Ewch i’r prif gynnwys

Dull newydd o hybu arloesedd rhanbarthol yn yr Undeb Ewropeaidd

Helpodd ymchwil Prifysgol Caerdydd i weithredu rhaglen Arbenigedd Craff yr UE, y rhaglen arloesedd rhanbarthol fwyaf yn y byd.

Mae polisïau rhanbarthol confensiynol wedi canolbwyntio’n bennaf ar ddosbarthu gweithgarwch economaidd rhwng rhanbarthau. Fodd bynnag, helpodd gwaith yr Athro Kevin Morgan (ochr yn ochr â chyn-academydd o Brifysgol Caerdydd, yr Athro Philip Cooke) ar bolisïau arloesedd rhanbarthol i symud y ffocws polisi i gynnwys arloesedd o fewn pob rhanbarth, dull newydd sydd â’r nod o hyrwyddo datblygiad cynhenid o fewn rhanbarthau gwan yn hytrach na dim ond denu cwmnïau sydd â’u pencadlys mewn rhanbarthau cryfach.

Pwysleisiodd yr ymchwil rôl rhwydweithiau rhyng-sefydliadol ar gyfer cyfnewid gwybodaeth a gwerth datblygiadol asedau anniriaethol fel ymddiriedaeth, llais, cyfalaf cymdeithasol, a llywodraethu.

Llywio canllawiau'r Comisiwn Ewropeaidd

Gan adeiladu ar waith ymchwil presennol tîm Prifysgol Caerdydd a’i mentrau cydweithredol hirsefydlog â’r Comisiwn Ewropeaidd ers y 1990au, arweiniodd yr Athro Morgan gonsortiwm ymchwil a ariannwyd gan y Comisiwn Ewropeaidd i weithredu a chefnogi’r Strategaeth Arbenigo Craff (S3, y cyfeirir ati hefyd fel RIS3).

Roedd Arbenigo Craff yn gynllun i gefnogi arloesedd a datblygu, yn enwedig mewn rhanbarthau llai datblygedig, fel rhan o Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop 2014-2020 yr UE. Ei nod oedd galluogi pob rhanbarth i ddod o hyd i’w fanteision cystadleuol ei hun a’u datblygu.

Casglodd yr ymchwil astudiaethau achos o dros ddwsin o ranbarthau i nodi problemau cyffredin ar gyfer arloesedd rhanbarthol ar draws yr holl ranbarthau. Canolbwyntiodd yr Athro Morgan ar lywodraethu prosiectau Arbenigo Craff. Dyma rai o’r prif ganfyddiadau:

  • arwyddocâd llywodraethu yn natblygiad a gweithrediad S3, gan nodi'r rolau a gymerir gan wahanol sefydliadau a sut maent yn rhyngweithio wrth ddylunio a gweithredu strategaethau ac wrth ddatblygu prosesau darganfod entrepreneuraidd
  • yr heriau penodol a wynebir gan Aelod-wladwriaethau a rhanbarthau sydd â systemau ymchwil ac arloesedd llai datblygedig i ddatblygu eu cynlluniau S3 a chynyddu eu heffaith
  • y cysylltiad gwan rhwng S3 ac arloesedd cymdeithasol
  • yr angen am well fetrigau, gwerthuso a monitro ar gyfer cynlluniau S3, gan gynnwys y potensial a gynigir gan weithdrefnau adolygu gan gymheiriaid datblygedig i’w hasesu
  • nodi tagfeydd sefydliadol a systemig ar gyfer S3 ar lefelau cenedlaethol a rhanbarthol
  • yr angen i daro cydbwysedd rhwng parhad a newydd-deb a rhwng dysgu rhyng-ranbarthol ac all-ranbarthol

Defnyddiwyd canfyddiadau’r Athro Morgan i fframio’r egwyddorion llywodraethu ar gyfer gweithredu’r rhaglen S3.

States and capitals of the European Union pinned with golden pins on a cork globe.

Diwygio a datblygu arloesedd rhanbarthol

O ganlyniad i brosiect Arbenigo Craff cafwyd y canfyddiadau empirig cyntaf yn Ewrop ar y profiad ymarferol o raglen S3 a'r heriau y mae rhanbarthau llai datblygedig yn eu hwynebu. Mae hyn yn cynnwys creu rhwydweithiau arloesedd rhwng y byd academaidd a byd diwydiant, datblygu trefniadau llywodraethu cynhwysol, a chofleidio’r cysyniad o arloesedd cymdeithasol.

Defnyddiwyd y canfyddiadau hyn, yn enwedig y rhai ynghylch pwysigrwydd rhwydweithiau arloesedd a threfniadau llywodraethu cynhwysol ac iteraidd, gan y Comisiwn Ewropeaidd a llywodraethau Ewropeaidd rhanbarthol i lywio syniadau a chanllawiau polisi rhanbarthol.

Cafodd yr ymchwil ddylanwad ar ddull strategol newydd ar gyfer datblygu rhanbarthol mewn dau ranbarth penodol: Gwlad y Basg, drwy PCTI Euskadi 2020, a Chymru, drwy strategaeth Economi Sylfaenol (2019) Llywodraeth Cymru.

Mae ymchwil yr Athro Morgan hefyd wedi cael ei defnyddio i ddatblygu dyfodol polisi Ymchwil ac Arloesedd ar gyfer cyfnod nesaf y Fframwaith, 2021-2027.

Roedd gwaith (yr Athro Morgan) yn allweddol o ran datblygu a gweithredu Rhaglen RIS3, sydd heddiw yn ymwneud â phob rhanbarth unigol yn yr UE ac yn dosbarthu tua 40 biliwn ewro mewn cymorth Polisi Cydlyniant Ewropeaidd.
Dr Mikel Landabaso Alvarez Cyfarwyddwr Canolfan Ymchwil ar y Cyd y Comisiwn Ewropeaidd ar gyfer Twf ac Arloesedd

Dyma’r tîm

Cysylltiadau pwysig

Cyhoeddiadau dethol