Ewch i’r prif gynnwys

Dylanwadu ar fuddsoddiadau ynni adnewyddadwy yng Nghymru

Defnyddio fframwaith modelu economaidd rhanbarthol i ddylanwadu ar fuddsoddiadau ynni adnewyddadwy.

Taff Ely Wind Farm in Wales

Fel rhan o’i phroses o bontio i ynni glân, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn chwilio am gyfleoedd i fuddsoddi mewn ynni adnewyddadwy a fyddai hefyd o fudd i economi Cymru.

Mae cynhyrchu ynni yn sbardun allweddol i economi Cymru ond nid oedd hyn yn arwain at fanteision economaidd parhaus i Gymru.

Cynhaliodd tîm o Uned Ymchwil Economi Cymru (WERU) ym Mhrifysgol Caerdydd raglen eang o fodelu economaidd ac adolygiad o’r gadwyn gyflenwi ar gyfer buddsoddiadau ynni arfaethedig, gan gynnwys dadansoddiad o’r manteision economaidd a gynigir gan ffynonellau adnewyddadwy fel ynni gwynt ac ynni’r môr.

O ganlyniad i ddylanwad y gwaith cafwyd buddsoddiad o £87m gan Lywodraeth Cymru mewn ynni adnewyddadwy; penderfyniad gan Lywodraeth Cymru yn erbyn trwyddedu ffracio; buddsoddiad o £100m mewn prosiectau ynni morol; ac agorwyd adnoddau coedwig newydd ar gyfer ffermydd gwynt.

Asesu maint ac amseriad effeithiau economaidd

Un o gyfraniadau allweddol yr ymchwil oedd cynnwys cynhyrchu pŵer ym model Mewnbwn-Allbwn Uned Ymchwil Economi Cymru o economi Cymru.

Rhoddodd y model estynedig hwn dystiolaeth ar sut y gallai gwahanol dechnolegau cynhyrchu trydan gefnogi gweithgarwch economaidd yng Nghymru.

Mewn cyfres o brosiectau ymchwil a gomisiynwyd, defnyddiwyd y model mewn llawer o fanylder ar gyfer technolegau ynni penodol, sef ffracio, ynni morol ac ynni gwynt.

Rhoddodd yr ymchwil ddadansoddiad o botensial economaidd buddsoddiadau ynni adnewyddadwy yn ogystal â sut y gallai buddsoddiadau o’r fath ddod â’r budd economaidd mwyaf i randdeiliaid allweddol yng Nghymru.

Perchenogaeth leol ar gadwyni cyflenwi

Yn hanesyddol, mae buddion ariannol buddsoddiadau cynhyrchu trydan yng Nghymru fel arfer wedi dychwelyd i fuddsoddwyr cyfalaf y tu allan i Gymru, yn hytrach nag ardaloedd lleol ag angen economaidd.

Roedd y modelu economaidd a wnaed gan y tîm ymchwil yn argymell symud tuag at berchnogaeth leol ar brosiectau ynni, er mwyn cadw’r buddion economaidd yng Nghymru.

Ers hynny mae’r ffocws hwn ar berchnogaeth leol wedi’i ymgorffori ym mholisïau Llywodraeth Cymru, a daeth yn elfen graidd o’i pholisi gwydnwch economaidd yn ystod y gwaith cynllunio ar ôl Brexit.

Yn yr adroddiad Cynhyrchu Ynni yng Nghymru, ymrwymodd y Llywodraeth i darged uchelgeisiol o sicrhau bod o leiaf 1 Gigawat o ynni adnewyddadwy mewn perchnogaeth leol erbyn 2030.

Effeithio ar bolisïau a buddsoddiadau Llywodraeth Cymru

Cafodd canfyddiadau’r ymchwil ddylanwad uniongyrchol ar benderfyniadau polisi Llywodraeth Cymru a’i buddsoddiadau mewn ynni adnewyddadwy.

Gwnaeth tystiolaeth a ddangosodd nad oedd ffracio’n arwain at lawer o fanteision o ran cyflogaeth leol yng Nghymru chwarae rhan allweddol wrth lunio’r ddadl yn ystod ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar ffracio, gan ddylanwadu ar farn y cyhoedd a gwleidyddion.

O ganlyniad, a thrwy pholisi, ni fydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi ceisiadau ar gyfer ffracio hydrolig yng Nghymru.

Gwnaeth yr ymchwil hefyd annog Llywodraeth Cymru i symud ei ffocws tuag at roi cymorth ariannol ar gyfer cynlluniau ynni adnewyddadwy lleol, gan ysgogi buddsoddiad o £87m mewn prosiectau ynni adnewyddadwy.

Hwyluso datblygiadau morol a gwynt

Mewn cyfres o adroddiadau i Lywodraeth Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru, defnyddiwyd y modelu economaidd ar gyfer technoleg ynni morol a gwynt.

Defnyddiwyd tystiolaeth o’r potensial sydd gan ddatblygu cadwyn gyflenwi ar gyfer ynni morol yng Nghymru i ddangos potensial economaidd y sector yng Nghymru a hyrwyddo cyfleoedd datblygu. O ganlyniad, cafwyd buddsoddiad o £96m yng Nghymru gan 16 o ddatblygwyr ynni morol.

Defnyddiwyd ymchwil ynghylch potensial gwynt i wneud yr achos dros agor dau safle newydd yng Nghymru i dendrau am ddatblygiadau gwynt, gyda pherchnogaeth leol yn elfen allweddol o'r broses dendro.

Gwaddol economaidd ac ynni

Drwy waith modelu Prifysgol Caerdydd o fanteision lleol gwahanol dechnolegau cynhyrchu trydan dangoswyd sut y gallai perchnogaeth leol fod yn drawsnewidiol o ran gwireddu buddion economaidd lleol.

O ganlyniad i’r dystiolaeth hon cafodd Llywodraeth Cymru ei hannog i bennu targedau uchelgeisiol ar gyfer perchnogaeth leol ar seilwaith ynni; buddsoddi degau o filiynau mewn ynni adnewyddadwy; a defnyddio tystiolaeth ymchwil Prifysgol Caerdydd i gefnogi penderfyniad yn erbyn trwyddedu ffracio.

Mae Ynni Morol Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru wedi rhoi blaenoriaeth i berchnogaeth leol, gan arwain at fuddsoddiad o £100m mewn prosiectau ynni morol a gwneud dau safle ynni gwynt newydd ar raddfa fawr ar gael ar gyfer datblygu sy’n rhoi blaenoriaeth i berchnogaeth leol.

Dyma’r tîm

Cysylltiadau pwysig