Ewch i’r prif gynnwys

Aelodaeth SBARC

SPARK Staff Handover

Cymuned sy'n cael ei gyrru gan arbenigedd, creadigrwydd, chwilfrydedd ac entrepreneuriaeth, a phwyslais ar fynd i'r afael â heriau cymhleth sy'n wynebu cymdeithasau ledled y byd

Mae SBARC yn gartref deniadol ac ysgogol sydd wedi'i chynllunio i annog ffordd greadigol ac anghyffredin o feddwl. Bydd yn dod â chanolfannau ymchwil a sefydliadau gwyddorau cymdeithasol Prifysgol Caerdydd, sydd ar flaen y gad yn rhyngwladol, ynghyd â'n partneriaid eang sy’n gweithio ar draws nifer o sectorau.

Drwy gydol cyfnod y pandemig, mae ein gwyddonwyr cymdeithasol wedi chwarae rhan hanfodol wrth fynd i'r afael ag anghenion llywodraethau, yr economi, ein gwasanaethau cyhoeddus, cymunedau lleol a'r rhai mwyaf agored i niwed mewn cymdeithas. Nid fu erioed cymaint o angen ymchwil ryngddisgyblaethol a chymhleth a arweinir gan wyddoniaeth gymdeithasol drwy gydweithio â phartneriaid yn y diwydiant.

Mae SBARC yn cynnig ymchwil arloesol sy'n canolbwyntio ar atebion ac yn croesawu partneriaid sy'n rhannu gweledigaeth SBARC, i greu cymuned gyntaf o’i bath yn y byd.

Os ydych yn gweithio yn y sector cyhoeddus, y sector preifat neu'r trydydd sector, mae aelodaeth SBARC yn cynnig cyfle i chi gysylltu a chydweithio, datblygu rhwydweithiau ystyrlon a dod o hyd i atebion i broblemau cymdeithasol pwysig. Ymunwch â chymuned gyntaf o’i bath yn y byd.

Mae'r aelodaeth yn cynnwys tri maes allweddol:

Lle i bwy

Ar gyfer unigolion, timau neu sefydliad cyfan

Cytundeb cydweithredol

Yn cwmpasu agendâu ymchwil, arloesi a sgiliau, sut rydych chi am weithio gyda ni

Mynediad a chefnogaeth

Rheolwr Cymunedol SBARC pwrpasol i'ch cefnogi i ddatblygu eich perthynas ar draws y Brifysgol a thu hwnt

Cyfleusterau pwrpasol, ystafelloedd cyfarfod a gofod i gynnal digwyddiadau

Gwneud cais a chost

Mae'r aelodaeth yn amrywio o £56 y mis ar gyfer trefniant desg dros dro, i £220 ar gyfer desg barhaol.

I gael rhagor o wybodaeth am aelodaeth SBARC ac i drafod eich anghenion ymhellach, cysylltwch â: