Ewch i’r prif gynnwys

Ein heffaith

Mae ein hymchwilwyr yn rhoi manteision i gymdeithas.

Nod SPARK yw ymgymryd â gwaith ymchwil ar y cyd. Datblygwyd y syniad ar y cyd â phartneriaid allanol, gan gynnwys Nesta, y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol, Cyngor Caerdydd, Llywodraeth Cymru, ONS ac IBM.

Mae’r astudiaethau achos hyn yn dangos sut mae ein hymchwilwyr eisoes yn gwneud gwahaniaeth.

States and capitals of the European Union pinned with golden pins on a cork globe.

Dull newydd o hybu arloesedd rhanbarthol yn yr Undeb Ewropeaidd

Helpodd ymchwil Prifysgol Caerdydd i weithredu rhaglen Arbenigedd Craff yr UE, y rhaglen arloesedd rhanbarthol fwyaf yn y byd.

Beer being poured

Newid agweddau tuag at alcohol

Mae tri ymchwilydd ym Mhrifysgol Caerdydd wedi gwneud gwaith ymchwil i sut mae defnyddio a chamddefnyddio alcohol yn effeithio ar ein cymdeithas, a beth y gellir ei wneud i annog arferion yfed mwy diogel.

Secondary pupils in classroom

Gwerthuso cwricwlwm y Cyfnod Sylfaen

Ail-lunio'r gwaith o gyflwyno addysg blynyddoedd cynnar a chynradd yn effeithiol yng Nghymru.

Dylanwadu ar bolisïau a phlismona trwy fesur casineb ar y we ynghyd â throseddau casineb, a chymryd camau yn eu herbyn.

Mae mwy o droseddau casineb nag erioed yn cael eu cofnodi yng Nghymru a Lloegr, er gwaetha’r ffaith nad yw ehangder y broblem yn eglur am fod y rhan fwyaf o achosion heb eu cofnodi.

Deall faint o gasineb sydd ar led

Mae’r labordy’n defnyddio amryw ddulliau ar gyfer ei ymchwil, megis holiaduron a dysgu peiriannol, i hel tystiolaeth o gasineb ar y we a’r tu allan iddi yng Nghymru, y DU ehangach a’r tu hwnt.

Prosiect Troseddau Casineb Cymru Gyfan, y prosiect cyntaf o'i fath yn y DU, oedd sylfaen rhaglen ymchwil y labordy, a dyma’r astudiaeth fwyaf cynhwysfawr o droseddau casineb yn y DU.

  • Wedi holi 2,000 o bobl.
  • Wedi cyfweld â 60 o ddioddefwyr.
  • Wedi ymgysylltu â 5,000 o ddinasyddion.
Person using laptop

Mae HateLab Prifysgol Caerdydd, canolfan fyd-eang ar gyfer data a doethineb ynghylch geiriau a throseddau casineb, wedi bod yn helpu heddluoedd, llywodraethau a mudiadau’r gymdeithas sifil i fynd i’r afael â throseddau casineb ar y we a’r tu allan iddi.

Mae Llywodraeth Cymru wedi defnyddio tystiolaeth o’r labordy i greu fframwaith trechu troseddau casineb ar gyfer Canolfan Genedlaethol y Troseddau Casineb Ar-lein a mudiadau’r gymdeithas sifil fel y gall yr heddluoedd a’u gweithwyr cynorthwyol fynd i’r afael â geiriau sarhaus ar y we.

Adnabod a monitro geiriau casineb ar-lein

Ar y cyd â'r Athro Pete Burnap (Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg Prifysgol Caerdydd), lluniodd yr Athro Matthew Williams Ddangosfwrdd HateLab yn 2017. Trwy gyfuno modelu ystadegol â dysgu peiriannol i ymdopi â data digynsail o gyfryngau cymdeithasol, llwyddon nhw i sefydlu cronfa dystiolaeth gyntaf y DU ynghylch casineb ar y we ac olrhain sylwadau sarhaus yn ddiymdroi.

Diben y teclyn oedd hwyluso ymatebion diymdroi i gasineb ar y we, gan gynnwys targedu’r rhai oedd yn amlygu casineb dro ar ôl tro ac osgoi troseddau casineb ar y strydoedd. Mae data’r dangosfwrdd wedi galluogi’r awdurdodau i ymateb yn gyflymach, cynorthwyo’r dioddefwyr yn well a dyrannu adnoddau’n well.

Mynd i'r afael â geiriau casineb ar-lein

Mae’r labordy wedi cyfleu darlun cywir o droseddau casineb yng Nghymru a geiriau casineb ar y we.

Tystiolaeth o’r labordy oedd prif ffynhonnell Fframwaith Gweithredu Trechu Troseddau Casineb Llywodraeth Cymru yn 2014 a roes i heddluoedd, awdurdodau lleol a chymdeithasau tai Cymru ffordd effeithiol o ymateb i gasineb.

Mae technolegau’r labordy yng Nghanolfan Genedlaethol Troseddau Casineb Ar-lein Cyngor Penaethiaid yr Heddluoedd, hefyd. Yn rhinwedd ei diben yn ddolen gyswllt i ddioddefwyr casineb ar-lein, mae’r ganolfan yn defnyddio’r dangosfwrdd i baratoi gwybodaeth i’r heddluoedd ac uwch weision sifil.

HateLab accepting an award

Enillodd y labordy wobr Cymru Ddigidol yn 2019 am y defnydd gorau o dechnoleg newydd ac, yn 2020, soniodd Twitter am ei ‘lwyddiant’ ar ei wefan.

Yn y cyfryngau

Cyhoeddodd The Guardian yr erthygl  'Meet the man who won't let the haters win'  am waith yr Athro Williams.

Meet the team

father and son high five in park

Gwella profiadau addysgol plant mewn gofal

Mae ein hymchwil yn gwella profiadau addysgol plant a phobl ifanc yng Nghymru sydd â phrofiad o fod mewn gofal.

Welsh Assembly debating chamber

Gwella’r defnydd o dystiolaeth wrth lunio polisïau

Mae proses arloesol o baratoi gwybodaeth yn ôl y galw wedi cynyddu’r dystiolaeth a ddefnyddir gan Weinidogion a gwasanaethau cyhoeddus yn sylweddol.

Young businesswoman in office having speech and presentation with flip chart

Gwella gwaith cynghorau lleol trwy gymheiriaid

Llunio dulliau y bydd cymheiriaid yn eu harwain i wella gwaith cynghorau lleol Cymru a Lloegr.

Gwnaeth ein hymchwil helpu i dorri cylchoedd cam-drin drwy greu offer ar gyfer plismona rheng flaen mwy effeithiol.

Two police officers

Mae tua 2m o bobl yn dioddef o drais a cham-drin domestig yn y DU bob blwyddyn.

Mae sut mae'r heddlu'n ymateb yn dylanwadu'n uniongyrchol ar b'un a yw dioddefwyr a chyflawnwyr yn derbyn y lefel a'r math priodol o ymyrraeth.

Nododd yr Athro Amanda Robinson, arbenigwr troseddeg yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol a Chyd-Gyfarwyddwr Sefydliad Ymchwil Trosedd a Diogelwch ym Mhrifysgol Caerdydd, newidiadau sydd eu hangen i arferion yr heddlu i wneud ymatebion yn fwy effeithiol.

Darparodd ei hymchwil offer yn seiliedig ar dystiolaeth i dorri cylchoedd cam-drin drwy blismona rheng flaen mwy effeithiol a gwaith partneriaeth gydag asiantaethau eraill.

Wrth wneud hynny, mae gwaith yr Athro Robinson yn:

  • newid sut mae swyddogion yr heddlu yn ymateb i ddioddefwyr a chyflawnwyr yn y DU
  • llywio canllawiau ar gyfer yr heddlu yn y DU ac aelod-wladwriaethau'r UE

Cyn gwaith yr Athro Robinson, roedd swyddogion yn methu â chanfod achosion o gam-drin anghorfforol ac roedd eu hymagwedd tuag at y troseddwyr yn adweithiol i raddau helaeth.

Darparodd yr Athro Robinson y sylfaen dystiolaeth gadarn a'r offer ymarferol sydd eu hangen i wella diogelwch dioddefwyr ac adnabod cyflawnwyr risg uchel.

Ymateb i ddioddefwyr

Roedd yr Athro Robinson yn aelod o'r grŵp cynghori a ddatblygodd DASH (Cam-drin Domestig, Stelcio a Thrais ar Sail Anrhydedd) - rhestr wirio nodi risg a ddefnyddir i dargedu adnoddau at ddioddefwyr sy'n wynebu'r risg fwyaf o niwed pellach.

Ers ei gweithredu ar draws heddluoedd yng Nghymru a Lloegr yn 2009, mae DASH wedi’i defnyddio i nodi tua 100,000 o ddioddefwyr risg uchel bob blwyddyn ar gyfer rheolaeth risg uwch.

Arweiniodd yr Athro Robinson y gwerthusiad annibynnol cyntaf o DASH yn 2014 a chanfu:

  • y gellid gwella'r offeryn trwy ymgorffori dealltwriaeth o 'ymddygiad cymhellol a rheolgar' (a wnaed yn drosedd yn 2015)
  • bod yr heddlu'n canolbwyntio ar drais corfforol wrth ymateb i drais a cham-drin domestig
  • bod cam-drin anghorfforol yn mynd 'o dan y radar' yn aml

Roedd ymchwil yr Athro Robinson yn dangos bod angen offeryn diwygiedig i helpu ymarferwyr i nodi, dogfennu ac ymateb yn fwy effeithiol i ddioddefwyr trais a cham-drin domestig.

Oherwydd maint ac arwyddocâd y gwaith o newid y prif offeryn risg a ddefnyddir yn y DU a nifer sylweddol o aelod-wladwriaethau'r UE, cynhaliwyd ymchwil ychwanegol ar yr offeryn diwygiedig gan y Coleg Plismona.

Er gwaethaf oedi oherwydd COVID-19, mae'r Coleg wedi ymrwymo i gyflwyno'r offeryn diwygiedig yn genedlaethol fesul cam, yn amodol ar brofion parhaus, gan ddechrau yn 2021

Mae datblygu'r offeryn diwygiedig ochr yn ochr â chanllawiau cenedlaethol newydd yn dangos yn glir pa mor bwysig yw ymchwil ac arbenigedd yr Athro Robinson wrth ddatblygu plismona trais a cham-drin domestig ar sail tystiolaeth.

Ymateb i gyflawnwyr

Rhwng 2014 a 2017, arweiniodd yr Athro Robinson chwe phrosiect ymchwil i wella'r ymateb cyfiawnder troseddol i gyflawnwyr trais a cham-drin domestig.

Yn ystod y cyfnod hwn, datblygodd yr Adnodd Adnabod Cyflawnwyr â Blaenoriaeth (PPIT) mewn cydweithrediad ag ymarferwyr cyfiawnder troseddol a llunwyr polisi.

Defnyddir y PPIT gan ymarferwyr rheng flaen i gasglu gwybodaeth am ddeg agwedd ar y troseddwr a'i ymddygiad troseddol.

Ar ôl ei gwblhau, gall gynorthwyo ymarferwyr i wneud penderfyniadau ar sail tystiolaeth ynghylch pa gyflawnwyr ddylai fod yn dargedau â blaenoriaeth ar gyfer monitro a rheolaeth amlasiantaethol.

Yn 2016, cafodd y PPIT ei weithredu'n llwyddiannus fel nodwedd ganolog o brosiectau cyflawnwyr yn heddluoedd Dyfed-Powys, Hampshire a Manceinion Fwyaf.

Mae'r PPIT yn fuddiol iawn i'r heddlu o ran adnabod ein cyflawnwyr trais domestig mwyaf ailadroddus, niweidiol a risg uchel, sydd wedi ein galluogi i ddyrannu adnoddau'n fwy effeithlon. Mae wedi arbed amser ac arian gwerthfawr i'r heddlu ac wedi cynyddu ein heffeithlonrwydd cyffredinol o ran sut rydym yn delio â cham-drin domestig.
Ifan Charles Ditectif Brif Arolygydd, Heddlu Dyfed Powys

Ers hynny, mae'r Athro Robinson wedi gweithio gydag ymarferwyr a llunwyr polisi i gefnogi gweithrediad pellach, gan gynnwys cynllunio gwaith ar gyfer cynlluniau peilot mewn 11 ardal yng Nghymru a Lloegr a datblygu deunyddiau ac adnoddau hyfforddi ategol am ddim i ymarferwyr.

Effaith ar draws yr UE

Rhwng 2018 a 2019, yr Athro Robinson oedd y Cynghorydd Arbenigol ar gyfer astudiaeth UE-gyfan ar asesu risg heddluoedd.

Cynghorodd y tîm ymchwil a chyfrannodd at ddrafftio a diwygio canllawiau ac argymhellion, a gyhoeddwyd i'r heddlu ym mhob un o’r 28 o aelod-wladwriaethau yn 2019.

Mae'r canllawiau hyn, y cyntaf o'u math, yn cynnig dull cyffredin i'w ddefnyddio gan swyddogion yr heddlu ar draws yr UE er mwyn gwella eu hymatebion i ddioddefwyr a chyflawnwyr trais domestig a chamdriniaeth.

Meet the team

Key contacts

Defnyddio fframwaith modelu economaidd rhanbarthol i ddylanwadu ar fuddsoddiadau ynni adnewyddadwy.

Taff Ely Wind Farm in Wales

Fel rhan o’i phroses o bontio i ynni glân, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn chwilio am gyfleoedd i fuddsoddi mewn ynni adnewyddadwy a fyddai hefyd o fudd i economi Cymru.

Mae cynhyrchu ynni yn sbardun allweddol i economi Cymru ond nid oedd hyn yn arwain at fanteision economaidd parhaus i Gymru.

Cynhaliodd tîm o Uned Ymchwil Economi Cymru (WERU) ym Mhrifysgol Caerdydd raglen eang o fodelu economaidd ac adolygiad o’r gadwyn gyflenwi ar gyfer buddsoddiadau ynni arfaethedig, gan gynnwys dadansoddiad o’r manteision economaidd a gynigir gan ffynonellau adnewyddadwy fel ynni gwynt ac ynni’r môr.

O ganlyniad i ddylanwad y gwaith cafwyd buddsoddiad o £87m gan Lywodraeth Cymru mewn ynni adnewyddadwy; penderfyniad gan Lywodraeth Cymru yn erbyn trwyddedu ffracio; buddsoddiad o £100m mewn prosiectau ynni morol; ac agorwyd adnoddau coedwig newydd ar gyfer ffermydd gwynt.

Asesu maint ac amseriad effeithiau economaidd

Un o gyfraniadau allweddol yr ymchwil oedd cynnwys cynhyrchu pŵer ym model Mewnbwn-Allbwn Uned Ymchwil Economi Cymru o economi Cymru.

Rhoddodd y model estynedig hwn dystiolaeth ar sut y gallai gwahanol dechnolegau cynhyrchu trydan gefnogi gweithgarwch economaidd yng Nghymru.

Mewn cyfres o brosiectau ymchwil a gomisiynwyd, defnyddiwyd y model mewn llawer o fanylder ar gyfer technolegau ynni penodol, sef ffracio, ynni morol ac ynni gwynt.

Rhoddodd yr ymchwil ddadansoddiad o botensial economaidd buddsoddiadau ynni adnewyddadwy yn ogystal â sut y gallai buddsoddiadau o’r fath ddod â’r budd economaidd mwyaf i randdeiliaid allweddol yng Nghymru.

Perchenogaeth leol ar gadwyni cyflenwi

Yn hanesyddol, mae buddion ariannol buddsoddiadau cynhyrchu trydan yng Nghymru fel arfer wedi dychwelyd i fuddsoddwyr cyfalaf y tu allan i Gymru, yn hytrach nag ardaloedd lleol ag angen economaidd.

Roedd y modelu economaidd a wnaed gan y tîm ymchwil yn argymell symud tuag at berchnogaeth leol ar brosiectau ynni, er mwyn cadw’r buddion economaidd yng Nghymru.

Ers hynny mae’r ffocws hwn ar berchnogaeth leol wedi’i ymgorffori ym mholisïau Llywodraeth Cymru, a daeth yn elfen graidd o’i pholisi gwydnwch economaidd yn ystod y gwaith cynllunio ar ôl Brexit.

Yn yr adroddiad Cynhyrchu Ynni yng Nghymru, ymrwymodd y Llywodraeth i darged uchelgeisiol o sicrhau bod o leiaf 1 Gigawat o ynni adnewyddadwy mewn perchnogaeth leol erbyn 2030.

Effeithio ar bolisïau a buddsoddiadau Llywodraeth Cymru

Cafodd canfyddiadau’r ymchwil ddylanwad uniongyrchol ar benderfyniadau polisi Llywodraeth Cymru a’i buddsoddiadau mewn ynni adnewyddadwy.

Gwnaeth tystiolaeth a ddangosodd nad oedd ffracio’n arwain at lawer o fanteision o ran cyflogaeth leol yng Nghymru chwarae rhan allweddol wrth lunio’r ddadl yn ystod ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar ffracio, gan ddylanwadu ar farn y cyhoedd a gwleidyddion.

O ganlyniad, a thrwy pholisi, ni fydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi ceisiadau ar gyfer ffracio hydrolig yng Nghymru.

Gwnaeth yr ymchwil hefyd annog Llywodraeth Cymru i symud ei ffocws tuag at roi cymorth ariannol ar gyfer cynlluniau ynni adnewyddadwy lleol, gan ysgogi buddsoddiad o £87m mewn prosiectau ynni adnewyddadwy.

Hwyluso datblygiadau morol a gwynt

Mewn cyfres o adroddiadau i Lywodraeth Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru, defnyddiwyd y modelu economaidd ar gyfer technoleg ynni morol a gwynt.

Defnyddiwyd tystiolaeth o’r potensial sydd gan ddatblygu cadwyn gyflenwi ar gyfer ynni morol yng Nghymru i ddangos potensial economaidd y sector yng Nghymru a hyrwyddo cyfleoedd datblygu. O ganlyniad, cafwyd buddsoddiad o £96m yng Nghymru gan 16 o ddatblygwyr ynni morol.

Defnyddiwyd ymchwil ynghylch potensial gwynt i wneud yr achos dros agor dau safle newydd yng Nghymru i dendrau am ddatblygiadau gwynt, gyda pherchnogaeth leol yn elfen allweddol o'r broses dendro.

Gwaddol economaidd ac ynni

Drwy waith modelu Prifysgol Caerdydd o fanteision lleol gwahanol dechnolegau cynhyrchu trydan dangoswyd sut y gallai perchnogaeth leol fod yn drawsnewidiol o ran gwireddu buddion economaidd lleol.

O ganlyniad i’r dystiolaeth hon cafodd Llywodraeth Cymru ei hannog i bennu targedau uchelgeisiol ar gyfer perchnogaeth leol ar seilwaith ynni; buddsoddi degau o filiynau mewn ynni adnewyddadwy; a defnyddio tystiolaeth ymchwil Prifysgol Caerdydd i gefnogi penderfyniad yn erbyn trwyddedu ffracio.

Mae Ynni Morol Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru wedi rhoi blaenoriaeth i berchnogaeth leol, gan arwain at fuddsoddiad o £100m mewn prosiectau ynni morol a gwneud dau safle ynni gwynt newydd ar raddfa fawr ar gael ar gyfer datblygu sy’n rhoi blaenoriaeth i berchnogaeth leol.

Dyma’r tîm

Cysylltiadau pwysig

Rhoi bwyd ar agenda’r byd

Mae ymchwil arloesol yr Athro Roberta Sonnino wedi helpu i lunio fframwaith cyntaf y byd ar gyfer hyrwyddo sustemau bwyd trefol mwy cynhwysol a chynaladwy.

Girl smoking cigarette stock image

Diogelu iechyd plant drwy ddylanwadu ar bolisi tybaco

Roedd ein hymchwil yn hyrwyddo barn a phrofiadau pobl ifanc yng Nghymru er mwyn llywio deddfwriaeth yn y DU, Ewrop a Seland Newydd.

Plastic in ocean

Lleihau gwastraff plastig untro

Roedd ein hymchwil yn sail ar gyfer newid polisi Llywodraeth y DU o godi tâl am fagiau plastig defnydd untro a chwpanau coffi untro.

Two police officers

Lleihau troseddau treisgar

Rydym yn lleihau troseddau treisgar ledled y DU a thu hwnt drwy gasglu gwybodaeth gan adrannau meddygol a chyfiawnder troseddol at ei gilydd.

Pan gafodd Dr Pete Mackie y gwaith o ymchwilio i ddeddfwriaeth digartrefedd yng Nghymru, roedd yn gwybod ei fod yn “gyfle unwaith mewn cenhedlaeth.”

Yn ystod y misoedd dilynol, arweiniodd dîm o bump o bobl i gynnal adolygiad llawn.

“Pan gynigiai Llywodraeth Cymru'r tendr ar gyfer y darn hwn o ymchwil yn 2011 a chefais i fe, roeddwn yn gwybod fy mod yn mynd i roi pob eiliad o bob dydd ar ei gyfer. Dyna pam o'n i yn y swydd,” meddai.

Yr hyn a ddilynodd oedd adolygiad o ddulliau cymysg ar raddfa fawr a oedd yn ymgysylltu'n eang â'r sector digartrefedd a dyma'r dadansoddiad mwyaf arwyddocaol o ddeddfwriaeth digartrefedd Cymru mewn mwy na deng mlynedd ar hugain.

Roedd dulliau ymchwil i asesu'r ddeddfwriaeth bresennol yn cynnwys coladu a dadansoddi data gweinyddol unigryw ar lefel achosion ar gymorth digartrefedd awdurdodau lleol yng Nghymru, yn ogystal â chyfweliadau manwl gyda phobl a oedd yn gweithio i roi cymorth i'r rhai mewn angen. Roedd yr ymchwil hefyd yn mynd â chynrychiolwyr Llywodraeth Cymru ledled y wlad i weithdai gyda phobl o bob rhan o'r sector.

“Roedd yn ymgymeriad enfawr a chymerodd lawer o'm hamser, bob awr o'r dydd, am fisoedd lawer,” meddai. “Ond roedd angen dull uchelgeisiol a chyfranogol i sicrhau ein bod yn adlewyrchu'r materion ac yn tynnu sylw at ein methiannau ar y cyd â rhai o'r bobl fwyaf difreintiedig yn ein cymdeithas.”

Dull newydd o weithredu

Dangosodd ymchwil Dr Mackie nad oedd deddfwriaeth digartrefedd yng Nghymru, a oedd yn newid i raddau helaeth ers 1977, yn addas i'r diben mwyach, gan mai dim ond awdurdodau lleol oedd yn ei gwneud yn ofynnol i gynorthwyo lleiafrif o bobl ddigartref.

Dywed: “Roedd yr hen ddeddfwriaeth yn gul iawn o ran ei ffocws. Yn syml, roedd yn golygu, pe baech yn deulu mewn angen, byddech yn cael tŷ. Ond os nad oeddech chi'n deulu, byddech chi’n cael dim byd. Roedd hynny'n golygu bod nifer enfawr o bobl yn cael eu heithrio o unrhyw gymorth. Ac ychydig iawn oedd yn y ddeddfwriaeth ynglŷn â cheisio cefnogi pobl cyn iddynt gyrraedd y cam hwnnw yn y lle cyntaf.”

Argymhellodd yr adolygiad hawl gyffredinol i wasanaethau cynharach sy'n canolbwyntio ar atal gyda “dyletswydd newydd i awdurdodau lleol gymryd pob cam rhesymol i sicrhau ateb tai addas i bob aelwyd sy'n ddigartref neu dan fygythiad o ddigartrefedd.”

Defnyddiwyd canfyddiadau ymchwil Dr Mackie yn Cartrefi Papur Gwyn Cymru 2012 Llywodraeth Cymru. Disgrifiwyd y Ddeddf Tai (Cymru) ddilynol – a basiwyd yn 2014 ac a ddechreuodd yn 2015 – gan Lywodraeth Cymru fel “y diwygiad mwyaf sylfaenol i ddeddfwriaeth digartrefedd mewn dros 30 mlynedd.”

Y Ddeddf oedd deddfwriaeth gyntaf y byd i orfodi hawl i atal digartrefedd, gyda dyletswydd newydd i awdurdodau lleol “helpu i atal digartrefedd... i bawb sydd dan fygythiad o ddigartrefedd neu sy'n ddigartref.”

Mae'r Ddeddf yn cynnwys y newid allweddol a argymhellodd adolygiad Dr Mackie: dyletswydd ar awdurdodau lleol i gymryd “camau rhesymol i helpu” pob ymgeisydd sy'n ddigartref neu dan fygythiad o fod yn ddigartref. Yn flaenorol, dim ond i gynorthwyo'r rhai a ystyrir mewn angen blaenoriaethol am gymorth yr oedd yn ofynnol i awdurdodau lleol eu cynorthwyo – tua 54% o bobl ddigartref.

Mae ystadegau Llywodraeth Cymru yn dangos bod dros 36,000 o aelwydydd wedi cael cymorth ers i'r gyfraith newydd ddod i mewn cyn iddynt ddod yn ddigartref. Mae digartrefedd wedi'i atal mewn 65% o achosion, ac mae nifer yr aelwydydd sy'n parhau'n ddigartref yn y pen draw ar ôl cymorth wedi gostwng gan 57%.

“Penderfynodd Llywodraeth Cymru eu bod yn mynd i geisio atal digartrefedd i bawb. Meddwl awyr las go iawn a cham beiddgar oedd hwn – cyntaf i’r byd,” meddai Dr Mackie.

“Darn da o gyfraith yw e. Gallai fod wedi mynd ymhellach ac mae gwaith i'w wneud o hyd - ond roedd yn foment enfawr serch hynny.”

Roedd y newidiadau yng Nghymru hefyd yn sail i ailwampio deddfwriaeth yn Lloegr. Dywedodd yr elusen ddigartrefedd Crisis fod adolygiad Dr Mackie wedi llywio eu trafodaethau'n uniongyrchol gyda Llywodraeth y DU ar y Ddeddf Lleihau Digartrefedd, a gyflwynwyd yn Lloegr yn 2018.

Ers iddo ddechrau, mae dros 250,000 o aelwydydd yn Lloegr wedi cael cymorth cyn dod yn ddigartref, ac mewn bron i 60% o'r achosion hyn, ataliwyd digartrefedd. Roedd y ddeddfwriaeth hefyd yn lleihau nifer yr aelwydydd sy'n parhau'n ddigartref yn y pen draw ar ddiwedd y broses gan tua 50%.

alt text
Rhoddodd Dr Mackie gyngor i drefnwyr Cwpan y Byd i'r Digartref 2019 ynghylch heriau allweddol digartrefedd, a chefnogodd y Brifysgol y digwyddiad drwy gynnal chwaraewyr a phersonél allweddol yn ein neuaddau preswyl yn Nhal-y-bont.

Datgelu anghyfiawnderau drwy ddata

Gyda chefndir mewn Daearyddiaeth Ddynol, nid oedd ei PhD yn gysylltiedig â digartrefedd, ond edrychodd ar lafur plant ym Mheriw. Rhoddodd swydd ymchwil gyntaf Dr Mackie ar gyfer cwmni preifat ei fewnwelediad cychwynnol iddo ar rai o'r anghyfiawnderau sy'n wynebu pobl sy'n profi digartrefedd yng Nghymru.

“Cefais y dasg o gyfweld â phobl sy'n profi digartrefedd fel rhan o grŵp ffocws. Wrth siarad â'r bobl hynny am eu profiadau, roedd yr un heriau ac anghyfiawnderau yn dal i gael eu codi.”

Ar ôl gorffen ei PhD, daeth yn swyddog ymchwil i Shelter Cymru.

“Ar y pryd, roedd yn un o'r unig swyddi ymchwil yn y trydydd sector. Roedd y sefydliad yn eithaf blaengar o ran deall pwysigrwydd ymchwil yn ei waith, a chefais y gefnogaeth fwyaf anhygoel gan bobl a sefydliad sy'n credu bod gan bawb hawl i gartref,” meddai.

“Roedd yn rôl brysur - ac roedd llawer o'r gwaith hwnnw'n canolbwyntio ar grwpiau bregus sydd wedi'u hymyleiddio'n arbennig, fel ffoaduriaid, pobl ifanc, ac roedd hefyd tua adeg yr argyfwng ariannol byd-eang, felly roeddem yn clywed am lawer o brofiadau o gartrefi pobl yn cael eu hailfeddiannu.”

O'r fan honno, daeth Dr Mackie i weithio yn Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio'r Brifysgol.

“Mae gallu manteisio ar brofiad ac adnoddau'r Brifysgol a'u defnyddio yn golygu fy mod wedi gallu ehangu maint a chwmpas fy ymchwil,” meddai, gan ychwanegu bod ei ddyddiau cynnar fel ymchwilydd yn aros gydag ef.

“Siarad â phobl sy'n profi caledi a deall eu profiadau byw oedd y rheswm i mi fynd i mewn i'r maes hwn. Lle bynnag y mae'r ymchwil yn mynd â mi, rhaid i straeon y bobl hyn fod yn ganolog i'r hyn rwy'n ei wneud. Mae arnaf angen y cwestiynau rwy'n eu gofyn am ddata mawr, deddfwriaeth a pholisïau, i fod yn gwestiynau sy'n bwysig ac yn berthnasol iddynt. Allwch chi byth golli golwg ar hynny.”

Digartrefedd a COVID-19

Efallai y bu gwelliannau sylweddol i'r gyfraith yng Nghymru a Lloegr, ond i Dr Mackie, mae'r gwaith yn parhau. Yn ystod y cyfnod hwn, mae ei ymchwil wedi bwydo i drafodaethau polisi yn yr Alban, Canada ac Awstralia.

Ac mae wedi gweithio gyda Llywodraeth Cymru a'r trydydd sector i fonitro ac adolygu effeithiau'r ddeddfwriaeth well yng Nghymru. Arweiniodd cynnydd mewn cysgu ar y stryd yn 2018 at Ymchwiliad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Roedd Dr Mackie yn un o ddim ond dau academydd a alwyd i roi tystiolaeth, a oedd yn seiliedig yn uniongyrchol ar ganfyddiadau ei ymchwil.

Yn 2019, sefydlodd Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol Cymru Grŵp Gweithredu i ddarparu cynllun ar atal a rhoi diwedd ar ddigartrefedd. Dr Mackie oedd yr unig academydd a wahoddwyd i eistedd ar y grŵp o 12, dan gadeiryddiaeth Crisis.

Cyhoeddwyd yr adroddiad terfynol, a gafodd ei lunio o gwmpas pum math o atal digartrefedd a ddatblygwyd gan ymchwil Dr Mackie, yn yr un mis aeth Cymru i'r cyfnod clo oherwydd pandemig COVID-19.

“Daeth yn bwysig iawn ac roedd yn golygu bod gan Lywodraeth Cymru lawer o egwyddorion i'w defnyddio fel sail ar gyfer gwneud penderfyniadau ynghylch eu hymateb COVID tuag at bobl yn cysgu ar y stryd. Mae hefyd yn sail i'w cynlluniau i sicrhau na ddylid gorfodi neb i ddychwelyd i'r strydoedd ar ôl y pandemig,” meddai.

Ychwanegodd: “Dyw'r daith yma ddim yn dod i ben nes ein bod ni wedi dod â digartrefedd i ben. Rwy'n sylweddoli bod y stori hon yn canolbwyntio ar fy nghyfranogiad, ond nid oes dim o gwbl o'm gwaith yn cael ei wneud yn annibynnol. Mae cydweithio â chydweithwyr gwych yn y byd academaidd, gwleidyddiaeth, polisi, llywodraeth leol, y trydydd sector, a hyd yn oed actor achlysurol Hollywood, yn allweddol i gyflawni ein nod ar y cyd.”

Straeon newyddion cysylltiedig

Eitemau newyddion sydd yn gysylltiedig ag ymchwil Dr Mackie.

Homeless World Cup Santiago Ymchwil

Gall Cwpan Pêl-droed Digartref y Byd 'drawsnewid bywydau'

Yn ôl Michael Sheen, actor Hollywood, gall pêl-droed helpu i drawsnewid bywydau wrth i Gaerdydd baratoi i gynnal Cwpan Pêl-droed Digartref y Byd 2019.

Image of male academic speaking before a panel Ymchwil

Mynd i'r afael â chysgu ar y stryd

Academydd yn annerch Ymchwiliad Cynulliad Cenedlaethol Cymru am cysgu ar y stryd yng Nghymru.

Ymchwil

Ymchwilydd wedi'i enwebu ar gyfer gwobr effaith

Mae Dr Peter Mackie o Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio Prifysgol Caerdydd wedi cael ei enwebu am wobr fawreddog am effaith ymchwil gymdeithasol.

Pobl

Yr Athro Peter Mackie

Yr Athro Peter Mackie

Personal Chair

Email
mackiep@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 6223

Partneriaid