Monitro ac adolygu
Nodir ein dull o reoli ansawdd yn glir yn ein polisïau a chodau ymarfer sicrhau ansawdd.
Fe’u hategir gan:
- egwyddorion academaidd cadarn
- llais gwybodus y myfyrwyr
- adolygu gan gymheiriaid
- dull amrywiol o sicrhau gwelliant
- mentrau gwella mawr wedi’u hysgogi ar lefel sefydliadol
- ymrwymiad i alinio sicrwydd ansawdd a gwella ansawdd
- ymrwymiad i brosesau rheoli ansawdd sy'n effeithlon ac yn effeithiol.
Mae nifer o’n polisïau, prosesau a gweithgareddau gwella’n gylchol gydag allbwn/mewnbwn sy’n cyfrannu’n uniongyrchol at weithgareddau eraill.
Er enghraifft, bydd adolygiadau a gwelliannau blynyddol yn nodi blaenoriaethau i Ysgolion a ddatblygir i’w hadolygu’n gyfnodol (bob pum mlynedd) a/neu gymeradwyo rhaglenni/darpariaeth gydweithredol pan nodir rhaglenni newydd ac y cânt eu datblygu.
Rydym yn monitro ac yn adolygu rhaglenni a phrofiad addysgol myfyrwyr mewn nifer o ffyrdd:
Proses dactegol flynyddol o ddadansoddi, myfyrio a gwneud penderfyniadau mewn modd tryloyw ar gamau gweithredu a gymerwyd ac sydd eu hangen i wella bob agwedd ar brofiad myfyrwyr (israddedig, ôl-raddedig a addysgir ac ymchwil ôl-raddedig).
Mae’r broses yn uno Ysgolion, Colegau a’r Gwasanaethau Proffesiynol mewn ymdrech i wella’n barhaus ansawdd rhaglenni a’r profiad addysgol.
Proses strategol a gynhelir gan bob Ysgol unwaith bob pum mlynedd fel rhan o raglen dreigl sy’n ystyried ansawdd, dilysrwydd a dichonoldeb yr holl ddarpariaeth addysgol (ar draws rhaglenni israddedig, ôl-raddedig a addysgir ac ymchwil ôl-raddedig) a phob agwedd ar y profiad addysgol a gefnogir gan y Brifysgol.
Mae’n hanfodol i’n dull o gynnal gwaith ymchwil, fel sefydliad ymchwil-ddwys, mae adolygu gan gymheiriaid hefyd yn ategu ein dysgu a’n haddysgu.
Fe’i defnyddiwn mewn sawl ffordd e.e. mewn arholiadau allanol, mewnbwn allanol i adolygu a gwella blynyddol ac adolygu cyfnodol a thrwy achredu proffesiynol.
Mae’r dulliau hyn o weithredu’n ein galluogi i ystyried yr hyn sy’n gweithio’n dda a’r hyn sydd angen ei wella, gan roi pwys a gwerth dyledus i fewnbwn myfyrwyr, arholwyr allanol a chyrff proffesiynol.
Dyluniwyd pob proses mewn ffordd sy’n bodloni gofynion Cod Ansawdd y DU ar gyfer Addysg Uwch.