Ieithyddiaeth Fforensig (MA)
- Hyd: Blwyddyn
- Dull astudio: Amser llawn
Diwrnod agored
Dysgwch am astudio'n ôl-raddedig yma yn ystod ein Diwrnod Agored nesaf.
Pam astudio’r cwrs hwn

Cewch hyfforddiant ochr yn ochr ag arbenigwyr rhyngwladol yn y Ganolfan Ymchwil Iaith a Chyfathrebu sy’n gosod yr agenda, cartref MA cyntaf y byd mewn Ieithyddiaeth Fforensig.
Pennu Agenda
Cewch eich hyfforddi gan arbenigwyr rhyngwladol, ar raglen radd meistr fforensig hynaf y byd.
Cydweithio ar brosiectau o’r byd go iawn
Cyfle i weithio ar brosiectau maes o’r byd go iawn a mireinio eich galluoedd ymchwil a'ch sgiliau gweithio mewn tîm.
Cyfiawnder, tegwch a chydraddoldeb
Cewch archwilio rôl yr ieithydd yn y system gyfreithiol, ac arsylwi trefn y llys.
Wedi’i theilwra i’ch gyrfa
Rhyddid i deilwra'r rhaglen i asio â’ch dyheadau gyrfaol a phroffesiynol.
Mae ein rhaglen MA Ieithyddiaeth Fforensig arloesol yn rhoi’r theori a’r technegau sydd eu hangen arnoch i ddadansoddi defnydd iaith mewn cyd-destunau cyfreithiol, gwerthuso tystiolaeth arbenigol ar faterion fforensig yn feirniadol ac ystyried rôl arbenigedd mewn systemau cyfreithiol mewn ffordd fwy cyffredinol.
Gan archwilio materion sy’n ymwneud â chyfiawnder, tegwch a chydraddoldeb yn y gyfraith, bydd y rhaglen hon yn eich cyflwyno i agweddau ieithyddol y system cyfiawnder troseddol, gan gynnwys plismona a’r ystafell llys.
Byddwch yn craffu ar waith llygad dystion arbenigol ac ymgynghorwyr ieithyddol ar iaith a chyfraith. Gan ystyried rôl yr ieithydd yn y system gyfreithiol, byddwch yn archwilio effaith ieithyddiaeth ar ymchwiliadau troseddol. Yn wir, byddwch chi’n cynnal arsylwad ethnograffig o achosion llys yn Llys y Goron Caerdydd yn rhan o’ch modiwl craidd.
Wedi’i osod yn ein canolfan ymchwil o’r radd flaenaf, mae’r MA mewn Ieithyddiaeth Fforensig yn cynnig sylfaen gadarn yn y pwnc, a’r rhyddid i deilwra’r rhaglen o amgylch eich dyheadau o ran gyrfa.
Trwy gydol eich gradd fe gewch chi gefnogaeth gan arbenigwyr rhyngwladol cydnabyddedig, gyda’u hangerdd dros addysgu ac ymchwil yn meithrin amgylchedd academaidd bywiog a chyfeillgar.
Mae ein harbenigwyr yn arwain ar brosiectau arloesol mewn nifer o feysydd gwahanol, gan gynnwys caffael iaith, sosioieithyddiaeth, ieithyddiaeth hanesyddol, dadansoddi disgwrs, cyfathrebu proffesiynol, ieithyddiaeth corpws, ieithyddiaeth swyddogaethol systemig ac ieithyddiaeth fforensig, gan gynnal ystod o grwpiau darllen ac ymchwil yn y meysydd ymchwil hyn.
Gan feithrin arena academaidd rhyngwladol ar gyfer ymchwil arloesol, rydym yn cynnal trafodaethau gan academyddion gwadd o bob rhan o’r byd, yn ogystal â phreswylfeydd ymchwil uwch ac ysgolion haf achlysurol. Yn ystod eich astudiaethau, byddwch yn elwa ar yr amgylchedd ymchwil llewyrchus hwn a chefnogaeth gan ystod eang o weithwyr proffesiynol a fydd yn arwain eich datblygiad personol a phroffesiynol.
Mae Iaith Saesneg yng Nghaerdydd ymhlith y 100 gorau yn y byd (Rhestr QS o Brifysgolion Gorau’r Byd yn ôl Pwnc 2020) ac ymhlith y deg uchaf ar gyfer ymchwil yn y DU (Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014).
Ble byddwch yn astudio
Yr Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth
Wedi ein pweru gan ymchwil arloesol, rydym yn dathlu chwilfrydedd, yn ymgysylltu mewn trafodaethau gwybodus a dadansoddi beirniadol ac yn eich annog i feddwl yn greadigol - ar draws a thu hwnt i'n disgyblaethau.
Meini prawf derbyn
Academic requirements:
Typically, you will need to have either:
- a 2:1 honours degree in a relevant subject area such as linguistics, English language, English language & literature (combined), modern languages, law, forensic psychology, criminology, sociology with defined criminology pathway or an equivalent international degree
- a university-recognised equivalent academic qualification
No legal background will be assumed.
English Language requirements:
IELTS with an overall score of 7.0 with at least 6.5 in all other subskills.
Application deadline:
We allocate places on a first-come, first-served basis, so we recommend you apply as early as possible.
Selection process:
We will review your application and if you meet the entry requirements, we will invite you to an interview in person or online.
Rhagor o wybodaeth am ofynion Iaith Saesneg.
Mae'n rhaid i ymgeiswyr sydd angen Fisa myfyriwr i astudio yn y DU gyflwyno cymhwyster iaith Saesneg derbyniol er mwyn bodloni gofynion UKVI (Fisâu a Mewnfudo y DU).
Euogfarnau troseddol
You are not required to complete a DBS (Disclosure Barring Service) check or provide a Certificate of Good Conduct to study this course.
If you are currently subject to any licence condition or monitoring restriction that could affect your ability to successfully complete your studies, you will be required to disclose your criminal record. Conditions include, but are not limited to:
- access to computers or devices that can store images
- use of internet and communication tools/devices
- curfews
- freedom of movement
- contact with people related to Cardiff University.
Strwythur y cwrs
Mae'r MA mewn Ieithyddiaeth Fforensig yn rhaglen fodiwlaidd.
Rydych chi'n cymryd dwy flynedd i gwblhau’r rhaglen Feistr, gan gymryd tri modiwl yn ystod pob un o’r ddwy flynedd. Ar ôl cwblhau'r cam a addysgir, byddwch yn symud ymlaen i ymchwilio ac ysgrifennu eich traethawd hir (rhwng mis Mai a mis Ionawr)
Mae cam un yn cynnwys modiwlau a addysgir ac mae cam dau yn cynnwys traethawd hir 15,000-20,000 o eiriau. Asesir y gydran a addysgir drwy waith cwrs yn unig.
Mae'r rhaglen fodiwlaidd ran-amser yn cynnwys dilyn yr un modiwlau dros ddwy flynedd gyda'r traethawd hir yn cael ei gwblhau rhwng mis Mai a mis Ionawr.
Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2023/24. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2023.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Forensic Linguistics I | SET001 | 20 credydau |
Forensic Linguistics 2 | SET002 | 20 credydau |
Research Foundations in Language and Communication | SET030 | 20 credydau |
Dissertation | SET015 | 60 credydau |
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Discourse and Social Interaction | SET005 | 20 credydau |
Current Issues in Sociolinguistics | SET006 | 20 credydau |
Qualitative Research Methods | SET012 | 20 credydau |
Quantitative Research Methods | SET013 | 20 credydau |
Phonetics and Phonology | SET033 | 20 credydau |
Research Experience in Forensic Linguistics | SET035 | 20 credydau |
Systemic Functional Grammar | SET038 | 20 credydau |
Public and Professional Discourse | SET041 | 20 credydau |
Corpus Linguistics | SET042 | 20 credydau |
Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.
Dysgu ac asesu
Sut y caf fy addysgu?
Caiff gwybodaeth a dealltwriaeth graidd eu cyflwyno drwy ddarlithoedd a seminarau grwpiau bach.
Mae'r addysgu ar gyfer modiwlau craidd yn cyfuno trafod materion damcaniaethol a heriau ymarferol a godwyd gan y lleoliad fforensig, ac mae’r addysgu ar gyfer modiwlau dewisol yn darparu trafodaeth ddamcaniaethol bellach, gan ganolbwyntio rhywfaint ar ddatblygu sgiliau ymchwil ymarferol. Mae'n rhaid i chi baratoi’n dda ar gyfer sesiynau.
Mae gwybodaeth a dealltwriaeth graidd hefyd yn cael eu darparu drwy oruchwyliaeth un-i-un neu grŵp bach iawn ar gyfer prosiectau unigol.
Mae Sgiliau Deallusol yn cael eu hyrwyddo drwy ddarlithoedd, seminarau a thrafodaethau grŵp, yn ogystal â goruchwyliaeth mewn grwpiau bach ac arweiniad ar gyfer ymchwil a wneir mewn prosiect ymchwil tîm bach.
Mae'r gweithgareddau dysgu'n amrywio o un modiwl i’r llall fel y bo'n briodol. Ond, fel rheol, byddant yn cynnwys trafodaethau rhyngweithiol ar destunau/pynciau wedi'u paratoi ac, mewn rhai achosion, cyflwyniadau wedi'u harwain gan fyfyrwyr.
Fe’ch anogir i wneud yn fawr o’n hadnoddau llyfrgell rhagorol, a disgwylir i chi baratoi, er enghraifft drwy ddarllen yn eang er mwyn gallu cymryd rhan lawn.
Sut y caf fy asesu?
Bydd y rhaglen yn cael ei hasesu drwy ddulliau fel traethodau, dadansoddi data, adolygiadau beirniadol, posteri a chyflwyniad llafar. Wrth asesu, rhoddir pwyslais ar soffistigeiddrwydd beirniadol a chysyniadol yn ogystal ag ar gynhyrchu gwaith clir, argyhoeddiadol ac ysgolheigaidd wedi’i gyflwyno mewn modd proffesiynol ac ar amser.
Cynigir gwaith ffurfiannol ar gyfer un o'r modiwlau, lle gallwch ymgymryd â ffurfiau asesu a allai fod yn newydd i chi. Mae modiwlau eraill yn cynnig cyfres o aseiniadau gyda'r bwriad penodol y gallech ddysgu'n gynyddol. Mewn man arall, fe'ch anogir i ymgynghori ag arweinydd y modiwl perthnasol i drafod y prif syniadau a'r cynllun ar gyfer eich aseiniadau.
Caiff modiwlau eu hasesu ar sail disgrifiadau dadansoddol o destunau neu gyfryngau eraill a/neu draethodau disgyrsiol. Byddwch yn cael eich annog i ddewis eich testunau eich hun i'w dadansoddi, neu hyd yn oed i gasglu data gwreiddiol, ac i gysylltu eich dadansoddiadau â meysydd o ddiddordeb neu brofiadau personol.
Sut y caf fy nghefnogi?
Bydd Cydlynydd y Cwrs ar gyfer yr MA mewn Ieithyddiaeth Fforensig yn bwynt cyswllt i bob myfyriwr drafod problemau os bydd rhai’n deillio o'r cwrs.
Yn ogystal, byddwch yn cael Tiwtor Personol. Byddwch yn cael eich annog i ymgynghori â’ch tiwtor personol am bynciau o ddewis modiwlau i adolygu adborth ar waith a phenderfyniadau gyrfaoedd.
Mae pob aelod o staff yn gweithio oriau swyddfa wythnosol yn ystod wythnosau addysgu a gall myfyrwyr wneud apwyntiadau un-i-un i weld eu Tiwtor Personol ac Arweinwyr Modiwlau ynghylch unrhyw faterion. Gellir cysylltu â staff hefyd drwy ebost. Mae manylion oriau swyddfa a chyfeiriadau ebost staff yn cael eu darparu.
Adborth
Fe'ch anogir yn benodol i drafod eich adborth ar eich gwaith a aseswyd â’ch Tiwtor Personol er mwyn myfyrio ar eich dysgu a mynegi meysydd i'w gwella mor glir â phosibl.
Cynigir trafod aseiniadau a rhoddir adborth ysgrifenedig ar asesiadau crynodol.
Pa sgiliau y byddaf yn eu hymarfer a’u datblygu?
Mae nifer o’r deilliannau dysgu yn cynnwys sgiliau ymarfer y mae modd eu trosglwyddo i nifer o feysydd cyflogaeth.
Hefyd, byddwch yn ymarfer ac yn datblygu'r gallu i wneud y canlynol:
- cyfathrebu’n effeithiol ag eraill yn ysgrifenedig, ar lafar a drwy ddulliau eraill;
- meddwl yn ofalus ac yn systematig am broblemau;
- cyfosod amrywiaeth o wybodaeth yn effeithlon;
- defnyddio ffynonellau gwybodaeth electronig a ffynonellau gwybodaeth eraill fel y bo'n briodol ar gyfer ystod o dasgau;
- cynllunio a rheoli amser yn effeithiol;
- cymryd cyfrifoldeb dros eich rhaglen ddysgu a’ch datblygiad proffesiynol eich hun.
Byddwch yn datblygu sgiliau ymarferol drwy gyflwyniadau a thrafodaethau mewn seminarau, gweithdai ar ddatblygu sgiliau trawsgrifio, gwneud cyflwyniadau a chyflwyniadau poster a gwaith prosiect grŵp.
Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2023
Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.
Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd
Ffioedd am statws cartref
Blwyddyn | Ffioedd Dysgu | Blaendal |
---|---|---|
Blwyddyn un | £9,700 | Dim |
Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir
Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2023/24 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.
Ffioedd am statws ynys
Dysgwch ragor am ffioedd ol-raddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.
Ffioedd am statws tramor
Blwyddyn | Ffioedd Dysgu | Blaendal |
---|---|---|
Blwyddyn un | £20,450 | £2,000 |
Rhagor o wybodaeth am ffioedd dysgu a blaendaliadau, gan gynnwys ar gyfer myfyrwyr rhan-amser a pharhaus.
Cymorth ariannol
Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.
Costau ychwanegol
Costau byw
Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.
Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith
Mae graddedigion o’r rhaglen hon yn dilyn gyrfaoedd mewn meysydd sy’n cynnwys plismona, y llysoedd a’r Llywodraeth a meysydd perthnasol, gyda rhai yn dewis astudiaethau pellach megis PhD neu radd yn y gyfraith. Mae nifer yn defnyddio’u ffocws ieithyddol a chyfreithiol i ddilyn gyrfaoedd y tu hwnt i faes y gyfraith lle mae sgiliau ieithyddol uwch yn gaffaeliad mawr.
Ar draws yr Ysgol, mae ein hôl-raddedigion yn defnyddio eu sgiliau newydd ar draws sbectrwm eang o broffesiynau, yn arbennig yn y cyfryngau ac economïau creadigol, addysg a’r sectorau iechyd. O’r sector cyhoeddus i’r sector preifat, rydym yn hwyluso gyrfaoedd mewn ystod eang o feysydd.
Roedd 86% o raddedigion yr Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth mewn cyflogaeth neu astudiaethau pellach o fewn chwe mis i raddio (DLHE 2016/17).
Lleoliadau
Mae'r modiwl Profiad Ymchwil yn cynnig cyfle i weithio gydag aelod o staff ar dasg ymchwil barhaus a dilys fel rhan o astudiaeth ymchwil fwy. Mae hwn yn fath arbennig o astudio ac mae'n cynnig cyfle i gael profiad ymchwil ymarferol ac i fyfyrio'n systematig ar y profiad hwnnw. Bydd canfyddiadau'r modiwl Profiad Ymchwil yn bwydo'n uniongyrchol i waith parhaus yn y Ganolfan Ymchwil Iaith a Chyfathrebu.
Does dim cyfleoedd astudio ffurfiol dramor yn gysylltiedig â'r rhaglen hon.
Arian
Gwaith maes
Fieldwork may be undertaken as part of some assignments. It is also a likely component of your dissertation although this will depend on the dissertation topic you choose.
Camau nesaf
Ymweliadau Diwrnod Agored
Cofrestrwch ar gyfer gwybodaeth am ein dyddiadau yn 2023.Gwnewch ymholiad
Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am y cwrs hwn.Rhyngwladol
Mwy o wybodaeth am ein prifysgol fyd-eang.Dewisiadau eraill y cwrs
Rhagor o wybodaeth
Pynciau cysylltiedig: Iaith a chyfathrebu, Y gyfraith
Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.