartphone stood in Tokyo

Astudiaethau ardal byd-eang seiliedig ar iaith

Rydym ni'n astudio gwleidyddiaeth, cymdeithas, ieithoedd a diwylliannau ardaloedd - yn cynnwys Ewrop, Affrica, Tsieina ac America Ladin.

Instant portraits of peope

Astudiaethau diwylliannol a gweledol trawswladol

Yn benodol rydym ni'n edrych ar sut caiff cynhyrchion diwylliannol, fel cyfieithiadau, ffilmiau a chelf weledol eu cynhyrchu, eu cylchredeg a'u derbyn.

Ymchwil ryngddisgyblaethol

Mae llawer o'n hymchwil yn rhyngddisgyblaethol gyda nifer o'n prosiectau'n denu cefnogaeth gan gyrff cyllido sy'n cynnwys Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau, y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol, Ymddiriedolaeth Leverhulme, Llywodraeth Cymru a'r Undeb Ewropeaidd.

Mae gennym ymrwymiad cryf i effaith ein hymchwil: mae hyn yn cynnwys gwaith gydag ysgolion i hyrwyddo dysgu iaith, darparu cyngor i gyrff cymdeithas sifil, partneriaethau gyda sefydliadau diwylliannol, a chydweithio gyda chyrff cymdeithasol a diwylliannol ar lawr gwlad, yma yng Nghymru ac yn rhyngwladol.

Ni hefyd sy'n cynnal y cyfnodolyn mynediad agored ar-lein New Readings, a gyhoeddir gan Wasg Prifysgol Caerdydd.

Ymchwil Ddoethurol ac ôl-ddoethurol

Rydym yn cynnig amgylchedd bywiog i ymchwilwyr ôl-raddedig ac ymchwilwyr gyrfa gynnar, yn ogystal â chroesawu ymchwilwyr allanol drwy ein Rhaglen Ysgolheigion Gwadd.

Rydym yn croesawu ymchwilwyr ôl-ddoethurol a gefnogir gan amrywiol gyllidwyr, yn cynnwys Ymddiriedolaeth Leverhulme, cynllun Cymrodoriaeth Marie Skłodowska-Curie yr Undeb Ewropeaidd a'r Academi Brydeinig.