Ewch i’r prif gynnwys

Gwerthuso cwricwlwm y Cyfnod Sylfaen

Ail-lunio'r gwaith o gyflwyno addysg blynyddoedd cynnar a chynradd yn effeithiol yng Nghymru.

Mae Cyfnod Sylfaen Llywodraeth Cymru yn gwricwlwm statudol newydd radical ar gyfer pob plentyn 3 i 7 oed yng Nghymru, sy’n canolbwyntio ar ddysgu datblygiadol, dysgu drwy brofiad a dysgu gweithredol.

Aeth gwerthusiad o'r Cyfnod Sylfaen gan Brifysgol Caerdydd ati i asesu ei effeithiolrwydd a darparodd argymhellion ar gyfer ei wella’n barhaus.

Arweiniodd yr argymhellion hyn at fuddsoddiad ychwanegol o £1m gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu sgiliau staff y Cyfnod Sylfaen, deunydd canllaw newydd ar gyfer llunwyr polisi ac athrawon, a thargedau newydd uchelgeisiol i gau'r bwlch cyrhaeddiad rhwng myfyrwyr breintiedig a difreintiedig yng Nghymru.

Gwerthuso'r Cyfnod Sylfaen

Yn dilyn y broses gyflwyno (2004 i 2011), cynhaliodd Prifysgol Caerdydd dri gwerthusiad o'r Cyfnod Sylfaen, gan gynnwys gwerthusiad annibynnol tair blynedd a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru. Mae’n un o'r gwerthusiadau mwyaf o gwricwlwm addysg newydd a gynhaliwyd erioed yn y DU.

Arweiniodd yr Athro Chris Taylor dîm sy’n arbenigo mewn polisi addysg, gwerthusiadau, dadansoddi data ar raddfa fawr, a dyluniadau ymchwil cymhleth.

Roedd y gwerthusiadau'n cynnwys arsylwadau yn yr ystafell ddosbarth, arolygon, a data gan lunwyr polisi, athrawon dosbarth a chynorthwywyr addysgu, disgyblion Blwyddyn 2, a thros 1,000 o rieni a gofalwyr.

Ymhlith y prif ganfyddiadau roedd y canlynol:

  • Roedd disgyblion mewn ysgolion lle roedd y Cyfnod Sylfaen wedi’i weithredu’n helaeth yn fwy tebygol o gyflawni dangosydd y Cyfnod Sylfaen yn 7 oed.
  • Roedd gan ysgolion lle roedd y Cyfnod Sylfaen wedi’i weithredu’n helaeth gyfraddau presenoldeb uwch yn yr ysgol gynradd.
  • Roedd cysylltiad cadarnhaol rhwng y Cyfnod Sylfaen a lefelau uwch o gyfranogiad a lles ymhlith y disgyblion a arsylwyd.
  • Roedd gan ysgolion lle roedd y Cyfnod Sylfaen wedi’i weithredu’n helaeth gyfran uwch o ddisgyblion yn cyflawni Lefel 4+ mewn Saesneg CA2.
literacy divide

Gwella'r Cyfnod Sylfaen

Daeth yr ymchwil i'r casgliad bod y Cyfnod Sylfaen wedi bod yn llwyddiannus ac y dylid parhau â’r dull a’r dyluniad ac y dylai Llywodraeth Cymru ei gefnogi.

Lluniodd 29 o argymhellion ffurfiol ar gyfer datblygu'r Cyfnod Sylfaen ymhellach, gan gynnwys mwy o wybodaeth a chyfranogiad i rieni a gofalwyr; yr angen am fwy o hyfforddiant; a chyngor mwy ymarferol i athrawon.

Derbyniwyd pob un o'r 29 o argymhellion yn ffurfiol gan Huw Lewis AC, y Gweinidog Addysg (ar y pryd). Diolchodd i'r ymchwilwyr am eu "dull hynod gadarn a chynhwysfawr" a'u "cefnogaeth a'u hegni parhaus wrth ddarparu profiad addysg gynnar llwyddiannus i'n dysgwyr ieuengaf."

O ganlyniad, sefydlodd Llywodraeth Cymru Banel Arbenigol y Cyfnod Sylfaen i gydgysylltu'r gwaith o roi'r argymhellion ar waith. Arweiniodd hyn at Gynllun Gweithredu 34 pwynt ar gyfer y Cyfnod Sylfaen ym mis Tachwedd 2016.

Ar ôl sefydlu'r cynllun, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gynnydd o £1m i ddatblygu sgiliau addysgu'r rhai sy'n cyflwyno'r Cyfnod Sylfaen a sefydlodd Rwydwaith Rhagoriaeth y Cyfnod Sylfaen i sicrhau bod y Cyfnod Sylfaen yn cael ei weithredu'n gyson ac yn effeithiol.

Secondary pupils in classroom

Mynd i’r afael ag anghydraddoldebau systematig

Un o ganfyddiadau allweddol yr ymchwil oedd nad oedd y Cyfnod Sylfaen yn cael fawr ddim effaith ar fynd i'r afael ag anghydraddoldebau systematig hysbys ymhlith grwpiau penodol o ddisgyblion, megis y rhai sy'n cael prydau ysgol am ddim.

O ganlyniad i'r argymhellion a wnaed, gosododd Llywodraeth Cymru darged cenedlaethol uchelgeisiol i gau'r bwlch cyrhaeddiad rhwng disgyblion breintiedig a disgyblion difreintiedig yn ystod y Cyfnod Sylfaen.

Mae tîm Prifysgol Caerdydd yn ymwneud â gweithgarwch monitro pellach o ran rhoi'r argymhellion ar waith, gan sicrhau bod ansawdd y cynnydd yn cael ei gynnal.

Effaith bwysig ar bob dysgwr ifanc yng Nghymru

Dangosodd gwerthusiad Prifysgol Caerdydd o gwricwlwm newydd y Cyfnod Sylfaen fod polisi addysg blynyddoedd cynnar blaenllaw Cymru yn gwella cyflawniad addysgol, lles a chyfranogiad plant.

Gan weithredu ar ganlyniadau'r gwerthusiad, cytunodd Llywodraeth Cymru i barhau i ddatblygu a gwella'r Cyfnod Sylfaen, gan effeithio'n gadarnhaol ar bob dysgwr ifanc yng Nghymru.

Yn dilyn hynny, dechreuodd Llywodraeth Cymru ailwampio'r cwricwlwm ysgol yn llwyr ar gyfer pob dysgwr hyd at 16 oed, gan ddilyn egwyddorion y Cyfnod Sylfaen.

Meet the team

Key contacts