Ewch i’r prif gynnwys

Rhoi bwyd ar agenda’r byd

Mae ymchwil arloesol yr Athro Roberta Sonnino wedi helpu i lunio fframwaith cyntaf y byd ar gyfer hyrwyddo sustemau bwyd trefol mwy cynhwysol a chynaladwy.

Cyd-destun ymestynnol

  • mae disgwyl y bydd 70% o boblogaeth y byd yn byw mewn ardaloedd trefol erbyn 2050
  • mae trigolion trefi’n bwyta hyd at 70% o’r maeth sydd ar gael, hyd yn oed mewn gwledydd lle mae poblogaethau gwledig mawr
  • mae trefoli cynyddol a chyflym yn bygwth cynaladwyedd cadwyni cyflenwi ac argaeledd digon o fwyd

Diben ymchwil amlochrog yr Athro Sonnino, sy’n cyfuno ymchwil i gadwyni cyflenwi byrion, caffael cyhoeddus, diogelwch bwyd a llywodraethu bwyd yw helpu i ddatrys y broblem fyd-eang hon.

Pennu’r agenda

Yn 2016, bu’r Athro Sonnino yn ymgynghorydd arbenigol i brosiect o dan nawdd Undeb Ewrop, Arloesi er Cynhyrchu, Darparu a Defnyddio Bwyd Dinasoedd yn Gynaladwy ac yn Iach. EUROCITIES (rhwydwaith o gynrychiolwyr llywodraethau dros 130 o ddinasoedd mwyaf Ewrop) gynhaliodd y prosiect a gasglodd i’w dadansoddi ddata o ddinasoedd oedd am newid eu sustemau bwyd ledled y byd.

Gwelodd y tîm yn fuan y gallai ymchwil ac arian ar gyfer arloesi fod yn bwysig ac yn effeithiol ynghylch llunio sustemau newydd, argymell ffyrdd gwell o gydlynu gwahanol adnoddau a hyrwyddo arloesi yn ôl pedwar maes:

  • ystyried sustemau: gallu llywodraethau dinasoedd i ddeall bod bwyd yn sustem gymhleth, a chydio yn y syniad hwnnw
  • cyfranogiad gwell yn y gymdeithas sifil: ymdrechion penodol gan lywodraethau dinasoedd i sefydlu trefniadau llywodraethu bwyd mwy cynhwysol a democrataidd
  • cyfuno polisïau bwyd: cynnwys bwyd ymhlith sectorau a blaenoriaethau eraill megis tai, cludiant, llesiant a’r amgylchedd
  • cynghreiriau traws-leol blaengar: rhwydweithiau byd-eang o ddinasoedd ar gyfer cyfnewid gwybodaeth a lledaenu’r arferion gorau

Meithrin consensws a threfnu camau

Ar lefel uchaf llywodraethu Ewrop a’r byd, mae’r Athro Sonnino wedi dweud bod angen trawsffurfio sustemau bwyd trefol yn fater o frys. Trwy ymchwil, cynrychioli a thystiolaeth arbenigol, mae hi wedi codi ymwybyddiaeth o oes newydd ynghylch ymyrraeth fyd-eang a hwyluso buddsoddi sylweddol ar ei chyfer, gan greu newid parhaol er lles cymunedau ar draws gwledydd a chyfandiroedd.

Mae ffyrdd arloesol o drefnu sustemau bwyd cynhwysol a chynaladwy wedi deillio o waith yr Athro Sonnino, ac mae’i dylanwad yn amlwg yn y cyfeiriad strategol newydd (diwygio polisïau ac arferion a buddsoddi mewn ymchwil ac arloesi) ar draws sefydliadau yn Ewrop a’r tu hwnt.

Strategaeth newydd y Cenhedloedd Unedig a’i hariannu

Arweiniodd yr Athro Sonnino (yr unig arbenigwr allanol) brosiect 18 mis Sefydliad Bwyd ac Amaeth y Cenhedloedd Unedig (UN FAO), a arweiniodd at Fframwaith Agenda’r Bwyd Trefol.

Mae’r fframwaith yn gofyn i’r Cenhedloedd Unedig roi cymorth trylwyr mewn saith maes megis arian i helpu llywodraethau lleol i fynd i’r afael â diogelwch bwyd trefi a sefydlu sustemau bwyd cynaladwy. At hynny, mae’n nodi bod angen helpu yn sustem ein bwyd bobl sydd heb elwa ar gamau blaenorol y Cenhedloedd Unedig megis masnachwyr, cyfanwerthwyr, proseswyr a gwerthwyr yn y strydoedd.

Mae $20 miliwn wedi’u rhoi i’r saith maes hyd yma er mwyn newid sustemau Tiwnisia, Gwlad Bangla, Periw, Ecwador, Mecsico, Costa Rica, Wcráin a Tanzania.

Agenda bwyd trefol newydd i Gomisiwn Ewrop

A hithau’n Is-gadeirydd Grŵp Arbenigol FOOD 2030 Comisiwn Ewrop, arweiniodd yr Athro Sonnino broses llunio adroddiad a ddywedodd fod sustemau bwyd yn flaenoriaeth i’w hariannu yng nghyfres nesaf ymchwil Ewrop. O ganlyniad, cyhoeddodd y comisiwn ddau wahoddiad newydd ar gyfer ariannu gan ddyrannu:

  • €15M i ddau brosiect mewn 13 gwlad (Yr Eidal, Denmarc, Gwlad Belg, Ffrainc, yr Almaen, Sbaen, Slofenia, yr Iseldiroedd, y Deyrnas Gyfunol, Gwlad Pwyl, Sweden, Romania a Gwlad Groeg)
  • €34M i lunio polisïau bwyd trefol ymhlith aelodau Undeb Ewrop i gyd

Yn sgîl yr ail wahoddiad, mae arian wedi’i roi ar gyfer tri phrosiect gan gynnwys un gwerth €12M o’r enw ‘Building Pathways Toward FOOD 2030-led Urban Food Policies’ (FOODTRAILS). O dan adain Dinas Milan, bydd yr Athro Sonnino yn gydlynydd gwyddonol cyffredinol i’r prosiect sy’n ymwneud ag 11 dinas ledled Ewrop yn ogystal â 21 dinas mewn 13 gwlad y tu hwnt i’r cyfandir.