Ewch i’r prif gynnwys

Cyfleuster Genomeg Parc Geneteg Cymru

Llwyfan dilyniannu ar raddfa gynhyrchu yw'r Illumina NovaSeq 6000.
Illumina NovaSeq 6000 – llwyfan dilyniannu ar raddfa gynhyrchu.

Harneisio geneteg a genomeg i hyrwyddo ymchwil, gofal iechyd, addysg ac arloesi.

Rydym yn darparu gwasanaeth dadansoddi dilyniannau a biowybodeg pwrpasol i wyddonwyr ymchwil fiofeddygol ledled Cymru.

Defnyddir dilyniant DNA a RNA trwybwn uchel (cenhedlaeth nesaf) fel mater o drefn mewn ymchwil ym maes geneteg a biofeddygaeth fodern, ar gyfer ystod o gymwysiadau.

Mae Parc Geneteg Cymru yn cynnig dull hyblyg, pwrpasol o helpu ymchwilwyr i gyrchu technoleg dilyniannu trwybwn uchel a dadansoddiadau biowybodegol cysylltiedig ar gyfer ymchwil fiofeddygol yng Nghymru. Rydym yn gweithio gyda chydweithwyr academaidd ac eraill ac yn cynnig cyngor a chymorth arbenigol sy ‘n diwallu anghenion prosiectau ymchwil, o ddylunio prosiectau i ddadansoddiadau trydyddol.

Rydym yn gweithio i sicrhau bod modd cael gafael ar y technolegau hyn am gost resymol er mwyn annog pobl i ddefnyddio'r dechnoleg sylfaenol hon.

Cyfleusterau technegol

Genome scale next generation sequencing (NGS)

Mae labordy Cyfleuster Genomeg Parc Geneteg Cymru, sydd wedi’i leoli yn Adeilad Syr Geraint Evans, safle Parc y Mynydd Bychan, yn defnyddio offer NGS ym Mhrifysgol Caerdydd a Gwasanaeth Genomeg Cymru Gyfan y GIG (AWMGS). Trwy’r trefniadau gweithio hyblyg hyn, gallwn gynnig mynediad i sawl platfform NGS:

  • Illumina MiSeq
  • Illumina NextSeq
  • Illumina NovaSeq

Biowybodeg

Gan weithio’n agos gyda’r labordy dilyniannu, mae ein tîm bach o biowybodegwyr mewn sefyllfa i’ch helpu chi gyda’r her o fynd o ddata crai i wybodaeth wedi’i churadu i’ch galluogi i gael dirnadaethau o’ch arbrofion. Ein nod yw sicrhau bod ymchwilwyr meddygol ledled Cymru yn ymelwa’n briodol ar Ddata Mawr genomig.

Rydym yn cydweithio â chydweithwyr sy’n gweithio gyda Labordai Genomig Parc Geneteg Cymru i gynhyrchu data mawr genomig ar gyfer eu hymchwil. Lle y gallwn, rydym hefyd yn cydweithredu â chydweithwyr ledled Cymru sy’n gofyn i hybiau dilyniannu trydydd parti fodloni eu gofynion dilyniannu..

Beth rydyn ni’n ei wneud a sut gallwn ni helpu

Rydym yn darparu piblinell gyflawn i gydweithwyr ar gyfer dadansoddi Dilyniannau DNA a RNA ar raddfa enomig mewn meysydd o ymchwil enetig sy’n bwysig yn feddygol fel canser, clefyd cardiofasgwlaidd etifeddol ac anhwylderau niwrolegol, sy’n feysydd iechyd y mae Llywodraeth Cymru yn rhoi blaenoriaeth iddynt.

Bydd ein tîm yn cefnogi’ch prosiect o’r cam dylunio cychwynnol i wneud ceisiadau am grant, gwaith labordy, cynhyrchu data, a dadansoddi cynradd, eilaidd a thrydyddol. Rydym yn gweithio’n hyblyg gydag ymchwilwyr i gefnogi dangosyddion perfformiad allweddol sy’n gysylltiedig ag ymchwil.

Rydym yn frwd o blaid hyrwyddo rôl dilyniannu trwybwn uchel mewn ymchwil fiofeddygol fodern, gan weithio’n agos gyda chydweithwyr ymchwil ac annog y defnydd ohono trwy weithdai a seminarau.

Ein polisi cyllido

Caiff Parc Geneteg Cymru ei ariannu gan Lywodraeth Cymru drwy Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru fel grŵp cymorth seilwaith. Fel y cyfryw, rydym yn gweithio ar y cyd â phartneriaid i fodloni gofynion pob prosiect a darparu allbynnau sydd o fudd i’r bawb.

Cysylltwch â walesgenepark@cardydd.ac.uk i gael mwy o wybodaeth.