Ewch i’r prif gynnwys

Diogelu iechyd plant drwy ddylanwadu ar bolisi tybaco

Roedd ein hymchwil yn hyrwyddo barn a phrofiadau pobl ifanc yng Nghymru er mwyn llywio deddfwriaeth yn y DU, Ewrop a Seland Newydd.

Girl smoking cigarette stock image

Tybaco yw’r achos y gellir ei atal, mwyaf, o afiechydon yn y DU; mae’n achosi 78,000 o farwolaethau bob blwyddyn.

Yng Nghymru, mae deddfwriaeth wedi ceisio mynd i'r afael â'r broblem iechyd cyhoeddus hon, gyda throbwynt ym mis Ebrill 2007 pan waharddwyd ysmygu mewn mannau cyhoeddus.

Yn dilyn y gwaharddiad, cynhaliodd ymchwilwyr Prifysgol Caerdydd gyfres o astudiaethau ymchwil i fynd i'r afael â phryderon cynyddol am:

  • y risgiau o ysmygu gartref ac mewn ceir.
  • y berthynas rhwng e-sigaréts ac ysmygu ymhlith plant a phobl ifanc.

Plant yn dod i gysylltiad â mwg mewn ceir a chartrefi

Trwy gyllid gan Lywodraeth Cymru, cynhaliodd yr ymchwilwyr astudiaeth yng Nghymru oedd yn dwyn y teitl: Plant yn Dod i Gysylltiad â Mwg Tybaco yn yr Amgylchedd (CHETS).

Bu i’r tîm ddadansoddi data biocemegol ac arolygon gan tua 1,750 o blant 10–11 oed, o 75 o ysgolion cynradd ledled Cymru ac a gasglwyd yn y tri mis yn union cyn y gwaharddiad, a blwyddyn yn ddiweddarach.

Yn gyffredinol, canfu'r tîm ostyngiad yn nifer y plant sy'n dod i gysylltiad â mwg ail-law er bod llawer o blant yn parhau i adrodd eu bod yn dod i gysylltiad â mwg ail-law mewn cartrefi a cheir, gyda’r nifer uchaf o blant sy’n parhau i ddod i gysylltiad â mwg yn dod o deuluoedd sy’n fwy tlawd.

Bu i’r astudiaeth arwain yr ymchwilwyr i alw am gamau pellach i reoleiddio ysmygu mewn ceir sy'n cludo plant.

Yn 2014, ailadroddwyd yr arolwg gyda 1,601 o ddisgyblion blwyddyn chwech o Gymru.

Dangosodd tîm Prifysgol Caerdydd, yn y saith mlynedd yn dilyn gwahardd ysmygu mewn mannau cyhoeddus, bod gostyngiadau cyffredinol sylweddol yn nifer y plant sy’n dod i gysylltiad â mwg mewn ceir a chartrefi, i’w weld.

Key facts

  • Roedd canran y plant a ddywedodd fod ysmygu'n cael ei ganiatáu yn eu car teuluol wedi haneru o 18% yn 2008 i 9% yn 2014.
  • Parhaodd 20% o blant â rhiant a oedd yn ysmygu i ddweud bod ysmygu wedi'i ganiatáu yn eu car teuluol yn 2014.
  • Roedd y nifer uchaf o blant sy’n dod i gysylltiad â mwg yn dod o deuluoedd tlotach, o hyd.

Ym mis Hydref 2015, llywiodd y gwaith ymchwil benderfyniad Llywodraeth Cymru i wahardd ysmygu mewn ceir sy'n cludo plant.

Y tu hwnt i'r DU, cyfeiriwyd at ganfyddiadau'r tîm yn yr Archddyfarniad ar Ansawdd Aer yn yr Amgylchedd a geir mewn Cerbydau Dan Do (2018-19) a fabwysiadwyd gan y Senedd Ffleminaidd, ac a gadarnhawyd ym mis Rhagfyr 2018.

Ymddangosiad risg newydd oherwydd e-sigaréts

Yn dilyn y gwaharddiad ar ysmygu mewn mannau cyhoeddus, dechreuodd e-sigaréts ddod i'r amlwg yn broblem bosibl o ran rheoli tybaco.

Mae e-sigaréts yn creu heriau o ran sicrhau cydbwysedd wrth reoleiddio, yn benodol rhwng lleihau’r niwed i oedolion drwy eu helpu i roi'r gorau i ysmygu yn erbyn y pryderon y gallai e-sigaréts fod yn llwybr at ddefnyddio tybaco ac ysmygu ymhlith pobl ifanc.

Ym mis Mai 2015, cyflwynodd Ysgrifennydd Iechyd Cymru, Fil Iechyd y Cyhoedd (Cymru), gyda'r nod o ddefnyddio dyfeisiau e-sigaréts yn unol â'r cyfyngiadau presennol ar ysmygu mewn mannau cyhoeddus a gweithleoedd caeedig.

Tua'r adeg hon, cyhoeddodd tîm Prifysgol Caerdydd rai o'r amcangyfrifon cyntaf o ran y defnydd o e-sigaréts ymhlith pobl ifanc. Roedd y rhain yn dangos, er bod nifer yr achosion o arbrofi gydag e-sigaréts yn gyfartal â rhoi cynnig ar ysmygu yng Nghymru, roedd defnydd rheolaidd ohonynt yn brin, yn enwedig ymhlith pobl nad ydynt yn ysmygu. Roedd hyn yn herio rhagdybiaethau a ddefnyddiwyd i gyfiawnhau'r ddeddfwriaeth hon bod e-sigaréts yn ailnormaleiddio ysmygu.

Roedd gwaith ymchwil Prifysgol Caerdydd i’w weld yn helaeth mewn tystiolaeth ysgrifenedig i Lywodraeth Cymru yn gwrthwynebu'r gwaharddiad ar e-sigaréts, yn ystod y cyfnod ymgynghori ar gyfer y Bil.

Yn dilyn yr ymgynghoriadau, ni chafodd Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) gwreiddiol ei basio'n gyfraith.

Yn hytrach, cafodd y rheolau sy'n ymwneud â gwahardd e-sigaréts mewn mannau cyhoeddus caeedig eu dileu a chafodd drafft newydd o'r Bil ei basio'n gyfraith, sef Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017.

Yn dilyn tynnu e-sigaréts o'r ddeddfwriaeth hon, aeth yr ymchwilwyr ymlaen i archwilio'r tueddiadau o ran arferion ysmygu pobl ifanc gan fod e-sigaréts yn dod i'r amlwg yn y DU, a hynny’n rhan o werthusiad o reoliadau Cyfarwyddeb Cynhyrchion Tybaco yr UE dan arweiniad tîm Prifysgol Caerdydd. Canfu'r astudiaeth nad amharwyd ar y gostyngiad yn y niferoedd oedd yn ysmygu a chynnydd mewn agweddau gwrth-ysmygu, gan y ffaith fod e-sigaréts yn dod i’r amlwg. Yn un o'r astudiaethau cyntaf o'i bath, mae'r canfyddiadau hyn wedi cael eu hailadrodd mewn nifer o gyd-destunau rhyngwladol ers hynny.

Cefnogwyd y canfyddiadau gan drydydd arolwg Cymru gyfan dan arweiniad y tîm yn 2019, a ddatgelodd:

  • bod y rhan fwyaf o blant yn deall bod defnydd oedolion o e-sigaréts yn arddangosiad cymdeithasol o ymgais i roi'r gorau i ysmygu, yn hytrach nag yn gymeradwyaeth i ysmygu
  • nad oedd defnydd rhieni o e-sigaréts i roi'r gorau i ysmygu yn gysylltiedig â chreu dealltwriaeth barhaus bod ysmygu yn rhywbeth 'normal'.

Y tu allan i Gymru, cyfeiriwyd hefyd at waith ymchwil ar y cyd ar e-sigaréts, yr oedd tîm Prifysgol Caerdydd yn rhan ohono, mewn dogfen strategaeth rhoi'r gorau i ysmygu mewn dogfen yn 2019 gan Gweithredu ynghylch Ysmygu ac Iechyd (ASH) Seland Newydd, a, Rhoi Diwedd ar Ysmygu Seland Newydd.

Roedd yn cynnwys gwaith ymchwil oedd yn lleddfu ofnau bod e-sigaréts yn arwain at wneud ysmygu yn normal unwaith eto ac yn annog pobl ifanc i ysmygu.

Cynlluniwyd y strategaeth a gynhyrchwyd ar y cyd ar ffurf dogfen lobïo i gynyddu momentwm sy'n cyd-fynd â nod Llywodraeth Seland Newydd i leihau nifer yr achosion o ysmygu i <5% erbyn 2025.

Ym mis Tachwedd 2020, pasiodd Llywodraeth Seland Newydd Ddeddf Diwygio Amgylcheddau Di-fwg a Chynhyrchion a Reoleiddir (Defnyddio E-sigaréts) 2020 gyda chyfeiriadau penodol at waith ymchwil Prifysgol Caerdydd yn nogfennau'r Cabinet yn trafod y gwelliannau.

Meet the team

Key contacts

Publications