Ewch i’r prif gynnwys

Gweminarau ôl-raddedig

Ymunwch â'n staff a'n myfyrwyr am sesiynau byw sy’n ymdrin ag astudiaethau ôl-raddedig ym Mhrifysgol Caerdydd.

Gweminarau Darganfod Caerdydd

Ymunwch â'n gweminarau rhad ac am ddim i gael atebion i'ch cwestiynau a dysgu pam y dylech ddewis Prifysgol Caerdydd ar gyfer eich astudiaethau ôl-raddedig. Mae ein gweminarau Darganfod Caerdydd yn ymdrin ag ystod o bynciau, gan gynnwys cyllid, sut i ymgeisio, a pham dewis astudio ym Mhrifysgol Caerdydd.

Amserlen digwyddiadau sydd ar y gweill

Tanysgrifiwch i'n cylchlythyr ôl-raddedig i dderbyn diweddariadau wrth archebu yn agor ar gyfer sesiynau newydd.

Dewiswch bwnc i weld digwyddiadau yn eich maes diddordeb:

Cyffredinol
Deintyddiaeth
Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol 
Meddygaeth
Optometreg
Y Gyfraith

Cyffredinol

PwncDyddiadAmser
Llety preifat a rhentu 25 Ebrill 2024 13:00 - 13:30
Sesiwn holi ac ateb i fyfyrwyr ôl-raddedig16 Mai 202413:00 - 14:00
Sut i ariannu eich astudiaethau gradd meistr - Myfyrwyr y DU23 Mai 2024 13:00 - 13:30

Deintyddiaeth

PwncDyddiadAmser
Peirianneg Meinweoedd a Meddygaeth Adfywiol (MSc)19 Mehefin 202413:00 - 14:00

Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol

PwncDyddiadAmser
Sesiwn holi ac ateb ar raddau meistr yn y Gyfraith, Gwleidyddiaeth neu Gysylltiadau Rhyngwladol12 Mehefin 202410:00 - 10:45

Meddygaeth

PwncDyddiadAmser
Cyflwyniad i MSc Imiwnoleg Glinigol Cymhwysol ac Arbrofol08 Mai 202414:00 - 15:00

Optometreg

PwncDyddiadAmser
Sut beth yw astudio ar gyfer MSc Optometreg Glinigol ym Mhrifysgol Caerdydd?15 Mai 2024 13:00 - 14:00

Y Gyfraith

PwncDyddiadAmser
Sesiwn holi ac ateb ar raddau meistr yn y Gyfraith, Gwleidyddiaeth neu Gysylltiadau Rhyngwladol12 Mehefin 202410:00 - 10:45

Beth i’w ddisgwyl yn ystod gweminar

Bydd y gyfres gweminarau rhad ac am ddim yma yn cael eu cynnal trwy Zoom. Mae'r digwyddiadau'n cael eu cynnal gan aelodau staff o'n Tîm Recriwtio Ôl-raddedigion a staff addysgu o bob rhan o'r Brifysgol. Bydd rhai o’r cyflwyniadau’n cynnwys y cyfle i glywed barn a phrofiadau myfyrwyr presennol.

Os nac ydych a’r gael i ddod i’r digwyddiad, bydd rhai o’r cyflwyniadau’n cael eu recordio a'u hychwanegu yn ddiweddarach at y dudalen hon.

Cewch gyfle i ofyn cwestiynau ar ddiwedd y digwyddiadau yn ystod y sesiynau holi ac ateb.

Manylion cyswllt

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am ein digwyddiadau, cysylltwch â'n timau ôl-raddedig.