Ewch i’r prif gynnwys

Newid agweddau tuag at alcohol

Beer being poured

Mae tri ymchwilydd ym Mhrifysgol Caerdydd wedi gwneud gwaith ymchwil i sut mae defnyddio a chamddefnyddio alcohol yn effeithio ar ein cymdeithas, a beth y gellir ei wneud i annog arferion yfed mwy diogel.

Mae eu darganfyddiadau wedi arwain at ddeddfwriaeth wedi'i diweddaru gan Lywodraeth Cymru, gwell mentrau iechyd cyhoeddus, ac offeryn ymyrryd newydd sbon a gynlluniwyd i addysgu'r rhai hynny sydd fwyaf mewn perygl o gamddefnyddio alcohol.

Cyfraith newydd ar brisio alcohol

Mewn rhannau o'r DU lle mae prisiau alcohol yn is, mae cyfraddau'r anafiadau a briodolir i drais yn uwch.

Awgrymodd gwaith ymchwil y byddai cynyddu pris alcohol 1% yn uwch na chwyddiant yn lleihau anafiadau a achosir gan drais 2,200 bob mis.

Fel rhan o Banel Cynghori Llywodraeth Cymru ar Gamddefnyddio Sylweddau, archwiliodd is-bwyllgor dan arweiniad yr Athro Simon Moore yr honiad hwn ymhellach.

Ym mis Mawrth 2020, arweiniodd eu canfyddiadau at basio Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) 2018, gan ei gwneud yn anghyfreithlon i gyflenwi alcohol yng Nghymru o dan yr isafbris.

Ar ôl yr Alban, mae hyn yn gwneud Cymru'r ail wlad yn y byd i ddeddfu a chyflwyno isafbris uned ar gyfer alcohol.

Senedd in Cardiff Bay

Offeryn addysgol 'Mynnwch Air'

Ar ôl mynd i Adran Damweiniau ac Achosion Brys am anafiadau sy'n gysylltiedig ag alcohol, mae cleifion yn aml yn cael cymorth dilynol gan weithwyr gofal iechyd a'r heddlu.

Nodwyd bod y clinigau cleifion allanol hyn yn gyfleoedd delfrydol ar gyfer 'ymyriad byr ar alcohol' (ABI) – sgwrs fer, strwythuredig a gynlluniwyd i annog y person i yfed llai i lefelau mwy diogel.

Cyhoeddwyd canfyddiadau ar yr offeryn hwn, a elwir yn 'Mynnwch Air’, yn 2003. O'r rhai a dderbyniodd ymyriad byr ar alcohol yn y clinig cleifion allanol yn dilyn anaf sy'n gysylltiedig ag alcohol, gostyngodd canran yr "yfwyr peryglus" o 60% i 27%.

Erbyn mis Awst 2016, roedd 13,000 o weithwyr gofal iechyd y DU wedi'u hyfforddi i ddarparu'r offeryn ymyrryd ‘Mynnwch Air'.
Yn 2018, 18% yn unig o oedolion a ddywedodd eu bod wedi yfed mwy na’r symiau wythnosol a awgrymir, o'i gymharu ag 20% yn 2016 (Arolwg Cenedlaethol Cymru).

Friends drinking alcohol together

Ffeithiau allweddol

  • Aeth bron 55,000 o bobl i'r ysbyty gydag anafiadau sy’n gysylltiedig ag alcohol yng Nghymru rhwng 2017-18.
  • Mae hyfforddiant ar sut i ddarparu'r ymyriad 'Mynnwch Air' yn cymryd dwy awr yn unig.

Ymyriad gan Luoedd Arfog y DU

Amcangyfrifir bod un i ddwy ran o dair o bersonél milwrol y DU yn mewn perygl uwch o yfed gormod.

Ym mis Mehefin 2016, gweithiodd ymchwilwyr Caerdydd gyda'r Weinyddiaeth Amddiffyn i helpu i liniaru'r broblem hon.

Hyfforddwyd dros 1,000 o bersonél ar draws yr holl Ganolfannau Gofal Iechyd Sylfaenol Amddiffyn i ddarparu'r offeryn 'Mynnwch Air'.

Yn ystod arolygiadau deintyddol rheolaidd, byddai ymarferwyr wedyn yn asesu arferion yfed personél milwrol. Byddai'r rhai sy'n ymddwyn yn beryglus o ran yfed yn cael cyngor ynghylch arferion yfed iach.

Ers cyflwyno'r rhaglen, sydd wedi'i disgrifio fel un 'trawsnewidiol', mae pob un o'r 140,000 o bersonél lluoedd arfog y DU wedi cael ei sgrinio o leiaf unwaith.

A dentist working on someone's teeth

Publications