Ewch i’r prif gynnwys

Lleihau gwastraff plastig untro

Plastic in ocean

Roedd ein hymchwil yn sail ar gyfer newid polisi Llywodraeth y DU o godi tâl am fagiau plastig defnydd untro a chwpanau coffi untro.

Mae lleihau gwastraff plastig untro yn broblem sy’n galw am newid ymddygiad eang ymhlith y cyhoedd gyda chefnogaeth deddfwriaeth effeithiol.

Bu ymchwil dan arweiniad yr Athro Wouter Poortinga o'r Ysgol Seicoleg ac Ysgol Pensaernïaeth Cymru yn mesur effaith bagiau plastig a chwpanau coffi untro a'r graddau roedd y cyhoedd yn barod i dalu amdanynt. Dyma'r ymchwil gyntaf i nodi cefnogaeth gynyddol gan y cyhoedd i'r taliadau yn ogystal â'u hawydd cynyddol am newidiadau polisi cysylltiedig eraill.

Roedd yr ymchwil yn sail i newidiadau polisi gan Lywodraethau Cymru, yr Alban a'r DU, a arweiniodd at godi tâl am fagiau plastig a chwpanau coffi untro. Llwyddodd hefyd yn uniongyrchol i atal 9.4 miliwn o gwpanau coffi untro cwmnïau arlwyo rhag mynd i safleoedd tirlenwi ac roedd yn ddylanwadol iawn yn y trafodaethau cenedlaethol ar blastigau untro a phecynnu.

Deilliannau ymchwil allweddol

  • Sail ar gyfer newid polisi Llywodraeth y DU ar godi tâl am blastigau untro
  • Atal 9.4 miliwn o gwpanau coffi untro rhag mynd i safleoedd tirlenwi
  • Dylanwadol iawn yn y trafodaethau cenedlaethol ar blastigau untro

Ymchwil sylfaenol

Yn aml nid yw gwastraff plastig yn dadelfennu a gall bara am ganrifoedd mewn safleoedd tirlenwi neu fel sbwriel yn yr amgylchedd naturiol. Yn ei dro, mae hyn yn llygru pridd, afonydd a chefnforoedd, gan niweidio anifeiliaid sy'n byw yn y cynefinoedd hynny. Roedd ein hymchwil ar yr her gymdeithasol sylweddol hon yn cynnwys nifer o brosiectau ymchwil cydgysylltiedig ar godi tâl am fagiau siopa a chwpanau coffi.

Bagiau plastig untro

Yn 2011 cafodd y tîm ymchwil gyllid gan Lywodraeth Cymru i werthuso cyflwyno'r tâl am fagiau siopa yng Nghymru. Yr ymchwil oedd yr astudiaeth maes gyntaf dan reolaeth yn edrych ar effeithiau codi tâl am fagiau siopa o ran ymddygiad ac agweddau. Dangosodd y canlyniadau fod y tâl yn lleihau'r defnydd o fagiau plastig yn sylweddol a bod y polisi wedi dod yn fwy poblogaidd ar ôl cael ei gyflwyno.

Yn 2015 newidiwyd y gyfraith yn Lloegr, gyda siopau'n gorfod codi 5c am bob bag plastig untro. Gyda chyllid ESRC, roedd y tîm ymchwil yn gallu ymchwilio i effaith y tâl am fagiau plastig ar ymddygiad ac agweddau yn Lloegr, a hefyd ddefnyddio data Understanding Society i edrych ar effeithiau tymor hir y tâl am fagiau siopa yng Nghymru.

Un canfyddiad allweddol oedd tystiolaeth o 'orlifo polisi', gyda phobl nid yn unig yn fwy cefnogol i'r tâl am fagiau ar ôl iddo gael ei gyflwyno, ond hefyd yn fwy cefnogol i daliadau eraill i leihau gwastraff plastig.

Cwpanau coffi untro

Arweiniodd canlyniadau’r prosiect bagiau plastig at gydweithrediad rhwng Prifysgol Caerdydd a Bewley’s – un o gwmnïau te a choffi blaenllaw Iwerddon. Cynhaliwyd yr astudiaeth mewn deuddeg safle ledled y DU a reolir gan yr arlwywr contract Bartlett Mitchell, a phedair prifysgol yn y DU rhwng Medi a Rhagfyr 2016.

Canfu'r ymchwil y byddai modd cael lleihad o rhwng 50 a 300 miliwn yn y nifer o gwpanau coffi untro bob blwyddyn trwy gyflwyno mesurau hawdd eu gweithredu, megis caffis yn cynnig cymhellion ariannol a chwpanau eraill y gellid eu hailddefnyddio. Un canfyddiad allweddol oedd bod tâl o 25c ar gwpanau untro'n cynyddu’r defnydd o gwpanau y gellir eu hailddefnyddio, ond nad yw gostyngiad ar gwpanau y gellir eu hailddefnyddio yn gwneud hynny.

.

“Mae’r ymchwil yn dangos nid yn unig bod taliadau cymedrol ar fagiau plastig a chwpanau coffi untro'n arwain at newidiadau sylweddol mewn ymddygiad, ond hefyd bod y taliadau’n gweithredu fel catalydd i greu ymwybyddiaeth o effeithiau andwyol gwastraff plastig a llygredd. Mae hyn yn helpu i gynyddu cefnogaeth y cyhoedd ar gyfer gweithredu polisi pellach."
Yr Athro Wouter Poortinga - Arweinydd ymchwil

Gwneud gwahaniaeth

Dylanwadodd yr ymchwil ar bolisi, lleihaodd yn uniongyrchol wastraff cwmnïau coffi ac arlwyo yn y DU ac Iwerddon, a dylanwadodd ar y drafodaeth gyhoeddus ynghylch taliadau amgylcheddol.

Influencing policy

Dylanwadu ar bolisïau

Roedd yr ymchwil yn allweddol o ran llywio newidiadau mewn deddfwriaeth - rhai o’r polisïau a’r ymchwiliadau y dylanwadodd arnynt oedd:

  • Ymchwiliad Bagiau Plastig y Pwyllgor Archwilio Amgylcheddol
  • Deddf Amgylchedd Cymru 2016
  • Ymchwiliad y Pwyllgor Archwilio Amgylcheddol, Pecynnu Tafladwy: Cwpanau Plastig a Photeli Plastig: Mis Hydref 2017
  • Bil Economi Gylchol yr Alban

Newidiadau amgylcheddol

Nododd yr ymchwil gydweithredol gyda Bewley's gyfres o newidiadau syml y gallai cadwyni coffi eu rhoi ar waith i leihau'r defnydd o gwpanau untro. O ganlyniad, cadarnhaodd Bewley's:

  • Gostyngiad o 30% yng ngwerthiant cwpanau untro ers cwblhau’r ymchwil yn 2016, gan arbed tua 9.4 miliwn o gwpanau’r flwyddyn rhag mynd i safleoedd tirlenwi
  • Arbedodd un cwmni, Bartlett Mitchell, y defnydd o 500,000 o gwpanau untro
  • Cadarnhaodd data a ddarparwyd gan y pedair prifysgol a gyflwynodd y dreth ar gwpanau untro fod 250k o gwpanau eraill wedi'u harbed rhag mynd i safleoedd tirlenwi o fewn blwyddyn yn unig.

Codi ymwybyddiaeth y cyhoedd ac ysgogi ymateb y diwydiant

  • Adroddwyd yn eang ar ganlyniadau’r ymchwil yn y cyfryngau cenedlaethol a rhyngwladol, gyda thros 200 eitem yn cyrraedd 54% o oedolion y DU rhwng 29 Medi a 31 Hydref 2016
  • Mae 90% o siopwyr yn Lloegr bellach yn defnyddio eu bagiau siopa eu hunain, i fyny o 70% cyn cyflwyno’r ardoll
  • Cafwyd cynnydd o ddeg gwaith yn nifer y Chwiliadau Google am “reusable coffee cups” ar unwaith o'i gymharu â'r lefelau cyn cyhoeddi, ac ers hynny mae'r nifer wedi aros bedair gwaith yn fwy ers dros ddwy flynedd.

Sylw yn y wasg

Crëwyd diddordeb sylweddol yn y cyfryngau gan elfennau plastig untro a chwpanau coffi'r ymchwil.

Guardian Newyddion

Gallai cymhellion ailddefnyddio leihau gwastraff cwpanau coffi untro

Gallai cwpanau am ddim y gellir eu hailddefnyddio, codi tâl o 25c ar gwpanau untro a sloganau gwyrdd leihau'r 2.5bn o gwpanau a deflir bob blwyddyn.

bbc Newyddion

Tâl bagiau plastig: A ellid codi ffi ar becynnu arall?

Cyflwynwyd tâl o 5c am fagiau plastig mewn siopau mawr flwyddyn yn ôl, ac mae ymchwil yn awgrymu ei fod wedi cael effeithiau amgylcheddol cadarnhaol gyda llai o lawer yn cael eu defnyddio.

Mail online Newyddion

Gallai codi tâl am gwpanau coffi untro helpu i greu gostyngiad o 300miliwn yn y nifer a gaiff eu taflu bob blwyddyn

Dywed academyddion ym Mhrifysgol Caerdydd y byddai codi tâl yn lleihau gwastraff a sbwriel.

Cwrdd â’r tîm

Cysylltiadau pwysig

Partneriaid