Ewch i’r prif gynnwys

Ymchwil

Rydym yn gwneud gwaith ymchwil rhyngddisgyblaethol ym maes y gwyddorau cymdeithasol sy’n canolbwyntio ar fynd i’r afael â phroblemau.

Nid yw gwneud gwaith ymchwil rhagorol yn ddigon i fynd i’r afael â phroblemau cymdeithasol, mae angen creu syniadau newydd a fydd yn cael effaith go iawn ar sefyllfaoedd yn ein byd. Wrth i’n grwpiau ymchwil weithio gyda rhai o’n prif bartneriaid, bydd gwaith ein canolfan yn rhoi cyfle i arloeswyr yn y maes ymuno â ni er mwyn gwneud gwaith ymchwil dylanwadol ar y cyd.

Bydd cydweithio’n agosach â sefydliadau ym mhob sector yn ein galluogi i greu gwybodaeth ar y cyd, gan dynnu ar wybodaeth ein partneriaid a’n hymarferwyr o’r cychwyn cyntaf. Mae hyn yn golygu ein bod ni’n gallu profi’r atebion wrth iddynt gael eu datblygu, a chael adborth gan ddefnyddwyr. Gallwn weld effaith go iawn ein hymchwil.

Bydd economi Cymru yn cryfhau o ganlyniad i lwyddiant a datblygiad ein hymchwil, a bydd cyfleoedd cyflogaeth newydd yn cael eu creu. Bydd yn cynyddu cyfleoedd ymchwil i ôl-raddedigion sy’n annog gwaith ymchwil rhyngddisgyblaethol ar y cyd. Bydd y Brifysgol, Caerdydd a Chymru yn ennill eu plwyf fel arweinwyr rhyngwladol wrth gynllunio, datblygu a gwneud gwaith ymchwil arloesol, sy’n seiliedig ar dystiolaeth a fydd yn cael effaith ym maes y gwyddorau cymdeithasol.