Ewch i’r prif gynnwys

Gwella profiadau addysgol plant mewn gofal

Mae ein hymchwil yn gwella profiadau addysgol plant a phobl ifanc yng Nghymru sydd â phrofiad o fod mewn gofal.

father and son high five in park

Mae plant a phobl ifanc mewn gofal yn y DU yn cyflawni lefelau is o gyrhaeddiad addysgol na’u cyfoedion, oherwydd yr amgylchiadau cymhleth ac aflonyddgar y maent yn byw ynddynt. Mae hyn yn arwain at fwlch treiddiol mewn cyrhaeddiad addysgol rhwng plant mewn gofal a'u cyfoedion.

Yng Nghymru – lle mae nifer y plant a phobl ifanc mewn gofal yn cynyddu (cofnodwyd 6,845 yn 2019) – roedd bwlch o 19% yng Nghyfnod Allweddol 2, yn cynyddu i 37% yng Nghyfnod Allweddol 5.

Mae gwaith gan ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd ar brofiadau addysgol y plant hyn wedi llywio strategaeth Llywodraeth Cymru yn uniongyrchol, datblygu dulliau arloesol o ymgysylltu â phobl ifanc, a chynhyrchu deunyddiau creadigol, hyfforddiant, gweithdai a chymunedau ymarfer ar-lein. Mae hyn wedi gwella profiadau addysgol cyffredinol plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal.

Deall profiadau addysgol plant sy'n derbyn gofal yng Nghymru

Yn 2015, comisiynodd Llywodraeth Cymru Dr Dawn Mannay a Chanolfan Ymchwil a Datblygu Gofal Cymdeithasol Plant (CASCADE) Prifysgol Caerdydd i gynnal y prosiect ymchwil 'Deall profiadau a barn addysgol, cyrhaeddiad, cyflawniad a dyheadau Plant a Phobl Ifanc sy'n Derbyn Gofal yng Nghymru'.

Hon oedd yr astudiaeth gyntaf o’r fath yng Nghymru i adrodd ar brofiadau addysgol a chyfnodau pontio ysgol o safbwynt plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal. Ymgysylltodd ymchwilwyr â 65 o blant a phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal ledled Cymru, drwy gyfweliadau a grwpiau ffocws.

Canfyddiadau allweddol

  • Mae pobl ifanc yn teimlo y dylai fod gan ofalwyr maeth set o sgiliau sylfaenol i gefnogi addysg.
  • Mae diffyg cyllid ar gyfer offer addysgol, yn enwedig TG, yn rhwystr allweddol.
  • Mae pobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal yn dioddef yn addysgol ac yn gymdeithasol oherwydd tarfu a achosir gan newid lleoliad, symud ysgol, a chyfarfodydd gwaith cymdeithasol yn ystod oriau ysgol.

Defnyddiodd y tîm amrywiaeth o dechnegau cyfranogol yn seiliedig ar y celfyddydau i annog plant a phobl ifanc i gymryd rhan weithredol yn y broses ymchwil, cynhyrchu data, a lledaenu negeseuon. Cydnabuwyd y gwaith arloesol hwn gyda Gwobr Arloesi Ymchwil 2017 Cymdeithas Ymchwil Gymdeithasol Cymru, Gwobr Cyflawniad Cynnwys y Cyhoedd 2017 Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, a Medal Dillwyn Cymdeithas Ddysgedig Cymru 2018.

Dylanwadu a newid polisi yng Nghymru

Ymgorfforwyd yr 17 argymhelliad o’r adroddiad i gyd yn strategaeth 2016 Llywodraeth Cymru, Codi uchelgeisiau a chyrhaeddiad addysgol plant sy’n derbyn gofal yng Nghymru. 

Roedd hyn yn cynnwys comisiwn Llywodraeth Cymru o’r rhaglen Maethu Lles sy’n cynyddu mynediad gofalwyr maeth at gymorth cymheiriaid, hyfforddiant a gwybodaeth; cefnogaeth i gyhoeddi Canllaw Gofal Maeth ar Addysg yng Nghymru; a dyrannu cyfran o'r Grant Datblygu Disgyblion i ddarparu hyfforddiant i ofalwyr maeth.

Cadarnhaodd Jonathan Jones, Uwch Reolwr Polisi ar gyfer Grŵp Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus Llywodraeth Cymru, ddylanwad sylweddol yr ymchwil ar waith Llywodraeth Cymru, ymarferwyr, athrawon, a rhanddeiliaid eraill, gan ddweud ei bod wedi helpu i “lunio rhai polisïau anhygoel sy’n gwneud gwahaniaeth go iawn i rai o’n plant a’n teuluoedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru”.

Nododd adolygiad o’r strategaeth flwyddyn yn ddiweddarach enghreifftiau o gynnydd addysgol ar gyfer pobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal. Yn 2016, llwyddodd 23% o blant sy’n derbyn gofal i gyrraedd y trothwy TGAU Lefel 2, gwelliant o 6% ar ffigur cyrhaeddiad 2015.

Dulliau creadigol o ymgysylltu â rhanddeiliaid

Yn aml nid yw astudiaethau ymchwil addysgol yn cyrraedd y bobl a fyddai'n elwa o glywed eu negeseuon allweddol. Er mwyn ymgysylltu’n uniongyrchol â’r rhanddeiliaid hyn, datblygodd tîm Prifysgol Caerdydd ddeunyddiau creadigol a hygyrch, y cynhyrchwyd rhai ohonynt ar y cyd â phlant a phobl ifanc.

Roedd hyn yn cynnwys ffilmiau, fideos cerddoriaeth, darnau celf graffeg, stribedi comig, rhifyn arbennig o'r cylchgrawn Thrive (a gyflwynir i bob person ifanc mewn gofal maeth yng Nghymru), a dau gylchgrawn ar gyfer gofalwyr maeth.

Cadarnhaodd Maria Boffey, Pennaeth Gweithrediadau’r Rhwydwaith Maethu, prif elusen faethu’r DU, fod “gofalwyr maeth wedi rhoi adborth i ni ar sut mae’r ffilmiau, cylchgronau a gweithdai wedi cynnig cyngor, syniadau a gwybodaeth sydd wedi eu helpu i gefnogi plant a phobl ifanc yn eu gofal yn well”.

Effaith barhaol ar bolisi ac ymarfer

Trwy newid polisi a gweithio’n uniongyrchol gyda buddiolwyr yr ymchwil, mae’r gwaith hwn wedi cael effaith barhaol ar bolisi ac ymarfer yng Nghymru, gyda’r raddfa a’r ymchwil yn cael eu hymestyn trwy waith cysylltiedig gyda sefydliadau diwylliannol a chelfyddydol.

Mae’r ymchwil hwn wedi rhoi “cyfle i gael eu clywed” i blant a phobl ifanc, penderfyniad a fydd yn cael “effaith barhaol arnyn nhw eu hunain, y gymuned sydd â phrofiad o fod mewn gofal a chenedlaethau’r dyfodol,” yn ôl Emma Jones, Cydlynydd Byw’n Annibynnol, Roots Foundation.

Fideos

Publications