Ewch i’r prif gynnwys

HateLab: Atal nifer cynyddol y troseddau a’r sarhadau casineb

Dylanwadu ar bolisïau a phlismona trwy fesur casineb ar y we ynghyd â throseddau casineb, a chymryd camau yn eu herbyn.

Mae mwy o droseddau casineb nag erioed yn cael eu cofnodi yng Nghymru a Lloegr, er gwaetha’r ffaith nad yw ehangder y broblem yn eglur am fod y rhan fwyaf o achosion heb eu cofnodi.

Deall faint o gasineb sydd ar led

Mae’r labordy’n defnyddio amryw ddulliau ar gyfer ei ymchwil, megis holiaduron a dysgu peiriannol, i hel tystiolaeth o gasineb ar y we a’r tu allan iddi yng Nghymru, y DU ehangach a’r tu hwnt.

Prosiect Troseddau Casineb Cymru Gyfan, y prosiect cyntaf o'i fath yn y DU, oedd sylfaen rhaglen ymchwil y labordy, a dyma’r astudiaeth fwyaf cynhwysfawr o droseddau casineb yn y DU.

  • Wedi holi 2,000 o bobl.
  • Wedi cyfweld â 60 o ddioddefwyr.
  • Wedi ymgysylltu â 5,000 o ddinasyddion.
Person using laptop

Mae HateLab Prifysgol Caerdydd, canolfan fyd-eang ar gyfer data a doethineb ynghylch geiriau a throseddau casineb, wedi bod yn helpu heddluoedd, llywodraethau a mudiadau’r gymdeithas sifil i fynd i’r afael â throseddau casineb ar y we a’r tu allan iddi.

Mae Llywodraeth Cymru wedi defnyddio tystiolaeth o’r labordy i greu fframwaith trechu troseddau casineb ar gyfer Canolfan Genedlaethol y Troseddau Casineb Ar-lein a mudiadau’r gymdeithas sifil fel y gall yr heddluoedd a’u gweithwyr cynorthwyol fynd i’r afael â geiriau sarhaus ar y we.

Adnabod a monitro geiriau casineb ar-lein

Ar y cyd â'r Athro Pete Burnap (Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg Prifysgol Caerdydd), lluniodd yr Athro Matthew Williams Ddangosfwrdd HateLab yn 2017. Trwy gyfuno modelu ystadegol â dysgu peiriannol i ymdopi â data digynsail o gyfryngau cymdeithasol, llwyddon nhw i sefydlu cronfa dystiolaeth gyntaf y DU ynghylch casineb ar y we ac olrhain sylwadau sarhaus yn ddiymdroi.

Diben y teclyn oedd hwyluso ymatebion diymdroi i gasineb ar y we, gan gynnwys targedu’r rhai oedd yn amlygu casineb dro ar ôl tro ac osgoi troseddau casineb ar y strydoedd. Mae data’r dangosfwrdd wedi galluogi’r awdurdodau i ymateb yn gyflymach, cynorthwyo’r dioddefwyr yn well a dyrannu adnoddau’n well.

Mynd i'r afael â geiriau casineb ar-lein

Mae’r labordy wedi cyfleu darlun cywir o droseddau casineb yng Nghymru a geiriau casineb ar y we.

Tystiolaeth o’r labordy oedd prif ffynhonnell Fframwaith Gweithredu Trechu Troseddau Casineb Llywodraeth Cymru yn 2014 a roes i heddluoedd, awdurdodau lleol a chymdeithasau tai Cymru ffordd effeithiol o ymateb i gasineb.

Mae technolegau’r labordy yng Nghanolfan Genedlaethol Troseddau Casineb Ar-lein Cyngor Penaethiaid yr Heddluoedd, hefyd. Yn rhinwedd ei diben yn ddolen gyswllt i ddioddefwyr casineb ar-lein, mae’r ganolfan yn defnyddio’r dangosfwrdd i baratoi gwybodaeth i’r heddluoedd ac uwch weision sifil.

HateLab accepting an award

Enillodd y labordy wobr Cymru Ddigidol yn 2019 am y defnydd gorau o dechnoleg newydd ac, yn 2020, soniodd Twitter am ei ‘lwyddiant’ ar ei wefan.

Yn y cyfryngau

Cyhoeddodd The Guardian yr erthygl  'Meet the man who won't let the haters win'  am waith yr Athro Williams.

Meet the team